Agenda item

CWESTIWN GAN HAVARD HUGHES I'R CYNGHORYDD ANN DAVIES - YR AELOD CABINET DROS FATERION GWLEDIG A PHOLISI CYNLLUNIO

“A fydd Cyngor Sir Caerfyrddin yn cefnogi ymgyrch dros Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Dyffryn Tywi? Byddai ffiniau awgrymedig yr ardal hon yn seiliedig ar yr ardal a nodwyd fel "Tirwedd Eithriadol" ar asesiad LANDMAP Cyfoeth Naturiol Cymru.”.

 

Cofnodion:

“A fydd Cyngor Sir Caerfyrddin yn cefnogi ymgyrch dros Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Dyffryn Tywi? Byddai ffiniau awgrymedig yr ardal hon yn seiliedig ar yr ardal a nodwyd fel "Tirwedd Eithriadol" ar asesiad LANDMAP Cyfoeth Naturiol Cymru.”

 

Ymateb gan y Cynghorydd Ann Davies, Aelod Cabinet dros Faterion Gwledig a Pholisi Cynllunio :-

 

“Diolch i chi am eich cwestiwn.  Fel y gwyddoch mae dynodi Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol yn dod o fewn cylch gwaith CNC a Gweinidogion Llywodraeth Cymru, ac er y bydd gan Sir Gaerfyrddin rôl ymgynghori, nid ni sy'n gwneud y penderfyniadau. Hefyd, os caf eich atgoffa Havard nad yw Parc Cenedlaethol neu Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol yn atal peilonau rhag cael eu hadeiladu ar y safleoedd hyn, fel yn Eryri a Bannau Brycheiniog,  a hefyd ni wnaeth Ardal Tirwedd Arbennig atal Tyrbinau Gwynt rhag cael eu hadeiladu ar ben Mynydd y  Betws.  

 

Mae gr?p Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol y Mynyddoedd Cambriaidd wedi bod yn gweithio ar eu cais ers tua 2 flynedd gan ofyn am gefnogaeth y Cyngor gan fod pen gogleddol y Sir yn dod o fewn yr ardal.  Maen nhw wedi cyflwyno eu cais ac wedi cael gwybod gan weinidogion Cymru na fydd y cais yn cael ei asesu tan 2025/26 ar y cynharaf, ac yna dim ond os yw'n mynd i flaen-raglen waith newydd y Llywodraeth.

 

Felly, maen nhw wedi bod yn gweithio ar hyn ers 2021 ac mae'n bosib y bydd ganddyn nhw ymateb erbyn 2026.  Gan gofio bod Bute and Green Gen yn gobeithio cyflwyno cais am Ddatblygiad o Arwyddocâd Cenedlaethol erbyn 2024 - nid yw'r amserlen ar ein hochr ni yn y mater hwn, ac fel y gwyddoch, unwaith eto Llywodraeth Cymru ac nid y Cyngor Sir hwn sy'n penderfynu ar gais am Ddatblygiad o Arwyddocâd Cenedlaethol.

 

O fynd yn ôl at y cwestiwn o Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol, cyn cyflwyno ymateb i'r gr?p Mynyddoedd Cambriaidd, mi wnes i ymgynghori gyda'r tri Chyngor Cymuned sy'n dod o fewn ffin y cais hwn.  Daeth y tri Chyngor Cymuned yn ôl gydag ymateb negyddol.  Mae un ohonynt o fewn llwybr Wysg/Tywi. Ceisiadau cynllunio oedd eu prif bryderon, gan fod cael caniatâd cynllunio ar gyfer ail Gartref Menter Wledig neu ar gyfer siediau ychwanegol ar gyfer ?yna a lloia yn cael ei ystyried yn llawer anoddach mewn ardal sydd wedi ei dynodi'n Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol.  Mae Undeb Amaethwyr Cymru a'r NFU yn erbyn Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol ychwanegol, ac felly hefyd Barciau Cenedlaethol am y rheswm hwn. 

 

A gaf eich sicrhau chi Havard, fy mod yn benderfynol o wneud popeth o fewn fy ngallu i ddiogelu ein tirweddau arbennig ar draws y sir tra hefyd yn sicrhau bod ffermydd a mentrau lleol yn gallu datblygu a chefnogi swyddi o fewn ein hardaloedd gwledig a darparu economi fywiog i'n holl drigolion.

 

Felly, cyn gwneud penderfyniad pendant ar y mater hwn, teimlaf ei bod yn hanfodol bwysig bod ymgynghori'n digwydd gyda'r trigolion a'r busnesau y byddai hyn yn effeithio arnynt.  Mae'n hollbwysig fod unrhyw un sy'n cynnig Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol yn Nyffryn Tywi yn ymgynghori gyda'r rhai sy'n byw yn yr ardal, y rhai sy'n rhedeg busnesau yn yr ardal, cynrychiolwyr etholedig y cynghorau cymuned lleol, cynrychiolwyr etholedig y Cyngor Sir hwn, a mudiadau fel yr undebau amaeth a phartïon eraill sydd â diddordeb. Diolch”.

 

Cwestiwn atodol gan Mr HavardHughes:-

 

“Yn y cyfarfod diwethaf gwnaethoch sôny byddai'r ardaloedd tirwedd arbennig yn cael eu disodli gan ganllawiau ar sut y bydd Cyngor Sir Caerfyrddin yn asesu ei ardaloedd tirwedd yn y dyfodol. Bydd hyn yn rhoi cyflwyniad ar yr ymgynghoriad a'r cyngor yn seiliedig ar y CDLl.  Mae hyn wedi gadael ansicrwydd a phryder ymhlith trigolion.  Pryd fydd hyn yn cael ei gyhoeddi?  A beth ydych chi'n mynd i'w wneud ag e yn dilyn yr ymgynghoriad?

 

Ymateb gan y Cynghorydd Ann Davies, Aelod Cabinet dros Faterion Gwledig a Pholisi Cynllunio i'r cwestiwn atodol:-

 

“Diolch i chi am eich cwestiwn Havard  Hoffwn nodi'n gyflym cyn i mi ateb eich ail gwestiwn, a sylwaf yn eich datganiad i'r wasg yn syth ar ôl eich ymweliad diwethaf yma â'r Siambr, eich bod wedi dweud mai'r "dynodiad Ardal Tirwedd Arbennig wnaeth achub darn Abergwili rhag cael peilonau ac a arweiniodd at eu gosod o dan y ddaear”.   Ga i awgrymu eich bod yn gwirio'ch ffeithiau cyn cyflwyno i 'Wales Online' yn y dyfodol gan nad yw'r Farn Gyfreithiol yn sôn am Ardaloedd Tirwedd Arbennig yn y penderfyniad cloi.  Mae yna sawl rheswm arall, ond nid ydynt yn cynnwys dynodiad Ardal Tirwedd Arbennig, a dyna pam mae angen polisi cryfach a mwy cadarn.  Ac os sylwch yn yr ymgynghoriad ar y CDLl, mae'r fframwaith newydd yr ydym yn ei gynnig – yr asesiadau cymeriad tirwedd - yn cael eu crybwyll yn y ddogfen honno ac awgrymaf eich bod yn mynd yn ôl i edrych ar honno cyn i ni gael sgwrs bellach”.