Agenda item

CWESTIWN GAN CONOR MACDONALD I'R CYNGHORYDD DARREN PRICE - ARWEINYDD Y CYNGOR

“Yn ei maniffesto, ymrwymodd y blaid mewn grym i'r egwyddor o gymdogaethau 20 munud a hyrwyddo teithio llesol.  Mae'r maniffesto'n nodi'n benodol bod "[Awdurdodau Lleol yn] Creu cymhellion i annog pobl i ddefnyddio e-feiciau ac annog pobl i ddefnyddio cynlluniau llogi beiciau, ac archwilio’r posibilrwydd o e-feiciau cargo i ddisodli faniau a lleihau traffig Cerbydau Nwyddau Trwm" yn bwysig i hyn. (Plaid Cymru 2022; Maniffesto Llywodraeth Leol; t. 24) Ers cael ei ethol yn 2022, sut mae'r cyngor wedi hyrwyddo nodau'r ymrwymiadau hyn, yn enwedig yr un yngl?n ag e-feiciau a chynlluniau llogi beiciau?”

 

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd wrth y Cabinet nad oedd yr holwr, Mr Conor MacDonald yn gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod i ofyn ei gwestiwn.  Yn unol â hynny, darllenodd Arweinydd y Cyngor y cwestiwn ar ei ran, fel a ganlyn:

 

“Yn ei maniffesto, ymrwymodd y blaid mewn grym i'r egwyddor o gymdogaethau 20 munud a hyrwyddo teithio llesol. Mae'r maniffesto'n nodi'n benodol bod "[Awdurdodau Lleol yn] Creu cymhellion i annog pobl i ddefnyddio e-feiciau ac annog pobl i ddefnyddio cynlluniau llogi beiciau, ac archwilio’r posibilrwydd o e-feiciau cargo i ddisodli faniau a lleihau traffig Cerbydau Nwyddau Trwm" yn bwysig i hyn. (Plaid Cymru 2022;Maniffesto Llywodraeth Leol; t. 24) Ers cael ei ethol yn 2022, sut mae'r cyngor wedi hyrwyddo nodau'r ymrwymiadau hyn, yn enwedig yr un yngl?n ag e-feiciau a chynlluniau llogi beiciau?”

 

Ymateb gan y Cynghorydd Darren Price, Arweinydd y Cyngor:-

 

“Mae'r testun sy'n cael ei ddyfynnu yn y cwestiwn yn cyfeirio at y maniffesto cenedlaethol a gyhoeddodd Plaid Cymru cyn yr etholiadau Llywodraeth Leol y llynedd.  Yn amlwg bydd yr Aelodau, ac aelodau o'r cyhoedd, yn ymwybodol fod Plaid Cymru yn Sir Gaerfyrddin wedi datblygu ei maniffesto lleol ei hun ac mai ar sail hynny y gwnaethom ymgysylltu gyda thrigolion cyn yr etholiad y llynedd, felly er bod yna rai elfennau o'r maniffesto cenedlaethol sydd wedi'u copïo i'r maniffesto lleol, nid yw hynny'n wir am y testun i gyd, ac mae hyn yn un enghraifft o'r fath.  Wedi dweud hynny, yn amlwg fel Cabinet gwnaethom nodi ein huchelgeisiau o ran teithio llesol ar draws y sir yn ein datganiad gweledigaeth fel Cabinet fis Gorffennaf diwethaf, ac mae cyfeiriad clir at yr angen i ddatblygu'r maes hwn yn y strategaeth gorfforaethol ac yn y cynlluniau busnes y cytunwyd arnynt gan y Cyngor ac sydd yn y broses o gael eu datblygu wrth i ni siarad.  Felly, dim ond i ddarparu rhywfaint o gyd-destun yr hyn yr ydym yn ei wneud gyda golwg ar yr agenda hon:

 

·       Rydym wedi darparu seilwaith ategol ar gyfer cynlluniau llogi e-feiciau Actif sy'n cael eu gwireddu ar hyn o bryd gan Dîm Datblygu Chwaraeon y Cyngor.  Mae'r cydweithwyr Hamdden Actif yn treialu'r cyfleuster llogi 'byw' cyntaf drwy'r ap Actif yng Nghanolfan Hamdden Llanymddyfri yn ystod wythnos yr Eisteddfod.  Os yw'n mynd yn dda, bydd yn cael ei gyflwyno ar safleoedd Canolfannau Hamdden Rhydaman, Caerfyrddin a Llanelli. Erbyn hyn mae gan bob safle orsafoedd gwefru a beiciau, a gwnaethom gynorthwyo drwy osod storfa feicio ddiogel yn y pedwar safle.

 

·       Rydym hefyd yn darparu mannau gwefru e-feiciau yn ddi-dâl mewn wyth lleoliad ar draws y sir, a fydd yn cael eu hyrwyddo ymhellach yn y flwyddyn ariannol sydd i ddod unwaith y bydd yr holl arwyddion wedi'u gosod. Mae'r nifer hwn yn parhau i ehangu. Mae'r lleoliadau presennol yn cynnwys Parc Gwledig Pen-bre, Y Goleudy, Porth y Dwyrain, Canolfan Hamdden Dyffryn Aman, Canolfan Hamdden Caerfyrddin, Canolfan Hamdden Llanymddyfri, Rhodfa'r Santes Catrin, Y Caban ym Mhentywyn, ac yn fuan bydd lleoliad arall yn cael ei gyflwyno yn Hwb Beicio Cwmaman yn y Garnant.

 

·       Rydym wedi prynu deuddeg e-feic cargo ac rydym yn treialu eu defnydd trwy Ardal Gwella Busnes Llanelli - rydym wedi bod yn ymgysylltu â grwpiau Canol y Dref a chydweithwyr Adfywio er mwyn cyflwyno hyn yn ehangach yn 2023/24.

 

·       Fel rhan o ymrwymiad y Cyngor i hyrwyddo teithio llesol, mae gorsafoedd llogi beiciau wedi'u gosod yng Ngorsaf Fysiau Caerfyrddin, cyfnewidfa Porth Tywyn, a Gorsaf Reilffordd Llanelli. Mae pobl yn gallu neilltuo beiciau ar-lein neu drwy neges destun a'u casglu o orsafoedd docio am gyn lleied â £3.50 y dydd. Brompton Bike Hire sy'n gyfrifol am y beiciau a gellir eu plygu a'u cario ar drafnidiaeth gyhoeddus. Ar hyn o bryd mae ganddynt feiciau plygadwy safonol Brompton ond byddant yn cael eu huwchraddio i gynnwys EBromptons yn y dyfodol.

 

·       Bydd llogi beiciau at ddefnydd y gymuned ar gael yn fuan mewn canolfannau hamdden ledled y Sir, ynghyd â mannau parcio beiciau a mannau gwefru beiciau trydan.

 

·       Rydym hefyd, fel y bydd yr aelodau'n ymwybodol, wedi gwneud cynnydd gyda golwg ar lwybr beicio Tywi - Llandeilo ac edrychwn ymlaen at weld hwnnw'n agor ymhen ychydig flynyddoedd.  Yn yr un modd rydym wedi gwneud cynigion am arian grant gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU gyda golwg ar ddatblygu ymhellach yr agenda teithio llesol ledled y sir.  Bydd yr aelodau yn ymwybodol, wrth gwrs, ein bod wedi cyflwyno cynnig am deithio llesol rhwng cynllun Pentre Awel a chanol tref Llanelli o dan y rownd Ffyniant Bro yr haf diwethaf.  Roedd yn siomedig wrth gwrs na chafodd y cynnig hwnnw ei gefnogi gan Lywodraeth Geidwadol y DU.  Roedd yn siomedig ar sawl ffrynt wrth gwrs, roeddem wedi buddsoddi'n helaeth fel Cyngor, roedd llawer o amser swyddogion wedi mynd i mewn i'r cynnig hwnnw, ac roeddem yn hyderus bod y cynnig yn gwneud synnwyr o ran ei amcanion ac o safbwynt ariannol; ond wrth gwrs darganfuom yn ddiweddarach nad oedd gennym obaith o lwyddo yn yr ail rownd honno mewn gwirionedd oherwydd y ffaith ein bod wedi llwyddo yn rownd gyntaf cyllid Ffyniant Bro gyda HWB Caerfyrddin.  Felly roedd hi'n siomedig iawn fel Cyngor ein bod ni wedi darganfod hynny ar ôl y digwyddiad, ond wrth gwrs doedden ni ddim ar ein pennau ein hunain yn hynny o beth ac roedd yna nifer o Awdurdodau Lleol ar draws Cymru a gweddill y DU oedd yn eu cael eu hunain mewn sefyllfaoedd tebyg ac rwy'n deall efallai bod yna her gyfreithiol ar y gweill ar y sail honno.

 

Felly rydym yn gwneud llawer o waith ar yr agenda hon.  Yn amlwg mae mwy y gallwn ei wneud.  Un o'r llwybrau ariannu a oedd ar agor i ni dros y blynyddoedd diwethaf oedd cyllid yr UE.  Yn amlwg o ganlyniad i'r ffaith ein yn bod gadael yr UE, roedd yna ymrwymiad gan Lywodraeth Geidwadol y DU na fyddai Cymru yn colli ceiniog o gyllid o gronfeydd strwythurol; mae'n amlwg nad yw hynny wedi digwydd.  Yr amcangyfrifon diweddaraf a wiriwyd yn annibynnol yw bod Cymru yn mynd i golli £1bn o fuddsoddiad yn ystod rownd y gronfa strwythurol hon.  A phan fyddwn yn siarad am y symiau hyn, weithiau gallant ymddangos yn bell.  Ond yng nghyd-destun Sir Gaerfyrddin, yn gyffredinol rydym yn tueddu i dderbyn tua 6% o'r cyllid ar gyfer Cymru gyfan felly pan fyddwch chi'n meddwl am £1bn sydd ar goll o'r coffrau, yn Sir Gaerfyrddin byddai hynny wedi rhoi £60m ychwanegol i ni pe bai llywodraeth Geidwadol y DU wedi glynu wrth eu haddewid a sicrhau cydraddoldeb fel parhad o'r cyllid. Byddai £60m yn mynd yn bell iawn yn Sir Gaerfyrddin i ddarparu gwelliannau o ran teithio llesol a llu o brosiectau adfywio eraill, ond dyna'r sefyllfa yr ydym ynddi.  Rwyf yn gobeithio bod hynny'n rhoi rhywfaint o gyd-destun o ran ble yr ydym ni ar yr agenda hon”.