Agenda item

DRAFFT CYNLLUNIAU CYFLAWNI GWASANAETH 2023-24 - TAI A DIOGELU'R CYHOEDD, EIDDO TAI A PHROSIECTAU STRATEGOL A HAMDDEN

Cofnodion:

(NODER:

Roedd y Cynghorydd R. Sparks wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach; ailddatganodd y buddiant hwnnw ac arhosodd yn y cyfarfod wrth i'r Pwyllgor ei hystyried.

 

Datganodd y Cynghorydd M. Palfreman fuddiant yn r eitem hon ac arhosodd yn y cyfarfod wrth i'r Pwyllgor ei hystyried)

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried Cynlluniau Cyflawni Is-adrannol Drafft 2023-24 ar gyfer yr Is-adrannau Tai a Diogelu'r Cyhoedd, Eiddo Tai a Phrosiectau Strategol a Hamdden o fewn yr Adran Cymunedau oedd yn manylu ar y camau a'r mesurau strategol i'w cymryd er mwyn galluogi'r Cyngor i wneud cynnydd yn erbyn ei Amcanion Llesiant, ei flaenoriaethau thematig a'i flaenoriaethau gwasanaeth.

 

Rhoddwyd sylw i'r materion/cwestiynau canlynol wrth drafod yr adroddiadau:

·       Mewn ymateb i gwestiwn ar Gam Gweithredu A2 ar y Cynllun Tai a Diogelu'r Cyhoedd, i ailymgartrefu ffoaduriaid mewn ffordd gydgysylltiedig er mwyn sicrhau bod llety ar gael i fodloni eu hanghenion, cadarnhaodd y Pennaeth Tai a Diogelu'r Cyhoedd fod y Cyngor yn cyflawni ei rwymedigaethau a bod cyflwyno'r Polisi Dyrannu Tai Cymdeithasol Newydd yn cynorthwyo.

·       Mewn ymateb i gwestiwn ar Gam Gweithredu A17 ar y Cynllun Tai a Diogelu'r Cyhoedd, i gyfrannu at 'Sir Gaerfyrddin Ymhellach, Ynghynt' gan sicrhau cynnig llety ychwanegol yn y gymuned ar gyfer pobl h?n, rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor ei fod yn ymwneud ag atal pobl oedrannus rhag cael eu derbyn i'r ysbyty drwy ddarparu llety priodol iddynt er mwyn bodloni eu hanghenion. Yn yr un modd, y nod oedd cynorthwyo i ryddhau pobl oedrannus o'r ysbyty ar y cyfle cyntaf drwy roi'r llety cywir ar yr adeg gywir gyda chefnogaeth briodol lle bo angen. Roedd yr Adran hefyd yn gweithio'n agos gyda'r tîm Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i sicrhau bod pobl yn cael eu rhyddhau'n gynnar.

 

Atgoffwyd y Pwyllgor gan y Pennaeth Tai a Diogelu'r Cyhoedd fod gan y Cyngor gynlluniau i ddatblygu mwy o dai fforddiadwy a bod eu cyflawni'n allweddol. Byddai angen cydnabod hefyd y byddai problemau o ran capasiti ar adegau, ond trwy weithredu mewn ffordd gydgysylltiedig dylai'r adran barhau i reoli eu darpariaeth a bodloni'r galw.

 

·       Cyfeiriwyd at yr elfen Camau Gweithredu a Mesurau'r adroddiad a gwnaeth awgrym y gellid eu defnyddio fel sail i adroddiadau i'r Pwyllgor yn y dyfodol i fonitro cynnydd.

·       Mewn ymateb i gwestiwn am y risgiau uchel y manylir arnynt yn y Cynllun Tai a Diogelu'r Cyhoedd, dywedodd y Pennaeth Tai a Diogelu'r Cyhoedd fod angen statws er mwyn sicrhau bod risgiau'n cael eu rheoli mewn modd priodol.

·       O ran y cyfeiriad yn yr adroddiad Eiddo Tai a Phrosiectau Strategol yn cofnodi gostyngiad yn lefel yr eiddo gwag o dros 400 i 280, rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod nifer yr eiddo gwag wedi gostwng ymhellach i 239.

·       Mewn ymateb i gwestiwn ar ddefnyddio contractwyr lleol i ymgymryd â gwaith i Dai Cyngor, atgoffwyd y Pwyllgor gan y Pennaeth Eiddo Tai a Phrosiectau Strategol fod fframwaith contractwyr newydd yn cael ei baratoi ar hyn o bryd a fyddai, gobeithio, yn annog contractwyr llai i wneud cais i'w cynnwys. Nodwyd hefyd bod y Cyngor yn cynyddu lefelau staffio masnach i'w alluogi i ymgymryd â mwy o fân waith i eiddo ei hun gyda gwaith mwy yn cael ei wneud gan gontractwyr.

·       Cyfeiriwyd at y gwasanaeth 'Gofal a Thrwsio' a ddarperir i berchnogion tai preifat oedrannus i wneud eu cartrefi'n fwy diogel drwy osod cloeon newydd er enghraifft ac a ellid darparu gwasanaeth tebyg i denantiaid y cyngor.

 

Dywedodd Pennaeth Eiddo Tai a Phrosiectau Strategol, er nad oedd y Cyngor yn darparu gwasanaeth o'r fath i'w denantiaid ar hyn o bryd, y gall, wrth i'w lefelau staffio masnach gynyddu, fod yn gyfle i ystyried darpariaeth o'r fath yn y dyfodol a thrwy hynny ddarparu gwasanaeth rhagweithiol i denantiaid.

·       Er bod gwaith brys i eiddo tenantiaid wedi cael ei wneud yn brydlon, nid oedd yr un peth yn wir ar gyfer gwaith adferol. Dywedodd y Pennaeth Eiddo Tai a Phrosiectau Strategol fod y cyngor wedi dod ar draws anawsterau dros y blynyddoedd diwethaf wrth wneud gwaith o'r fath yn amserol oherwydd effaith Covid ac argaeledd contractwyr. Fodd bynnag, wrth i nifer y staff masnach medrus a gyflogir gan y Cyngor gynyddu i alluogi gwneud gwaith yn fewnol, byddai'r amseroedd ymateb yn gwella.

·       Mewn ymateb i gwestiwn ar Amgueddfa Ddiwydiannol Cydweli o fewn y Cynllun Hamdden, cadarnhawyd bod y safle ar hyn o bryd wedi aros ar gau oherwydd materion diogelwch. Fodd bynnag, roedd cynllun yn cael ei ddatblygu i helpu i hwyluso ei ailagor yn y dyfodol.

·       O ran Cam Gweithredu A7 o fewn y Cynllun Hamdden i ddatblygu dull 'chwaraeon i bawb', rhoddwyd diweddariad i'r Pwyllgor am y gwaith sy'n cael ei wneud gan yr Is-adran Hamdden i hyrwyddo'r ethos hwnnw. Roedd hynny'n cynnwys cydweithio gyda chlybiau ac ati i gynyddu nifer y gwirfoddolwyr a rhoi cyngor ar gyllid ac argaeledd grantiau. Roedd y Cyngor hefyd yn darparu chwaraeon i blant cyn iddyn nhw ymuno â chlybiau fel nofio ac ar hyn o bryd roedd yn datblygu cynllun gweithgareddau d?r.

·       O ran cwestiwn ar farchnata digwyddiadau corfforaethol mewn cyfleusterau sy'n eiddo i'r Cyngor fel Parc Gwledig Pen-bre, dywedodd y Pennaeth Adfywio y byddai'n codi'r mater gydag adran farchnata'r Cyngor.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo Cynlluniau Is-adrannol Drafft 2023-24 ar gyfer yr Is-adrannau Tai a Diogelu'r Cyhoedd, Eiddo Tai a Phrosiectau Strategol a Hamdden.

Dogfennau ategol: