‘’Pryd fydd y dogfennau adolygu sy'n ymwneud ag ailasesu Polisi Ardaloedd Tirwedd Arbennig EQ6 y cynllun lleol presennol, a fydd yn arwain at lunio Polisi BHE2, yn cael eu cyhoeddi?’’
Cofnodion:
‘’Pryd fydd y dogfennau adolygu sy'n ymwneud ag ailasesu Polisi Ardaloedd Tirwedd Arbennig EQ6 y cynllun lleol presennol, a fydd yn arwain at lunio Polisi BHE2, yn cael eu cyhoeddi?’’
Dywedodd y Cynghorydd Ann Davies, yr Aelod Cabinet dros Faterion Gwledig a Pholisi Cynllunio:-
‘’Diolch i chi am eich cwestiwn. Mae'r Polisi newydd BHE2 yn y CDLl ar ddechrau ei daith ar hyn o bryd a bydd yn cael ei gefnogi gan dystiolaeth bellach a chanllawiau atodol a fydd yn cael eu cwblhau ac yn barod i fod yn weithredol erbyn i'r CDLl newydd gwblhau ei daith, rwy'n gobeithio erbyn Rhagfyr 2024 ond mae hyn ddibynnol ar yr Arolygiaeth Gynllunio ac amryw faterion eraill.
Fel y gwyddoch, mae'r ymgynghoriad ynghylch yr 2il CDLl Adneuo yn cael ei gynnal ar hyn o bryd. Mae dyddiad yr ymgynghoriad hwn yn dod i ben ar 14 Ebrill, a byddwn yn gofyn yn garedig os oes gennych bryderon yna byddwn yn awgrymu eich bod yn eu bwydo i mewn i'r system hon. Fel y gwyddoch, byddwn yn edrych ar bob ymateb ac yn ei ddadansoddi cyn i'r Arolygiaeth Gynllunio ei asesu'n annibynnol. Wrth i ni baratoi'r canllawiau atodol ar dirweddau byddwn hefyd yn ymgynghori â'r Cyhoedd yngl?n â'i gynnwys.
Bydd y canllawiau hyn yn nodi tirweddau ar draws y Sir a'u nodweddion arbennig gan ganiatáu i ni ddeall yr hyn sy'n bwysig amdanynt fel rhan o'u dynodiad yn y dyfodol. Fel y gwyddoch, nid yw'r Ardaloedd Tirwedd Arbennig presennol yn rhoi unrhyw amddiffyniad pendant i'r 18 ardal a nodwyd yn y CDLl presennol. Dim ond Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol a Pharciau Cenedlaethol sy'n cynnig yr amddiffyniad hwnnw. Fodd bynnag, bydd polisi BHE2 yn cryfhau'r Polisi ar Dirweddau.‘’
Cwestiwn atodol gan Mr Havard Hughes:-
‘’Yn y Cynllun Datblygu Lleol cymeradwy dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru eu bod yn holi ynghylch y diffyg cyfeiriadau at ardaloedd tirwedd arbennig yn y datganiad gwreiddiol. Ymateb Sir Gaerfyrddin oedd 'Mae Ardaloedd Tirwedd Arbennig yn ddynodiad anstatudol ac oherwydd hyn nid yw'n ofynnol ei ddynodi yn y CDLl’. Felly a yw eich barn chi yr un fath â swyddogion y cyngor a'u hymateb nhw nad yw ardaloedd tirwedd arbennig yn ofynnol ac felly a ydynt wedi cael eu dileu o'r cynllun lleol?
Ymateb gan y Cynghorydd Ann Davies, yr Aelod Cabinet dros Faterion Gwledig a Pholisi Cynllunio i'r cwestiwn atodol:-
Fel y dywedais yn flaenorol, nid yw'r Ardaloedd Tirwedd Arbennig yn gosod amddiffyniad pendant; fel y gwyddoch gan fy mod wedi ysgrifennu e-byst atoch i'ch gwneud yn ymwybodol o hyn.
Bydd polisi BHE2 yn cryfhau'r polisi ar dirweddau a hoffwn ddweud mewn gwirionedd drwy ddefnyddio system Landmap Cyfoeth Naturiol Cymru bydd Sir Gaerfyrddin gyfan yn cael ei hamddiffyn o dan y polisi newydd ac rwy'n credu ei bod yn bwysig ein bod yn nodi hynny. Rydym yn ymwybodol bod deiseb yn y Sir sy'n gofyn i ni adolygu ein barn ar yr Ardaloedd Tirwedd Arbennig, fodd bynnag, gan mai dyddiad cau'r ymgynghoriad yw 14 Ebrill, rwyf am ofyn yn garedig i'r trefnydd sicrhau bod y wybodaeth hon yn cael ei bwydo i mewn i'r ymgynghoriad cyn y dyddiad cau os yn bosibl.