Agenda item

ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB CYFALAF A REFENIW 2022/23

Cofnodion:

(NODER: Roedd y Cynghorydd R. Sparks wedi datgan buddiant yn yr eitem hon ac arhosodd yn y cyfarfod wrth i'r Pwyllgor ei hystyried)

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiadau Monitro Cyllideb Refeniw a Chyllideb Gyfalaf 2022/23 ar gyfer y Gwasanaethau Tai, Adfywio ac Eiddo, Lle a Chynaliadwyedd a Hamdden ac Adloniant ar gyfer y cyfnod hyd at 31 Rhagfyr 2022. Nodwyd bod y prif bwysau cyllidebol yn cael eu hwynebu o fewn Gwasanaethau Hamdden a oedd wedi rhagweld gorwariant o £907k erbyn diwedd y flwyddyn. Ar y cyfan, roedd y gyllideb refeniw yn rhagweld gorwariant o £407k ond, yn seiliedig ar y gostyngiadau presennol, dylai fod yn agos at y targed ar ddiwedd y flwyddyn. Roedd y gyllideb gyfalaf yn rhagweld tanwariant o £25,999k, tra bod y Cyfrif Refeniw Tai yn rhagweld tanwariant o £651k.

 

Rhoddwyd sylw i'r cwestiynau/materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:

·       Cyfeiriwyd at y diffyg incwm o fewn y marchnadoedd darpariaethau, oherwydd cyfraddau deiliadaeth isel, a gofynnwyd am eglurhad ar ba gamau adferol oedd yn cael eu cymryd i gynyddu'r cyfraddau hynny.

 

Dywedodd y Pennaeth Adfywio fod un o'r materion yn ymwneud â lefel y rhent yr oedd darpar lesddalwyr yn gallu ei dalu am unedau yn y marchnadoedd o'i gymharu â rhenti targed. Roedd ystyriaeth yn cael ei roi i sut y gellid gwneud yr unedau'n fwy deniadol i lesddalwyr posibl ac i sut y gellid marchnata'r rheiny. Er enghraifft, er bod unedau gwag yn cael eu hysbysebu ar hyn o bryd drwy gyfrwng dogfennau tendro, gallai marchnata yn y dyfodol gynnwys hyrwyddo drwy'r cyfryngau cymdeithasol.

·       Cyfeiriwyd at y cynnydd mewn incwm o barcio ceir yn y meysydd parcio yn Harbwr Porth Tywyn ac a allai fod yn bosibl i'r incwm hwnnw gael ei ddefnyddio i ddarparu cyfleusterau toiled ychwanegol yn yr harbwr. Ar hyn o bryd, dim ond un ciwbicl toiled oedd ar gael yng nghefn y siop goffi ar gyfer 2 draeth.

 

Dywedodd y Pennaeth Adfywio fod yr Is-adran Hamdden yn trafod gyda'r Cyngor Tref yn hynny o beth ac y byddai'n codi'r mater gyda'r Pennaeth Hamdden ac i ymateb gael ei anfon ymlaen at y Cynghorydd.

·       Cyfeiriwyd at yr adroddiad oedd ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu hyd at ddiwedd Rhagfyr 2022, wedi dyddio rhyw dri mis. Gofynnwyd a allai adroddiadau yn y dyfodol gynnwys gwybodaeth fwy diweddar.

·       O ran y gorwariant o £907k a ragwelwyd yn Is-adran y Gwasanaethau Hamdden, gofynnwyd am eglurhad ynghylch pa fesurau oedd yn cael eu cyflwyno i fynd i'r afael â'r gostyngiad yn sgil covid ac annog mwy o bobl i ddefnyddio'r cyfleusterau hamdden.

 

Cafodd y Pwyllgor wybod fod yr adroddiad nesaf ar yr agenda i'r Pwyllgor ei ystyried y bore hwnnw yn ymwneud â Chynllun Busnes Drafft y Gwasanaethau Hamdden 2023-24 a oedd yn mynd i'r afael â'r pwynt hwnnw yn manylu ar amcanion ac amserlenni ar gyfer camau gweithredu.

 

Atgoffwyd y Pwyllgor gan y Cyfarwyddwr Cymunedau fod cyfleusterau hamdden dan do y Cyngor wedi cau yn ystod pandemig covid a bod y grant gan y llywodraeth i gefnogi'r rheiny wedi dod i ben ym mis Ebrill 2022. Wedi hynny, roedd yr adran wedi gweithio'n hynod o galed i ailadeiladu'r gwasanaeth ac roedd y lefelau defnydd presennol yn 95% o'r lefelau cyn y pandemig, ac mae ymwelwyr â'r parciau Gwledig hefyd yn cynyddu. Roedd y cyfraddau cyfranogi hynny yn galonogol, ac roedd yr Is-adran yn dechrau ar y trywydd iawn o ran lefelau aelodaeth yn y flwyddyn ariannol newydd.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod Adroddiad Monitro'r Gyllideb Refeniw a'r Gyllideb Gyfalaf yn cael ei dderbyn.

Dogfennau ategol: