Agenda item

ARFARNIADAU ARDALOEDD CADWRAETH

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad ar arfarniadau a gynhaliwyd ar y 10 ardal gadwraeth ganlynol o fewn Sir Gaerfyrddin a'r diwygiadau arfaethedig i'w ffiniau, lle bo'n berthnasol. Roedd yr adroddiad yn manylu ar ganlyniad yr ymarfer ymgynghori a gynhaliwyd rhwng 24 Mehefin a 26 Awst 2022, ac amlinellodd y camau nesaf a'r camau ar gyfer y dyfodol tuag at fabwysiadu'r arfarniadau a'u canlyniadau. Nodwyd hefyd bod yr arfarniadau wedi'u cynnal yn unol â dyletswyddau cyfreithiol y Cyngor o dan y Ddeddf Cynllunio (Ardaloedd Rhestredig Adeiladu a Chadwraeth) 1990:

 

·       Tref Caerfyrddin,

·       Heol y Prior, Caerfyrddin

·       Heol Awst, Caerfyrddin

·       Heol Picton, Caerfyrddin

·       Talacharn,

·       Sanclêr,

·       Cydweli,

·       Llanelli,

·       Llandeilo

·       Castellnewydd Emlyn.

 

Codwyd y cwestiynau/materion canlynol ar yr adroddiad:-

·       Cyfeiriwyd at y 27 Ardal Gadwraeth yn Sir Gaerfyrddin, a llawer ohonynt heb gael eu hadolygu ers eu creu, rhai mor bell yn ôl â'r 1970au. Cadarnhawyd bod diffyg unrhyw adolygiadau dilynol wedi'u cydnabod, ac felly cynhaliwyd y 10 arfarniad uchod. Er bod yr oedi yn yr adolygiadau wedi'u priodoli'n rhannol i fater adnoddau, nodwyd, gan fod lefelau staffio o fewn yr uned bellach yn llawn, y byddai arfarniadau o'r 17 ardal sy'n weddill yn cael eu cynnal yn fewnol fel rhan o raglen waith yr Uned yn y dyfodol.

·       Cyfeiriwyd at yr elfennau o fewn yr adroddiad yn ymwneud â chelfi stryd gormodol o fewn rhai o'r ardaloedd cadwraeth, er enghraifft yn Llanelli, a gofynnwyd am eglurhad ynghylch a fyddent yn cael eu dileu yn ôl-weithredol ar ôl i'r adroddiad gael ei fabwysiadu. Nodwyd, er nad oedd yr ardaloedd cadwraeth wedi cael eu hadolygu am gyfnod sylweddol, y byddai angen gwneud unrhyw ystyriaeth ynghylch gwaredu celfi stryd fel rhan o archwiliad o fannau cyhoeddus yn eu cyfanrwydd a chael ei gweld fel cyfle i benderfynu ar y ffordd orau o gadw a gwella golygfa'r stryd tra'n rhoi sylw i'w gadwraeth. Gallai hynny gynnwys, er enghraifft, cynigion adfywio a datblygu glasbrint ar gyfer celfi stryd a phlannu coed.

·       Codwyd pwynt ynghylch yr ymgynghoriadau arfarnu a sut y byddai preswylwyr yn cael gwybod bod eu heiddo o fewn ardal gadwraeth.

 

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod ymgynghoriadau helaeth wedi'u cynnal gyda'r cyhoedd ar yr arfarniadau a oedd yn cynnwys cynnal digwyddiadau, gweminarau ar-lein, holiadur cyn ymgynghori a thrwy borth 'Dweud eich dweud' ar wefan y Cyngor. O ran ymgysylltu â'r cyhoedd yn dilyn mabwysiadu'r adroddiad, dywedodd y Pennaeth Lle a Seilwaith y gallai'r adran ystyried sut y gellid cyflawni hynny orau, er enghraifft cynnal gweithdai.

·       Cyfeiriwyd at y darpariaethau presennol sy'n atal codi soseri haul ar flaen eiddo o fewn ardaloedd cadwraeth, gofynnwyd am eglurhad a fyddai'r un meini prawf yn cael berthnasol i osod paneli haul i leihau allyriadau carbon a helpu i gyflawni carbon sero net.

 

Dywedodd yr Uwch-swyddog Treftadaeth Adeiledig fod polisïau cynllunio ar waith yng nghyswllt paneli haul o Ganllawiau Llywodraeth Cymru, a chafodd cyngor penodol hefyd ei gynnwys ar Borth Cynllunio'r Cyngor. Os yw perchnogion tai mewn ardal gadwraeth am godi paneli haul ar eu cartrefi, byddai angen iddynt wneud cais am ganiatâd cynllunio a byddai pob cais yn cael ei ystyried yn ôl ei rinweddau ei hun gan roi sylw i bolisïau cynllunio ac unrhyw effaith bosib y gallai'r datblygiad ei chael ar gymeriad yr ardal. Yn ogystal, er bod gosod panel haul yn un dewis oedd ar gael i berchnogion tai i gyflawni gostyngiadau carbon, roedd opsiynau eraill ar gael y gallai'r adran gynghori yn eu cylch e.e. insiwleiddio neu ffenestri newydd, gyda phob adeilad yn gorfod cael ei asesu'n unigol ar ba becyn o fesurau fyddai'n cyflawni'r gostyngiad hwnnw orau. Cadarnhawyd hefyd, pe bai paneli haul wedi'u gosod ar eiddo cyn ei gynnwys o fewn ffin gadwraeth ddiwygiedig, na fyddai angen eu symud.

 

Mewn ymateb i'r uchod, gwnaed sylw ar ddeddfwriaeth yn ymwneud ag ardaloedd cadwraeth a'r gwrthdaro â tharged Llywodraeth Cymru o sicrhau allyriadau di-garbon. Y teimlad oedd y dylai'r Pwyllgor ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn hynny o beth yn gofyn iddi ystyried y ffordd orau o gefnogi'r gwaith o gadw ac achub yr amgylchedd.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

4.1

fod yr Adroddiad Arfarniadau o Ardaloedd Cadwraeth yn cael ei gymeradwyo.

4.2

Bod llythyr yn cael ei anfon gan y Cadeirydd at Lywodraeth Cymru i dynnu sylw at yr heriau a'r gwrthddywediadau rhwng ardaloedd cadwraeth a'r argyfwng hinsawdd a'i fod yn ystyried y ffordd orau o gadw ac achub yr amgylchedd.

 

Dogfennau ategol: