Agenda item

ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB CYFALAF A REFENIW 2022/23

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried yr adroddiad monitro ariannol a gyflwynwyd gan yr Aelod Cabinet dros Adnoddau ynghylch Cyllideb Refeniw a Chyllideb Gyfalaf 2022/23 y Gwasanaeth Lle a Seilwaith a'r Gwasanaeth Diogelu'r Cyhoedd ar gyfer y cyfnod hyd at 31 Rhagfyr 2022.

 

Dywedwyd bod y gyllideb refeniw ar y cyfan yn rhagweld gorwariant cyffredinol o £593k ar ddiwedd y flwyddyn.  Rhagwelwyd gwariant net yn y gyllideb gyfalaf o £15,263k o gymharu â chyllideb net weithredol o £19,105k gan roi amrywiant o £-3,824k.

 

Nododd y Pwyllgor, mewn perthynas â'r adroddiad arbedion, mai'r disgwyl oedd y byddai £694k o arbedion Rheolaethol mewn perthynas â tharged o £824k yn cael ei gyflawni ar ddiwedd y flwyddyn.  Yn ogystal, cyflwynwyd £20k o arbedion Polisi mewn perthynas â tharged o £20k ar gyfer 2022/23 a rhagwelwyd y byddai'r rhain yn cael eu cyflawni.

 

Rhoddwyd sylw i'r cwestiynau/materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:

 

·       O ran gwella'r amgylchedd, cyfeiriwyd at Atodiad B lle mynegwyd pryder y gallai'r pwysau ariannol parhaus roi'r daith o ran bod yn garbon sero net yn y fantol.  Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau y byddai'r Awdurdod Lleol yn ymdrechu'n barhaus i gyrraedd y targedau angenrheidiol.

 

·       Cyfeiriwyd at Atodiad B yr adroddiad – Priffyrdd a Thrafnidiaeth. Mewn perthynas â'r mater o hebryngwyr croesfannau ysgol, lle nodwyd bod 'sawl swydd wedi dod yn wag ac na fyddai'r swyddi'n cael eu llenwi', gofynnwyd ai dyma'r polisi ac, os felly, a fyddai croesfannau i gerddwyr yn cael eu rhoi ar waith?  Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau mai'r polisi oedd trefnu bod staff croesfannau ysgolion yn ymddeol mewn mannau lle'r oedd darpariaeth electronig ar gael. Mewn mannau lle nad oedd darpariaethau addas ar gael byddai staff croesfannau ysgol yn parhau yno.

 

·       Cyfeiriwyd at Atodiad E yr adroddiad Seilwaith Priffyrdd Rhydaman a oedd yn nodi bod angen 'penderfyniad corfforaethol o ystyried adolygiad ffyrdd Llywodraeth Cymru', a gofynnwyd am esboniad.  Dywedodd y Pennaeth Priffyrdd a Thrafnidiaeth y byddai angen rhoi rhagor o ystyriaeth yn dilyn Adroddiad Ffyrdd diweddar Llywodraeth Cymru.  Roedd canlyniadau'r adolygiad yn cynnwys meini prawf polisi newydd a fyddai'n golygu goblygiadau i bob cynllun ffordd yn y dyfodol.


 

·       Cyfeiriwyd at Atodiad B yr adroddiad - Y Gwasanaethau Amgylcheddol a Gwastraff.  O ran y tanwariant a briodolwyd i Orfodi Materion Amgylcheddol, gofynnwyd pryd y byddai hyn yn cael ei asesu, a phryd y rhoddir gwybod am y canlyniad? Dywedodd y Pennaeth Gwastraff Dros Dro fod Gr?p Gorchwyl a Gorffen y Pwyllgor yn ystyried yr elfennau hyn yn ei adolygiad ar Reoli Tipio Anghyfreithlon yn Sir Gaerfyrddin.  Priodolwyd y tanwariant i staff yn gadel, lle mae trefniadau dros dro wedi'u rhoi ar waith. Nodwyd, ar ôl ystyried y strwythur adrannol, argymhellion yr adolygiad Gorchwyl a Gorffen a'r cyfyngiadau cyllidebol, y byddai'r amserlen yn debygol o fod hyd at 6 mis.

 

·       Cyfeiriwyd at Atodiad E – Eiddo.  O ran y Gwasanaeth "Tasgfan" Ysgolion, dywedwyd bod 'mwy o waith yn cael ei nodi mewn ysgolion y mae angen ei wneud', a chodwyd pryderon y gallai'r gorwariant barhau i waethygu mewn perthynas â'r ysgolion h?n yn y Sir.  Esboniodd y Rheolwr Cynnal a Chadw Eiddo mai gwaith y gwasanaeth Tasgfan oedd gwneud gwaith iechyd a diogelwch angenrheidiol yn bennaf. Fel rhan o'r gwasanaeth, roedd gofynion cynnal a chadw cynlluniedig yn cael eu nodi a byddai'r rhain yn cael eu blaenoriaethu o fewn y gyllideb sydd ar gael.  Yn ogystal, roedd arolygon o gyflwr stoc yn cael eu cynnal ar hyn o bryd ar draws y stoc gorfforaethol gyfan a fyddai'n rhoi trosolwg ehangach o'r gofynion ariannol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod Adroddiad Monitro'r Gyllideb Refeniw a'r Gyllideb Gyfalaf hyd at 31 Rhagfyr yn cael ei dderbyn.

 

 

Dogfennau ategol: