Agenda item

CYFLWYNIAD GAN FWRDD IECHYD PRIFYSGOL HYWEL DDA MEWN CYSYLLTIAD Â'R ADRODDIAD ADOLYGU ALLANOL, A GYHOEDDWYD YN DDIWEDDAR, AR YR ACHOSION O TB YN ARDAL LLWYNHENDY, LLANELLI

Cofnodion:

[Ar ôl datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach, arhosodd y Cynghorwyr S Davies a J.P. Hart yn y cyfarfod, ond fel sylwedyddion, ac ni wnaethant gymryd rhan yn y trafodaethau na'r bleidlais ddilynol].

 

Cafodd y Pwyllgor gyflwyniad gan Dr P. Kloer, Cyfarwyddwr Meddygol ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Dr G. Shankar, Cyfarwyddwr Diogelu Iechyd Cyhoeddus Cymru a'r Athro K. Neal, Ymgynghorydd Iechyd y Cyhoedd a oedd yn crynhoi canlyniad yr adolygiad allanol a gomisiynwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ac Iechyd Cyhoeddus Cymru ar yr achosion o TB yn ardal Llwynhendy.

 

Roedd y cyflwyniad yn canolbwyntio ar reoli iechyd y cyhoedd ac ymateb i bedwar cam yr achosion.  Cafodd yr aelodau wybod bod cychwyn Tîm Rheoli Achosion (OCT) yn ystod y cam cyntaf wedi cael ei stopio cyn pryd ac yna cafodd ei ailgychwyn ar dri achlysur arall.  Dangosodd canfyddiadau'r adroddiad fod yr ymateb cychwynnol yn annigonol, ond ers hynny roedd y prosesau wedi'u cryfhau'n sylweddol wrth gyflwyno gwasanaeth ffurfiol ar gyfer TB yn 2014 a nyrs TB bwrpasol yn 2019.  Darparwyd i'r Pwyllgor drosolwg o'r cynnydd a wnaed yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ynghyd â'r dysgu sefydliadol i reoli'r achosion yn well, a chydnabuwyd bod lle i ddatblygu ac i wneud gwelliannau pellach o ran hyn o beth.

 

Rhoddwyd sicrwydd i'r Pwyllgor fod yr argymhellion a nodwyd yn yr adroddiad wedi'u derbyn yn llawn a bod cynllun gweithredu ar y cyd wedi'i roi ar waith o fewn Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ac Iechyd Cyhoeddus Cymru i fynd i'r afael â'r materion a godwyd ac i sicrhau trefniadau gwaith agosach rhwng y ddau sefydliad. 

 

Rhoddwyd sylw i'r materion/sylwadau a godwyd gan y Pwyllgor, fel a ganlyn:

Cyfeiriwyd at y casgliadau a nodwyd yn adran 8 yr adroddiad lle cadarnhaodd yr Ymgynghorydd Iechyd Cyhoeddus, er bod cyfradd genedlaethol TB yn parhau i ostwng, nad oedd ffigyrau ar gael y tu hwnt i 2018 ac nad oedd yn ymwybodol o unrhyw achosion newydd ers 2018.

 

Mewn ymateb i ymholiad ynghylch dyddiadau targed y cynllun gweithredu, eglurodd y Cyfarwyddwr Meddygol y byddai adroddiadau cynnydd ar y camau gweithredu, ynghyd â dyddiadau cwblhau targed wedi'u diweddaru, yn cael eu cyflwyno i gyfarfodydd y Pwyllgor Ansawdd a Diogelwch.

 

Mewn ymateb i ymholiadau gan y Pwyllgor, eglurodd yr Ymgynghorydd Iechyd Cyhoeddus, nad oedd sail gyfreithiol i orchymyn unigolion i fynd i glinigau gwasanaeth TB, ond cafodd cyfanswm o 50 a nodwyd fel cysylltiadau eu cyfweld i ganfod y rhesymau dros beidio â gwneud hynny, a byddai'r canlyniadau'n cael eu dadansoddi mewn ymdrech i fynd i'r afael â'r mater. Yn unol â chyfrifoldebau statudol Iechyd Cyhoeddus Cymru i gadw golwg ar glefydau heintus, rhoddodd y Cyfarwyddwr Diogelu Iechyd grynodeb o brosesau monitro'r Tîm Rheoli Achosion i fonitro achosion gweithredol a chudd, y gwaith o broffilio achosion newydd a'r defnydd o dechnoleg i nodi achosion cysylltiedig.

 

Cyfeiriwyd hefyd at Adolygiad o Garfan y Cleifion TB dan arweiniad y Gr?p Cyflawni Anadlol a gynhaliodd adolygiad gan gymheiriaid o reoli achosion mewn amgylchedd adeiladol i wella gwasanaethau a sicrhau canlyniadau gwell i ddinasyddion.

 

Yn dilyn cwestiwn ynghylch y camau gweithredu a fydd yn cael eu rhoi ar waith i wella'r gwasanaeth TB, cafodd y Pwyllgor wybod am y mecanweithiau cymorth a fydd yn cael eu gweithredu i gryfhau'r ddarpariaeth yn dilyn penodi Ymgynghorydd Arweiniol TB a nyrs TB bwrpasol amser llawn.  Hefyd, eglurwyd bod pob ymgynghorydd y frest yn cael hyfforddiant safonol o ran rheoli TB a oedd yn sicrhau bod y gwasanaeth yn parhau i gael ei ddarparu. Darparwyd sicrwydd bod gwelliannau wedi'u gwneud ers i'r achosion ddechrau a byddai darpariaeth y gwasanaeth yn cael ei gwella ymhellach wrth symud ymlaen.

 

Cafodd pryderon eu codi nad oedd strategaeth genedlaethol ar gyfer TB yng Nghymru, a hynny er bod y gyfradd farwolaethau o ran TB ddwywaith yn uwch na chyfraddau Lloegr.  Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Diogelu Iechyd fod y strategaeth TB ddrafft, a baratowyd gan Gr?p TB Cymru gyfan, yn cael ei mireinio ymhellach i ystyried y deilliannau dysgu sy'n deillio o'r pandemig, y gwelliannau a wnaed gan ddulliau Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ac Iechyd Cyhoeddus Cymru o reoli TB, a'r hyn a ddysgwyd ar ôl sgrinio mewnfudwyr, a oedd yn cynnwys profion ar gyfer TB cudd a TB gweithredol.  Dywedwyd y byddai strategaeth ddiwygiedig yn cael ei chyflwyno i Lywodraeth Cymru i'w chymeradwyo yn ystod y misoedd nesaf. 

 

Cytunodd y Cyfarwyddwr Meddygol, mewn ymateb i ymholiad, i anfon y ffigurau diweddaraf mewn perthynas â nifer yr achosion o TB gweithredol a TB cudd, nifer yr unigolion dros 65 oed â TB cudd a nifer y marwolaethau oherwydd TB a oedd yn deillio o'r achosion.

 

Cyfeiriwyd at argymhelliad 2 yn ymwneud â'r Trefniadau Gweithredu Safonol ar gyfer ymddygiad a chofnodi o ran rheoli achosion.  O ran hyn o beth, darparwyd trosolwg o aelodaeth y Tîm Rheoli Achosion i'r Aelodau.  Hefyd cafodd y Pwyllgor wybod bod yr egwyddorion arweiniol ar gyfer rheoli achosion o glefydau heintus wedi'u nodi yn y Cynllun ar gyfer Achosion o Glefydau Trosglwyddadwy i Gymru, ac y byddai'n mynd i'r afael â'r angen am gysondeb o ran aelodaeth uwch-reolwyr y Tîm Rheoli Achosion fel rhan o'i adolygiad 3 blynedd y bwriedir ei gynnal ym mis Gorffennaf 2023.

 

Gofynnwyd a allai unrhyw achosion posibl yn y dyfodol arwain at ymwrthedd i gyffuriau yn sgil nifer yr achosion o TB cudd yn ardal Llwynhendy.  Cadarnhaodd yr Ymgynghorydd Iechyd Cyhoeddus fod ymwrthedd i gyffuriau o ran hyn o beth yn annhebygol.  Yn hytrach, roedd gweithwyr iechyd proffesiynol yn gofidio ynghylch TB cudd heb ei ddiagnosio yn ailgychwyn ymhlith unigolion â chyflyrau iechyd isorweddol.

 

I gydnabod pryderon parhaus trigolion Llwynhendy, cytunwyd y byddai manylion cyswllt y cynghorwyr lleol yn cael eu darparu i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ac i Iechyd Cyhoeddus Cymru gyda'r bwriad o benderfynu ar ffordd briodol o ymgysylltu â'r trigolion i fynd i'r afael â phryderon.  Nododd y Cyfarwyddwr Diogelu Iechyd y byddai'r mater yn cael ei ystyried yn un o gyfarfodydd y Tîm Rheoli Achosion.

 

Mewn ymateb i gais gan Aelod i geisio cymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y broblem barhaus o ran TB yn Llwynhendy a'r ardaloedd cyfagos, cytunodd yr Aelod Cabinet i wneud ymholiadau pellach, yn y lle cyntaf, mewn perthynas ag Argymhelliad 7 yn ymwneud â chyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer cynllun sy'n ymwneud â TB.  Tra'n disgwyl canlyniadau'r ymholiadau hynny, cytunwyd y byddai llythyr yn cael ei anfon at Lywodraeth Cymru, os yw hynny'n briodol, yn gofyn am gymorth ariannol.

 

Estynnodd y Cadeirydd a'r Aelod Cabinet ddiolchiadau'r Pwyllgor i Dr Kloer, Dr Shankar a'r Athro Neal am annerch y Pwyllgor ac am yr eglurder a'r sicrwydd a roddwyd ynghylch yr ymdrechion a wnaed i gyflawni'r argymhellion a nodwyd yn yr adolygiad.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

 

4.1

Derbyn yr adroddiad.

 

4.2

Bod y ffigyrau diweddaraf yn ymwneud â nifer yr achosion o TB gweithredol a TB cudd, nifer yr unigolion dros 65 oed sydd â TB cudd a nifer y marwolaethau yn sgil TB sy'n deillio o'r achosion, yn cael eu hanfon at y Pwyllgor.

 

4.3

Bod manylion cyswllt y cynghorwyr lleol yn cael eu darparu i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ac i Iechyd Cyhoeddus Cymru gyda'r bwriad o benderfynu ar ddull priodol o ran ymgysylltu a chyfathrebu â'r trigolion.

 

4.4

Tra'n aros am ganlyniad yr ymholiadau, dylid ystyried cyflwyno llythyr i Lywodraeth Cymru yn gofyn am gymorth ariannol ar gyfer y broblem barhaus o ran TB yn Llwynhendy a'r ardaloedd cyfagos.

 

Dogfennau ategol: