Agenda item

ADRODDIAD BLYNYDDOL AR DDIOGELU OEDOLION A THREFNIADAU DIOGELU RHAG COLLI RHYDDID (DOLS) (2021/22)

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor adroddiad a oedd yn nodi rôl, swyddogaethau a gweithgareddau'r Awdurdod mewn perthynas â Diogelu Oedolion a'r Trefniadau Diogelu Rhag Colli Rhyddid yn ystod blwyddyn y cyngor 2021/22. 

 

Darparwyd crynodeb o'r cyd-destun cenedlaethol, rhanbarthol a lleol ynghylch Diogelu Oedolion i'r Pwyllgor, a oedd yn cynnwys trefniadau gweithredol lleol a gwybodaeth allweddol am berfformiad a gweithgarwch.

 

Rhoddodd yr adroddiad sicrwydd i'r Pwyllgor fod Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a'r canllawiau statudol a nodwyd yng Ngweithdrefnau Diogelu Cymru wedi'u hymgorffori'n gadarn yng ngweithgarwch yr Awdurdod.

 

Cyfeiriwyd at y Bwrdd Diogelu Rhanbarthol a ddarparodd y cyfeiriad strategol a'r trefniadau llywodraethu ar gyfer diogelu oedolion yn rhanbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru ac a gryfhaodd ddull Sir Gaerfyrddin o sicrhau hawliau pob unigolyn i fyw bywyd heb gael ei gam-drin na’i esgeuluso.

 

Roedd y canlynol ymhlith y cwestiynau/sylwadau a godwyd ynghylch yr adroddiad:-

 

Holodd Aelod ynghylch dyddiad gweithredu'r Trefniadau Diogelu Rhyddid (LPS) a oedd i fod i ddisodli'r Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid (DOLS) a ystyriwyd "ddim yn addas i'r diben”.  Cadarnhaodd yr Uwch-reolwr Diogelu/Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid  na fyddai'r Trefniadau Diogelu Rhyddid newydd bellach yn cael eu gweithredu gan Lywodraeth y DU yn ystod y senedd hon; ond disgwylid y byddai fersiwn amgen yn cael ei rhoi ar waith gan Lywodraeth Cymru i gael gwelliannau o ran hyn o beth.

 

Mewn ymateb i ymholiad ynghylch heriau'r Awdurdod wrth gyflawni ei ddyletswydd statudol i gynnal asesiadau ar gyfer y Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid  yn sgil y pandemig Coronafeirws, rhoddwyd sicrwydd i'r Pwyllgor fod yr ymarferwyr allanol wedi ailddechrau cynnal asesiadau wyneb yn wyneb yn unol â'r safon a osodwyd gan yr Awdurdod. O ran hyn o beth, cafodd manteision cynnal asesiadau wyneb yn wyneb eu cydnabod gan y Pwyllgor.

 

Yn dilyn ymholiad a wnaed ynghylch gallu'r Awdurdod i ddarparu asesiadau drwy gyfrwng y Gymraeg, roedd yr Uwch-reolwr Diogelu/Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid (DOLS) yn falch o adrodd bod y tîm Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid i gyd yn siaradwyr Cymraeg rhugl ac ystyrir hyn yn rhywbeth hynod bwysig yng nghyd-destun asesiadau galluedd meddyliol. Cadarnhawyd bod comisiynu aseswyr allanol a benodwyd gan ddefnyddio arian grant gan Lywodraeth Cymru hefyd wedi cael ei gyflawni drwy gyfrwng y Gymraeg, ond roedd dal anawsterau o ran penodi meddygon sy'n siarad Cymraeg.

 

Mewn ymateb i ymholiad, eglurodd yr Uwch-reolwr Diogelu/Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid fod yr holl bryderon diogelu a adroddwyd i'r Awdurdod lle roedd yr unigolyn yn bodloni'r meini prawf 'mewn perygl' wedi arwain at ymholiad.

 

Cyfeiriwyd at ganran yr awdurdodiadau brys o ran Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid a dderbyniwyd a gwblhawyd o fewn 7 diwrnod ar ôl iddynt ddod i law, a chanran yr awdurdodiadau Safonol a gwblhawyd cyn pen 21 diwrnod ar ôl eu dyrannu. Cadarnhaodd yr Uwch-reolwr Diogelu/Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid (DOLS) nad oedd targedau cwblhau wedi'u gosod o ran hyn o beth gan fod Dyfarniad y Goruchaf Lys [P yn erbyn Cyngor Gorllewin Swydd Gaer a Chaer a P&Q yn erbyn Cyngor Surrey] i bob pwrpas wedi llwyddo i ostwng y trothwy ar gyfer y Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

 

Dogfennau ategol: