Agenda item

POLISI CARTREFI GWAG - EIN DULL O DDEFNYDDIO CARTREFI GWAG UNWAITH ETO

Cofnodion:

[Noder: Roedd y Cynghorwyr S.L. Davies, K.V. Broom, M. James, D.E. Williams a S.A. Curry wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach ac wedi aros yn y cyfarfod yn ystod y drafodaeth ynghylch yr eitem hon a'r bleidlais ddilynol].

 

Dywedwyd wrth y Cyngor fod y Cabinet, yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 27 Mawrth 2023 (gweler cofnod 8), wedi ystyried adroddiad a oedd yn cyflwyno'r Polisi Cartrefi Gwag sy'n nodi gweledigaeth a rhaglen waith y Cyngor wrth fynd i'r afael â chartrefi preswyl preifat gwag yn y sir am y tair blynedd nesaf.  Roedd yr adroddiad yn darparu cyfeiriad clir ar y dull gweithredu a lle y byddai ymdrechion yn canolbwyntio er mwyn cyflawni hyn a nodau polisi eraill.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet fod cartrefi gwag yn adnodd wedi'i wastraffu pan oedd prinder tai ledled y sir, gan gynnwys mewn wardiau gwledig.  Nodwyd bod yr eiddo hyn yn anharddu'r gymdogaeth a gallent fod yn ganolbwynt ar gyfer ymddygiad gwrthgymdeithasol.

 

Roedd y Cyngor wedi ymrwymo i ddefnyddio cartrefi gwag unwaith eto cyn gynted â phosibl ac roedd wedi gweithio gyda pherchnogion cartrefi gwag a phartneriaid i fanteisio ar yr holl gyfleoedd sydd ar gael i helpu i fynd i'r afael â mater eiddo gwag tymor hir.

 

Dywedodd Aelodau'r Cabinet y gallai defnyddio cartrefi gwag unwaith eto helpu i fynd i'r afael â nifer o faterion tai a materion cymdeithasol drwy gynyddu'r cyflenwad mewn ardaloedd lle'r oedd prinder tai a phwysau o ran tai a lle'r oedd cyfleoedd i gysylltu â phrosiectau adfywio eraill.

 

Mae'r Polisi yn nodi'r dull gweithredu a byddai'n caniatáu i swyddogion dargedu rhai mathau o eiddo, mewn rhai ardaloedd, a byddai'n rhoi eglurder a hyder ynghylch unrhyw gamau a gymerir.

 

Yn ogystal, nodwyd bod cynnydd wedi'i wneud dros y pum mlynedd diwethaf i leihau nifer y cartrefi gwag yn gyffredinol drwy weithgarwch parhaus a chamau i annog/gorfodi perchnogion tai i'w defnyddio unwaith eto. Y nifer presennol a nodwyd oedd 1,984 (Medi 2022). Mae hyn yn cyfateb i tua 2.1% o'r stoc dai gyffredinol yn y sir.

 

Mewn ymateb i ymholiad ynghylch yr amserlenni ar gyfer defnyddio eiddo gwag y Cyngor, dywedodd yr Aelod Cabinet fod yr amserlenni yn amrywio'n sylweddol, gan ddibynnu ar gyflwr yr eiddo.  Nodwyd bod yr amserlenni wedi lleihau'n sylweddol.

 

Mewn ymateb i ymholiad ynghylch y defnydd posibl o gartrefi ar ffurf pod sy'n cael eu treialu ar hyn o bryd gan Gyngor Casnewydd, cadarnhaodd yr Aelod Cabinet fod yr Awdurdod wedi ystyried yr ateb hwn, fodd bynnag, ffefrir darparu cartrefi parhaol i drigolion ac mae podiau ond yn addas i fyw ynddynt yn y tymor byr iawn.

 

PENDERFYNWYD mabwysiadu'r argymhellioncanlynol gan y Cabinet:-

 

·         cymeradwyo'r Polisi Cartrefi Gwag - "Ein Dull o Ddefnyddio Cartrefi Gwag Unwaith Eto".

  • cytuno ar y weledigaeth i leihau nifer yr eiddo gwag yn y sir i 1500 erbyn 2026.
  • cadarnhau bod y math o eiddo a'r matrics sgorio a ddefnyddir o ran eiddo gwag yn bodloni nodau'r polisi.
  • cadarnhau bod y Polisi Cartrefi Gwag yn cyd-fynd â phenderfyniad y Cyngor i osod Premiymau'r Dreth Gyngor ar eiddo gwag tymor hir a'r ffordd y caiff hyn ei orfodi drwy'r polisi hwn.
  • cytuno bod y mesurau perfformiad yn gyson ac yn adlewyrchu'r ymdrechion sy'n cael eu gwneud i ddefnyddio cartrefi gwag unwaith eto.

Dogfennau ategol: