Agenda item

ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB CYFALAF A REFENIW 2022/23

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod o'r Cabinet dros Adnoddau Adroddiad Monitro Cyllideb Gorfforaethol yr Awdurdod ac adroddiadau adrannol y Prif Weithredwr a'r Gwasanaethau Corfforaethol fel yr oeddent ar 31 Rhagfyr 2022 mewn perthynas â blwyddyn ariannol 2022/23. Roedd yr adroddiad hefyd yn cynnwys atodiad a oedd yn rhoi manylion Monitro Arbedion 2022-23.

 

Roedd y canlynol ymhlith y materion a'r ymholiadau a godwyd ynghylch yr adroddiad:

·      Dywedodd yRheolwr Marchnata a'r Cyfryngau, wrth ateb ymholiad, fod amseroedd ymateb yn y canolfannau cyswllt cwsmeriaid yn gwella a bod swyddi gwag yn cael eu hysbysebu'n gyson;

·     O ran y diffyg incwm parhaus yn y canolfannau hamdden/chwaraeon o ganlyniad i'r cwymp yn y niferoedd, rhagwelwyd y byddai adferiad graddol;

·     Cyfeiriwyd at y nifer gymharol uchel o swyddi gwag a rhoddwyd sicrwydd i aelodau bod y sefyllfa'n cael ei monitro'n barhaus;

·     Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Ariannol, er bod cyllid ychwanegol wedi'i ddarparu ar gyfer ysgolion yng nghyllideb 2023/24, yn bennaf er mwyn cynorthwyo ysgolion i alluogi disgyblion i ddal i fyny ar ôl covid, gellid darparu manylion yr ysgolion hynny yr oedd eu cyfrifon mewn diffyg o hyd fel rhan o'r broses o ddatgan cyfrifon;

·     Cydnabuwyd nad oedd modd osgoi'r defnydd o weithwyr asiantaeth mewn rhai meysydd gwasanaeth oherwydd yr anawsterau wrth recriwtio staff, yn enwedig gan fod awdurdodau lleol eraill yn wynebu'r un problemau. Er fod yr awdurdod yn ceisio datblygu ei weithlu ei hun yn y meysydd hyn byddai hynny'n cymryd cryn amser; 

·    Mewn ymateb i ymholiad yn ymwneud â chefnogaeth TGCh ac adfer gweithdrefnau, dywedodd y Pennaeth TGCh a Pholisi Corfforaethol fod seilwaith cadarn a gwydn ar waith a bod profion rheolaidd yn cael eu cynnal;

·     Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Ariannol, mewn ymateb i sylw, fod y trafferthion ar ôl Covid yn y sector adeiladu fel petaent yn gwella, a oedd yn newyddion positif o ran y rhaglen gyfalaf.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

 

Dogfennau ategol: