Agenda item

POLISI CARTREFI GWAG - EIN DULL O DDEFNYDDIO CARTREFI GWAG UNWAITH ETO

Cofnodion:

 

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i adroddiad am Bolisi Cartrefi Gwag y Cyngor a oedd yn cynnwys manylion ar ei ddull, gweledigaeth, a rhaglen waith am y pedair blynedd nesaf, er mwyn mynd i'r afael â chartrefi preswyl preifat gwag yn y sir a'u defnyddio unwaith eto. Dywedwyd bod y Cyngor wedi lleihau nifer y cartrefi gwag preifat yn y sir ers 2017 o 2667 i 1,984, a'r nod oedd lleihau'r nifer hwnnw ymhellach i 1500 erbyn 2026.

 

Codwyd y cwestiynau/materion canlynol ar yr adroddiad:-

·       Cyfeiriwyd at ddilyn y 6 phwynt bwled blaenoriaeth oedd yn yr adroddiad, mewn trefn flaenoriaeth, gan ganolbwyntio ar gartrefi gwag ta faint o amser roeddent wedi bod yn wag:-

 

1)      Targedu cartrefi gwag mewn ardaloedd lle mae galw mawr am dai neu yn yr ardaloedd deg tref a fydd hefyd yn ysgogi adfywio ehangach.

 

2)      Targedu cartrefi gwag a fydd yn cael eu defnyddio unwaith eto fel tai fforddiadwy i bobl ar y Gofrestr Dewis Tai, a chanolbwyntio'n benodol ar dai gwag yn Ystadau'r Cyngor a oedd wedi'u gwerthu o'r blaen drwy'r cynllun 'hawl i brynu'.

 

3)     Cefnogi defnyddio unwaith eto unedau preswyl gwag uwchben busnesau masnachol yng nghanol ein trefi, ar gyfer pobl a fydd yn cyfrannu at economi canol y dref.

 

4)      Gweithio gyda theuluoedd perchnogion tai gwag sydd mewn gofal, rheoli'r eiddo ar eu rhan a gallai'r incwm dalu'n rhannol am gost eu gofal.

 

5)      Ymateb i gwynion lle mae cartrefi gwag yn niwsans i eiddo cyfagos neu'n denu ymddygiad gwrthgymdeithasol.

 

6)      Clustnodi tai gwag sydd mewn cyflwr gwael ac sy'n niweidiol i'r ardal gyfagos a chymryd camau adfer priodol.

 

Mynegwyd barn na ddylid rhoi llai o flaenoriaeth i bwyntiau 5 a 6 na'r lleill, oherwydd er nad oeddent mor bwysig â hynny o ran adfywio ardaloedd, roeddent yn bwysig i drigolion lleol o achos eu heffaith niweidiol ar amwynder yr ardal a'u hiechyd meddwl yn enwedig, gan fod yr henoed yn byw yn ymyl eiddo sy'n ddiffaith neu'n wag yn y tymor hir.

         

Cadarnhawyd nad oedd y pwyntiau mewn unrhyw drefn a byddai pob un yn cael yr un flaenoriaeth, i alluogi'r Cyngor i gymryd camau wedi'u teilwra a'u targedu er mwyn defnyddio eiddo gwag unwaith eto, boed mewn canol dref neu ardal wledig.

·       O ran cwestiwn ar fabwysiadu amserlenni ar gyfer defnyddio eiddo gwag unwaith eto, dywedwyd wrth y Pwyllgor fod rhaid caniatáu digon o amser i alluogi defnyddio eiddo unwaith eto, gan fod y rhan fwyaf ond yn wag am amser byr am wahanol resymau e.e. gwneud cais am brofiant. Fodd bynnag, roedd yn bwysig cymryd camau cyn gynted â phosibl ond, beth bynnag, roedd llythyrau'n cael eu hanfon at berchnogion eiddo o'r fath yn flynyddol. Roedd grantiau o hyd at £25k hefyd ar gael i wella cyflwr cartrefi gwag fel bod modd byw ynddynt unwaith eto, i'w gwerthu fel tai fforddiadwy neu eu gosod yn amodol ar delerau'r grant.

·       Gofynnwyd a oedd gan y Cyngor unrhyw bwerau i wneud i berchnogion eiddo ddefnyddio eiddo gwag unwaith eto, er enghraifft, trwy gynyddu'r premiwm treth gyngor ar gartrefi o'r fath.

 

Cadarnhawyd, er mai annog perchnogion tai i ddychwelyd eu heiddo i'r farchnad dai oedd nod y polisi, roedd Atodiad 3 i'r adroddiad yn manylu ar nifer o opsiynau gorfodi (darpariaeth ddeddfwriaethol) oedd ar gael i'r Cyngor i ddelio â'r problemau roedd eiddo gwag yn eu hachosi ac i sicrhau eu bod yn cael eu defnyddio unwaith eto.

 

O ran defnyddio'r premiwm treth gyngor, dywedwyd wrth y Pwyllgor mai'r bwriad oedd bod hynny'n codi'n flynyddol ar gyfer eiddo gwag, a gallai fod hyd at 300% gan arwain at dreth gyngor o £2,000 y flwyddyn, er enghraifft, yn cynyddu i £8,000 y flwyddyn.

·       O ran cwestiwn ar leiniau gwag o dir yng nghanol trefi, cadarnhawyd, er nad oeddent yn rhan o gylch gwaith y polisi, y gellid codi'r pwynt hwnnw gydag is-adran adfywio'r Cyngor.

·       Cadarnhawyd nad oedd ail gartrefi na thai gwyliau yn rhan o gylch gwaith y polisi. Fodd bynnag roedd eiddo o'r fath yn cael eu hystyried fel mater ar wahân, ac wedi bod yn destun ymarfer ymgynghori diweddar, a oedd bellach wedi cau. Roedd yr ymatebion i'r ymgynghoriad yn cael eu dadansoddi ar hyn o bryd, i'w cyflwyno a'u hystyried wedyn drwy broses ddemocrataidd y Cyngor. Byddai hynny hefyd yn cynnwys, er enghraifft, sefyllfa ble roedd cartrefi wedi eu hetifeddu a dim ond am gyfnod byr yn ystod y flwyddyn roedd rhywun yn byw ynddynt.

·       Cadarnhawyd byddai pob eiddo gwag fyddai'n cael ei ddefnyddio unwaith eto drwy grant/benthyg i werthu yn cael ei ystyried yn d? fforddiadwy ac felly'n destun telerau ac amodau'r grant/benthyciad.

·       Cadarnhawyd byddai unrhyw broblemau o ran diogelwch oedd yn deillio o eiddo gwag yn dod o fewn cylch gwaith cyfrifoldebau rheoli adeiladau'r Cyngor.

·       Dywedyd bod yr amserlen ar gyfer gweithredu'r polisi dros gyfnod o bedair blynedd, tra bo'r ddogfen bolisi yn nodi bod yr amserlen o Ionawr 2023 hyd at Ebrill 2026. Cadarnhaodd y Pennaeth Cartrefi a Chymunedau Mwy Diogel y byddai hynny'n cael ei gadarnhau er mwyn i'r Cyngor fabwysiadu'r adroddiad.

 

Bu i'r Pwyllgor grynhoi prif bwyntiau ei drafodaeth a oedd yn ymwneud â'r canlynol a byddai'r adroddiad yn cael ei ddiwygio lle bo'n briodol i'w gyflwyno i'r Cabinet /Cyngor ei ystyried:-

 

a.     Byddai'r adroddiad yn cadarnhau nad oedd y 6 phwynt bwled blaenoriaeth mewn unrhyw drefn o flaenoriaeth, gyda phob un yn cael blaenoriaeth gyfartal i alluogi'r cyngor i gymryd camau wedi'u teilwra a'u targedu i ddefnyddio eiddo gwag unwaith eto,

b.     Yr amserlenni ar gyfer cymryd camau gorfodi yn enwedig mewn perthynas â gweithdrefnau Gorchymyn Prynu Gorfodol a Gorchmynion Rheoli Anheddau Gwag,

c.     Roedd pwerau i ddelio â materion diogelwch yn rhan o gyfrifoldebau rheoli adeiladau'r Cyngor mewn perthynas ag adeiladau adfeiliedig a pheryglus,

d.     Cysylltu ag adran adfywio'r Cyngor o ran tir gwag yng nghanol trefi

e.     Cadarnhau'r amserlenni polisi ar glawr blaen yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod y Polisi Cartrefi Gwag yn cael ei gymeradwyo a'i gyfeirio at y Cabinet, yn amodol ar newid yr adroddiad i gynnwys:

 

-        cadarnhau nad oedd y 6 phwynt bwled blaenoriaeth mewn unrhyw drefn o flaenoriaeth, gyda phob un yn cael blaenoriaeth gyfartal i alluogi'r Cyngor i gymryd camau wedi'u teilwra a'u targedu i ddefnyddio eiddo gwag unwaith eto,

-        cadarnhau amserlen y polisi ar glawr blaen yr adroddiad.

Dogfennau ategol: