Cofnodion:
Bu'r Pwyllgor yn ystyried Cynlluniau Cyflawni Gwasanaeth Is-adrannol Drafft sy'n berthnasol i'r isadrannau o fewn y gyfarwyddiaeth Lle, Cynaliadwyedd a Newid Hinsawdd ar gyfer 2023/24 fel a ganlyn:
· Is-adran Priffyrdd a Thrafnidiaeth – Atodiad 1 yr adroddiad
· Is-adran y Gwasanaethau Amgylcheddol a Gwastraff - Atodiad 2 yr adroddiad
· Is-adran Dylunio a Chynnal a Chadw Eiddo - Atodiad 3 yr adroddiad
· Is-adran Lle a Chynaliadwyedd - Atodiad 4 yr adroddiad
· Is-adran Gwella Gwasanaethau a Thrawsnewid - Atodiad 5 yr adroddiad
Roedd y Cynlluniau Cyflawni Gwasanaeth Is-adrannol Drafft yn pennu'r camau a'r mesurau strategol i'w gweithredu ym mhob isadran er mwyn i'r Cyngor wneud cynnydd mewn perthynas â'i amcanion llesiant, ei flaenoriaethau thematig a blaenoriaethau'r gwasanaeth.
Rhoddwyd sylw i'r materion/sylwadau a godwyd gan y Pwyllgor am bob Cynllun Is-adrannol Drafft, fel a ganlyn:
Cynllun Cyflawni Is-adrannol - Priffyrdd a Thrafnidiaeth
[Atodiad 1 yr adroddiad]
· Cyfeiriwyd at y Cam Gweithredu a'r Mesur o fewn yr adran Rheoli Asedau Priffyrdd - 'ar ôl i gyllid Llywodraeth Cymru gael ei dynnu yn ôl, archwilio'r holl opsiynau ariannu posibl i gefnogi rhaglen o wella cyflwr ffyrdd gwledig.’ Gofynnwyd pa opsiynau ariannu oedd yn cael eu hystyried. Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith fod gan Sir Gaerfyrddin y rhwydwaith priffyrdd ail fwyaf yng Nghymru sy'n cynnwys ffyrdd B, ffyrdd C a ffyrdd diddosbarth yn bennaf, a oedd mewn cyflwr gwael a bod gwaith sylweddol heb ei wneud. Pwysleisiwyd bod yn rhaid chwilio am ddulliau ariannu amgen.
Ychwanegodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau fod y mater hwn o ganlyniad i Brosiect Cyni Llywodraeth y DU, ond pan ddechreuwyd torri cyllidebau yn 2010, y rhwydwaith priffyrdd a dargedwyd gyntaf. O ganlyniad, mae amodau'r rhwydwaith ffyrdd wedi dirywio gyda diffyg o £45m, sef yr hyn sydd ei angen i gynnal a chadw'r ffyrdd. Dywedwyd bod hyn yn ymestyn y tu hwnt i Sir Gaerfyrddin.
O ran cyllid yn y dyfodol, dywedodd y Pennaeth Priffyrdd a Thrafnidiaeth fod cyllid wedi ei sicrhau drwy gyflwyno ceisiadau i gael mynediad at gyllid gan Lywodraeth Cymru er mwyn atgyweirio ffyrdd a gafodd ddifrod mewn stormydd. Yn ogystal, cyflwynwyd ceisiadau i gael mynediad at gyllid ar gyfer adnewyddu ffyrdd a ffyrdd cydnerth. Sicrhawyd yr Aelodau y byddai ceisiadau'n cael eu cyflwyno i gael cyllid i wella'r rhwydwaith ffyrdd cyn gynted ag y cyhoeddir cyfleoedd i gael cyllid grant.
· Gan gydnabod llwyth gwaith trwm yr adran briffyrdd, canmolwyd y tîm priffyrdd am ymateb yn gyflym i adroddiadau o amodau ffyrdd peryglus, a diolchwyd i'r tîm.
· Mewn ymateb i ymholiad a wnaed mewn perthynas â'r 'ffynhonnell gyfeirio' o fewn y cynllun, esboniodd yr Aelod Cabinet fod gan y cynlluniau ddyluniad newydd er mwyn cyd-fynd yn well â'r Strategaeth Gorfforaethol a'r Amcanion Llesiant ynghyd â gweledigaeth y Cabinet.
· Cyfeiriwyd at y Cam Gweithredu a'r Mesur o fewn yr adran Cynllunio a Seilwaith - 'Adolygu'r strategaeth fflyd cerbydau bresennol gyda'r bwriad o ddefnyddio'r dechnoleg cerbydau mwyaf addas ac allyriadau isel (gan gynnwys ffynonellau trydan neu ffynonellau p?er eraill) dros y blynyddoedd nesaf.' O ran gosod targedau, gofynnwyd bod uchelgais addas yn cael ei phennu. Awgrymwyd, o ran gosod targedau, fod modd cyrchu llawer o ffynonellau arbenigedd allanol a allai fod yn gost-effeithiol. Croesawodd yr Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd, Datgarboneiddio a Chynaliadwyedd y brwdfrydedd ac awgrymodd y gallai'r Pwyllgor, wrth ddatblygu ei Flaengynllun Gwaith, ofyn am wybodaeth i fonitro datblygiad a chyflymder y gwaith ar y pwnc hwn.
Cynllun Cyflawni Is-adrannol - Is-adran y Gwasanaethau Amgylcheddol a Gwastraff
[Atodiad 2 yr adroddiad]
· Ni chodwyd dim materion/sylwadau gan y Pwyllgor.
Cynllun Cyflawni Is-adrannol - Is-adran Dylunio a Chynnal a Chadw Eiddo
[Atodiad 3 yr adroddiad]
· Ni chodwyd dim materion/sylwadau gan y Pwyllgor.
Cynllun Cyflawni Is-adrannol - Is-adran Lle a Chynaliadwyedd
[Atodiad 4 yr adroddiad]
· Ni chodwyd dim materion/sylwadau gan y Pwyllgor.
Cynllun Cyflawni Is-adrannol - Is-adran Gwella Gwasanaethau a Thrawsnewid
[Atodiad 5 yr adroddiad]
· Ni chodwyd dim materion/sylwadau gan y Pwyllgor.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod y Cynlluniau Is-adrannol Drafft ar gyfer 2023/24 yn cael eu derbyn.
Dogfennau ategol: