Agenda item

CWESTIWN GAN TARA-JANE SUTCLIFFE I'R CYNGHORYDD ANN DAVIES - YR AELOD CABINET DROS FATERION GWLEDIG A PHOLISI CYNLLUNIO

“Mae'r newyddion bod ein banc olaf (Barclays) yn cau yn Llandeilo ym mis Mehefin yn ergyd o ran cael mynediad at wasanaethau yn lleol, ond gan mai hwn yw'r pedwerydd banc i gau yn ystod y blynyddoedd diwethaf, bydd hyn hefyd yn effeithio'n sylweddol ar gymeriad y dref. Mae hen adeiladau banc HSBC a Lloyds, a gaewyd yn 2014 a 2018, yn parhau i fod yn wag ac yn dirywio, er bod o leiaf un yn adeilad rhestredig oherwydd ei arwyddocâd hanesyddol a phensaernïol. Beth mae'r Cyngor yn ei wneud i ddiogelu a gwella stryd fawr hanesyddol Llandeilo - a sut y gall trigolion fod yn rhan o'r gwaith hwn?”

 

Cofnodion:

“Mae'r newyddion bod ein banc olaf (Barclays) yn cau yn Llandeilo ym mis Mehefin yn ergyd o ran cael mynediad at wasanaethau yn lleol, ond gan mai hwn yw'r pedwerydd banc i gau yn ystod y blynyddoedd diwethaf, bydd hyn hefyd yn effeithio'n sylweddol ar gymeriad y dref. Mae hen adeiladau banc HSBC a Lloyds, a gaewyd yn 2014 a 2018, yn parhau i fod yn wag ac yn dirywio, er bod o leiaf un yn adeilad rhestredig oherwydd ei arwyddocâd hanesyddol a phensaernïol. Beth mae'r Cyngor yn ei wneud i ddiogelu a gwella stryd fawr hanesyddol Llandeilo - a sut y gall trigolion fod yn rhan o'r gwaith hwn?”

 

Ymateb gan y Cynghorydd Ann Davies, Aelod Cabinet dros Faterion Gwledig a Pholisi Cynllunio :-

 

“Rwy'n mynd i ymddiheuro ar y dechrau am yr ateb hir a chynhwysfawr hwn ond teimlaf fod angen i mi nodi rhai o'r buddsoddiadau sydd wedi bod o fudd i Landeilo ers i ni arwain y Cyngor sef 2015. 

 

O ran y banciau, mae 3 o'r 4 banc stryd fawr wedi cau: gwerthwyd HSBC a'i brynu gan ddatblygwr; mae wedi cael caniatâd cynllunio ar gyfer ei addasu yn far gwin, ond nid oes gwaith wedi'i gwblhau ers 3 blynedd. Mae Banc Lloyds a Nat West wedi cael eu prynu gan berchennog y Cawdor ac rwy'n si?r y gwelwn ni gynlluniau yn dod ymlaen maes o law, gan gofio pa mor dda y caiff y Cawdor ei redeg, does gen i ddim pryderon am yr adeiladau yma.

 

Ond os gallaf ganolbwyntio ar yr hyn y mae'r glymblaid dan arweiniad Plaid Cymru wedi'i ddarparu ar gyfer Llandeilo gan na allwn newid unrhyw benderfyniadau masnachol gan Barclays, er iddyn nhw wneud elw o £5 biliwn y llynedd. Mae'n anffodus fod y banciau amlwladol yma yn cau canghennau ar draws y DU ac wedi bod yn gwneud hynny ers nifer o flynyddoedd. Mae hefyd yn siomedig nad yw Llywodraeth Geidwadol y DU yn gweithredu i geisio atal y canghennau hyn rhag cau yn y lle cyntaf. Credaf fod gan ganghennau lleol rôl allweddol o ran cefnogi ein cymunedau gwledig, ond eto nid yw Llywodraeth Geidwadol y DU wedi gwneud dim, neu'r nesaf peth i ddim yn ystod y 10 mlynedd diwethaf i atal y sefyllfa hon rhag datblygu. Mae yna angen clir am fwy o reoleiddio ar y sector bancio ac am fwy o ddiogelu canghennau gwledig, ond mae'n ymddangos ei bod yn bwysicach gan Lywodraeth Geidwadol y DU eu bod yn cefnogi eu ffrindiau yn y ddinas, na chefnogi cymunedau gwledig fel Llandeilo.

 

Mae Llandeilo yn un o'n 10 tref farchnad ac mae wedi cael cyfran sylweddol o arian trwy adfywio dros y blynyddoedd diwethaf. Fel y gwyddoch mae'r weinyddiaeth hon newydd gwblhau'r gwaith o adnewyddu adeilad rhestredig Gradd II Neuadd Farchnad Llandeilo a fydd yn creu ac yn darparu lle i 45 o swyddi a hyd at 17 o fusnesau bach a chanolig yng nghanol y dref. Bydd y buddsoddiad hwn o ychydig dros £4.1m yn ysgogiad i adfywio pellach yn y dref. Ac mae dros £2.4m wedi bod yn gyfraniad gan y Cyngor a'r gweddill gan Lywodraeth Cymru.

 

Mae Llandeilo hefyd wedi cael Arfarniad Ardal Gadwraeth dros y flwyddyn ddiwethaf.  Mae hyn wedi ysgogi syniadau a chyfleoedd i'w gwella fel canol tref hanesyddol. Mae'r arfarniad diweddar yn rhoi treftadaeth hanesyddol a phensaernïol wrth ei wraidd a bydd angen i unrhyw brosiectau adfywio a gynigir ar gyfer yr ardal roi ystyriaeth iddo.  Bydd hyn yn cael ei roi ar y wefan cyn gynted ag y bydd yn cael ei gymeradwyo gan y Cabinet ac mae'n gweithio'i ffordd drwy'r broses ddemocrataidd, sydd wedi bod trwy'r broses graffu ac a fydd yn dod gerbron y Cabinet yn fuan iawn.

 

Yn dilyn y gwaith hwn ar Ardaloedd Cadwraeth mae'r Tîm Treftadaeth Adeiledig wedi gwneud cais i Gronfa Ffyniant Gyffredin Cymunedau Cynaliadwy er mwyn cefnogi'n uniongyrchol y gwaith o adfywio canol y trefi hanesyddol mewn 7 o'r trefi gwledig ar draws Sir Gaerfyrddin, a Llandeilo yw un o'r 7 hynny a ddewiswyd.  Bydd y prosiect, os caiff ei ariannu'n llwyddiannus, yn cyflwyno gweithgareddau hyfforddi ac addysg i drigolion lleol mewn effeithlonrwydd ynni a gofal priodol ar gyfer hen adeiladau ac yn cynnig rhaglen grant bach 3ydd parti i adnewyddu ac atgyweirio adeiladau masnachol hanesyddol.

 

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn unigryw yng Nghymru gyfan ac efallai yn y DU gyfan o ran bod ganddi ganolfan wybodaeth a hyfforddiant adeiladau hanesyddol yn Llandeilo, sef Canolfan Tywi wrth gwrs,  sydd o fewn awdurdodaeth y Cyngor.  Mae'r Tîm Treftadaeth Adeiledig yng Nghanolfan Tywi yn Fferm Plas Dinefwr, Llandeilo ar gael i roi cyngor am ddim cyn gwneud cais ar gyfer adeilad rhestredig a gwybodaeth am atgyweirio a chynnal a chadw pob adeilad traddodiadol yn briodol, yn ogystal â darparu rhaglen helaeth o hyfforddiant.

 

Fel y soniais ar y dechrau, ymddiheuriadau am yr ateb hir, ond mae'r gwaith y mae'r weinyddiaeth hon o dan arweiniad Plaid Cymru wedi'i gyflawni yn Llandeilo wedi bod yn aruthrol. Mae'n werth nodi hefyd bod y fenter 10 tref yn dod â thrac pwmpio i mewn i'r dref at ddefnydd hamdden.  Ac rwy'n edrych ar Edward yma gan obeithio mai fe fydd y cyntaf ar y beic o amgylch y trac pwmpio! Yn ôl pob tebyg bydd hyn yn cael ei ddefnyddio gan drigolion iau Llandeilo, ond wrth baratoi'r fenter hon bydd yn darparu gweithgareddau, siopau a chyfleoedd hamdden i bawb, gan arwain at economi fywiog sydd o fudd i drigolion a thwristiaid fel ei gilydd”.

 

Cwestiwn atodol gan Ms Tara-Jane Sutcliffe:-

 

“Arfarniad ardal gadwraeth. Rwy'n gwybod bod sôn wedi bod yn un o'r is-bwyllgorau cyn y Pasg y bydd yr ardal gadwraeth yn Llandeilo yn cael ei rhannu'n ddwy, un ardal i gwmpasu'r dref ac un ardal i gwmpasu Dinefwr - sydd, fel rwy'n deall, yn seiliedig ar argymhellion arbenigol a ddarparwyd gan Donald Insall Associations. A ydych mewn sefyllfa i ddweud unrhyw beth pellach ar fwriadau i dderbyn yr argymhellion hynny, ac ymhellach a allwch chi ymrwymo i ddiogelu ardaloedd cadwraeth yn Llandeilo?  Roeddech chi'n sôn bod y broses yn parhau felly a yw hi efallai ychydig yn gynnar i ddweud ar hyn o bryd?  Diolch yn fawr”.

 

Ymateb gan y Cynghorydd Ann Davies, Aelod Cabinet dros Faterion Gwledig a Pholisi Cynllunio i'r cwestiwn atodol:-

 

“Yr argymhelliad yw bod y ddwy ardal wahanol yn cael eu rhannu ac mae hynny am fod y ddwy ardal yn wahanol iawn.  Tref farchnad yw'r dref - mae ganddi ei threftadaeth ei hun - ond wrth gwrs mae Parc Dinefwr yn wahanol iawn, mae'n ardal wahanol, sy'n llawer mwy gwledig a dyna'r rheswm dros rannu'r ddwy ardal.  Fel y soniais, mae'n mynd drwy'r broses ddemocrataidd, mae wedi mynd drwy'r broses Graffu a bydd yn dod yn ôl i'r Cabinet maes o law a bydd y penderfyniad wedyn yn cael ei wneud gan y Cabinet.  Diolch”.