Agenda item

GWRANDAWIAD TERFYNOL MEWN PERTHYNAS Â'R ADRODDIAD A GYHOEDDWYD GAN YR OMBWDSMON GWASANAETHAU CYHOEDDUS CYMRU MEWN PERTHYNAS Â'R CYNGHORYDDD TERRY DAVIES

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd y Cynghorydd T. Davies a'i gynrychiolydd Mr D. Daycock i'r cyfarfod, ynghyd â Mrs K. Shaw a Ms S. Jones o Swyddfa Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.

 

Yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 4 Awst 2022, bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad a gyhoeddwyd gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn manylu ar ganlyniadau ei ymchwiliad i honiadau bod y Cynghorydd Davies wedi torri Côd Ymddygiad yr Aelodau ar gyfer Cyngor Tref Llanelli, drwy ymddwyn yn amhriodol wrth ryngweithio ag aelodau eraill ar 09 Chwefror 2021.  Daeth ymchwiliad Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru i'r casgliad fod yna dystiolaeth i awgrymu bod y Cynghorydd Davies wedi methu â chydymffurfio â'r darpariaethau canlynol o'r Côd Ymddygiad:

 

·       4(a) –  Rhaid i chi gyflawni eich dyletswyddau a'ch cyfrifoldebau gan roi sylw dyledus i'r egwyddor y dylid sicrhau cyfle cyfartal i bawb, heb ystyried rhywedd, hil, anabledd, tueddfryd rhywiol, oedran  neu grefydd.

 

  • 4(b) – Rhaid i chi ddangos parch ac ystyriaeth tuag at eraill.

 

·       4(c) – Rhaid i chi beidio â defnyddio ymddygiad bwlio neu aflonyddu ar berson arall.

 

·       6(1)(a) – Rhaid i chi beidio ag ymddwyn mewn modd y gellid ystyried yn rhesymol ei fod yn dwyn anfri ar eich swyddfa nac ar eich awdurdod.

 

Cyfeiriodd y Dirprwy Swyddog Monitro sylw'r Pwyllgor at Weithdrefn Gwrandawiadau'r Pwyllgor Safonau a nodwyd yn Atodiad 2 o ddogfennaeth y cyfarfod a oedd yn gofyn i'r Pwyllgor benderfynu ar ganfyddiadau ffaith ac a oedd ymddygiad y Cynghorydd Davies yn torri'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Gyngor Tref Llanelli, fel yr awgrymwyd yn adroddiad Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. 

 

Dywedodd y Dirprwy Swyddog Monitro dylai'r Pwyllgor gwneud ei benderfyniadau yn seiliedig ar y dystiolaeth a roddwyd gerbron y Pwyllgor ar ffurf cyfrifon tystion ysgrifenedig a llafar, ynghyd â'r cyflwyniadau cyfreithiol a gafodd eu cyflwyno i'r Pwyllgor a'u nodi o fewn dogfennaeth y cyfarfod.  Fel y cadarnhawyd yng nghyfarfod y Pwyllgor Safonau (Adolygiad Rhagwrandawiad) a gynhaliwyd ar 17 Tachwedd 2022, rhestrwyd y ffeithiau diddadl ym mharagraffau 46-55 o adroddiad Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru a nodwyd y ffeithiau oedd yn cael eu herio ym mharagraffau 56-61.

 

Galwodd Ms K Shaw, Cynrychiolydd yr Ombwdsmon, ar bedwar tyst i ddarparu tystiolaeth lafar i'r Pwyllgor i gefnogi ymchwiliad Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. Cadarnhaodd pob tyst i Gynrychiolydd yr Ombwdsmon fod eu datganiadau ysgrifenedig, fel y'u nodir yn adroddiad Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, yn rhoi cyfrif gwir a chywir o'r digwyddiadau ar 09 Chwefror 2021. Wedyn, rhoddwyd cyfle i bob parti ofyn cwestiynau pellach i'r tystion am eu tystiolaeth.

 

Gyda chaniatâd y Cadeirydd, rhoddwyd cyfle i Mr Daycock hefyd ofyn cwestiynau i Ms Jones, Swyddog Ymchwilio'r Ombwdsmon, mewn perthynas â chynnal yr ymchwiliad yng ngoleuni salwch y Cynghorydd Davies a'i amgylchiadau personol ar adeg ei gyfweliad gyda hi.

 

Yn unol â'r weithdrefn y cytunwyd arni, gwahoddwyd Mr Daycock gan y Cadeirydd i gyflwyno unrhyw dystiolaeth i gefnogi'r Cynghorydd Davies. Yn hyn o beth, rhoddodd y Cynghorydd Davies dystiolaeth lafar i'r Pwyllgor i gefnogi ei ddatganiad ysgrifenedig a nodir yn Atodiad 3 o ddogfennaeth y cyfarfod.  Cyflwynodd y Cynghorydd Davies ddogfennaeth ychwanegol i'r Pwyllgor i gefnogi ei achos, a chafodd y rhain eu hatodi i ddogfennaeth y cyfarfod er mwyn i'r Pwyllgor eu hystyried.

 

Cafodd y cyfarfod ei ohirio am 16:57 ar 14 Chwefror 2023 a'i ailymgynnull am 10:00 ar 15 Chwefror 2023.

 

Rhoddwyd cyfle i bob parti ofyn cwestiynau i'r Cynghorydd Davies ynghylch y dystiolaeth a roddwyd ganddo.

 

Aeth cynrychiolydd yr Ombwdsmon a Mr Daycock ymlaen, yn ei dro, i annerch y Pwyllgor ar y dystiolaeth a gyflwynwyd.  Rhoddwyd cyfle i aelodau'r Pwyllgor ofyn cwestiynau am y sylwadau a wnaed. 

 

Ar ôl ystyried y sylwadau ysgrifenedig a llafar:

 

PENDERFYNODD y Pwyllgor YN UNFRYDOL gynnal sesiwn preifat er mwyn cael cyngor cyfreithiol yn unol â Pharagraff 16 o Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Ar ôl y toriad, ailymgynullodd y Pwyllgor i roi ei benderfyniad.  At sail tebygolrwydd, penderfynwyd:

 

3.1

Nad fu'r Cynghorydd Davies yn destun ton o eiriau difrïol - 'barrage of abuse' - gan y Cynghorydd McPherson a'r Cynghorydd Curry.

 

3.2

Nad oedd y Cynghorydd Davies wedi gweiddi yn ystod y digwyddiad.

 

3.3

Bod y Cynghorydd Davies wedi defnyddio iaith wahaniaethol tuag at y Cynghorydd McPherson a'r Cynghorydd Curry ar 9 Chwefror 2021.

 

3.4

Gwnaeth y Cynghorydd Davies ddweud "F off" neu "Fuck off" wrth y Cynghorydd McPherson.

 

3.5

Gallai aelodau'r cyhoedd fod wedi clywed hyn.

 

3.6

Roedd y postiad ar Facebook, y dywedwyd y cafodd ei bostio ar 9 Chwefror 2021, yn sôn am y Cynghorydd McPherson a'r Cynghorydd Curry, yn dilyn y digwyddiad.

 

 

Y rhesymau: 

 

·        

Dim ond un enghraifft dderbyniodd y Pwyllgor o iaith y gellid ei hystyried yn 'ddifrïol', tra byddai 'ton o eiriau difrïol' wedi cynnwys enghreifftiau eraill." Ar y cyfan roedd y pwyllgor yn teimlo nad oedd y Cynghorydd Davies yn gallu profi'r honiad.

 

·        

Teimlai'r Pwyllgor er fod lleisiau'n uchel ac yn cael eu codi ar bob ochr ond nid oedd hyn yn dangos bod y Cynghorydd Davies wedi gweiddi.

 

·        

Ar y cyfan, roedd yn well gan y Pwyllgor dystiolaeth y Cynghorydd  McPherson a'r Cynghorydd Curry dros y dystiolaeth a roddwyd gan y Cynghorydd Davies yngl?n â'r defnydd ganddo o iaith wahaniaethol.

 

·        

Ar y cyfan, roedd yn well gan y Pwyllgor dystiolaeth y Cynghorydd  McPherson a Mr J. Prosser dros y dystiolaeth a roddwyd gan y Cynghorydd  Davies yngl?n â'r honiad ei fod wedi rhegi at y Cynghorydd McPherson.

 

·        

Roedd y Pwyllgor yn fodlon bod pobl yn y parc adeg y digwyddiad ac ar sail tebygolrwydd, ei fod wedi digwydd yn ddigon agos i'r parc y gallai pobl fod wedi clywed yr hyn oedd yn cael ei ddweud.

 

·        

Roedd y Pwyllgor yn fodlon bod geiriad y neges Facebook yn cyfeirio at y 'sgwrs gref' a gafodd ar y diwrnod hwnnw, ac felly barn y Pwyllgor, ar sail tebygolrwydd, oedd ei bod yn cyfeirio at y digwyddiad gyda'r ddau Gynghorydd.

 

 

Cafodd y cyfarfod ei ohirio am 17:01 ar 15 Chwefror 2023 a'i ailymgynnull am 10:00 ar 12 Ebrill 2023.

 

Tynnodd y Dirprwy Swyddog Monitro sylw'r Pwyllgor at ohebiaeth e-bost a gyflwynwyd gan y tyst, Mr Arfon Davies, ar 11 Ebrill 2023 mewn perthynas â pharagraff 14, tudalen 189 o ddogfennaeth y cyfarfod a gyflwynwyd gerbron y Pwyllgor yn ystod Cam 1 yr achos.  Yn hyn o beth, dywedwyd wrth y Pwyllgor fod Mr Arfon Davies wedi egluro bod y datganiadau a wnaed yn y paragraff yn ffeithiol anghywir.

 

Dywedodd y Cadeirydd, yn unol â'r weithdrefn y cytunwyd arni, y byddai angen i'r Pwyllgor benderfynu a oedd ymddygiad y Cynghorydd Davies, fel y'i cadarnhawyd ar 14 a 15 Chwefror, yn gyfystyr â thorri'r Côd a fabwysiadwyd gan Gyngor Tref Llanelli.

 

Cyfeiriodd Ms Shaw o Swyddfa'r Ombwdsmon at y Côd Ymddygiad ar gyfer Cyngor Tref Llanelli gan grynhoi sylwadau'r Ombwdsmon a nodwyd yn Atodiad 5 o ddogfennaeth y cyfarfod, ac esboniodd sut roeddent yn berthnasol i drafodaethau'r Pwyllgor.  Yn hyn o beth, gwahoddwyd y Pwyllgor i roi ystyriaeth briodol i'r gyfraith achosion ganlynol yng nghyswllt hawl gwleidyddion i ryddid mynegiant o dan Erthygl 10 o'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol:

 

·       Sanders v Kingston [2005] EWHC 1145 (Gweinyddiaeth);

·       Heesom v Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru [2014] EWHC 1504 (Gweinyddiaeth); a

·       Calver v Panel Dyfarnu Cymru [2012] EWHC 1172 (Gweinyddiaeth).

 

Cyfeiriwyd hefyd at Benderfyniad Panel Dyfarnu Cymru ynghylch achos y Cynghorydd Roy Owen (APW-006-2021-022-CT).

 

Cafodd y Pwyllgor gyfle i ofyn cwestiynau a gofyn am eglurhad ynghylch y pwyntiau a wnaed gan Ms Shaw.

 

Yna cafwyd sylwadau gan Mr Daycock ar ran y Cynghorydd Davies.  Roedd y rhain yn ailadrodd y pwyntiau a nodwyd yn Atodiad 6a a 6b o ddogfennaeth y cyfarfod. Amlygwyd perthnasedd dyfarniad Calver v Panel Dyfarnu Cymru [2012] EWHC 1172 (Gweinyddiaeth) i'r Pwyllgor ei ystyried yn ystod ei drafodaethau yng nghyswllt yr angen i wleidyddion fod yn 'fwy croendew' a chymeradwyo ymddygiad gwleidyddion yn ystod trafodaethau cadarn ar faterion gwleidyddol.

 

Cafodd y Pwyllgor gyfle i ofyn cwestiynau a gofyn am eglurhad ynghylch y sylwadau a wnaed ar ran y Cynghorydd Davies. 

 

Ar ôl derbyn y sylwadau:

 

PENDERFYNODD Y PWYLLGOR YN UNFRYDOL gynnal sesiwn preifat er mwyn cael cyngor cyfreithiol yn unol â Pharagraff 16 o Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Ailymgynullodd y Pwyllgor i roi ei benderfyniad, a chadarnhaodd y canlynol

 

Wrth benderfynu a oedd y ffeithiau yn yr achos yn gyfystyr â thorri'r Côd, roedd y Pwyllgor wedi dilyn y dull 3 cham a fabwysiadwyd yn achos Sanders v Kingston [2005] EWHC 1145 (Gweinyddiaeth) a'r egwyddorion a sefydlwyd yn achosion Calver v Panel Dyfarnu Cymru [2012] EWHC 1172 (Gweinyddiaeth) a Heesom v Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru [2014] EWHC 1504 (Gweinyddiaeth).

 

Yn ystod ei drafodaethau, roedd y Pwyllgor wedi ystyried ar wahân a oedd defnyddio'r geiriau "F off" neu "Fuck off" a'r iaith wahaniaethol a briodolwyd i'r Cynghorydd Davies yn gyfystyr â thorri paragraffau 4(a), 4(b) a 4(c) o'r côd. Roedd y Pwyllgor hefyd wedi ystyried a oedd ymddygiad y Cynghorydd Davies yn y ddau beth wedi torri Paragraff 6(1)(c) drwy ddwyn anfri ar ei swydd a'i gyngor.

 

Ar ôl rhoi sylw i'r holl dystiolaeth

 

3.7

PENDERFYNWYD bod defnyddio'r geiriau 'F Off' neu 'Fuck Off' yn y cyd-destun y cawsant eu defnyddio yn gyfystyr â thorri paragraff 4(b) o'r Côd Ymddygiad o dan prima facie – sef y ddyletswydd i ddangos parch ac ystyriaeth at eraill, ond nad oeddent yn gyfystyr â thorri paragraffau 4(a) neu 4(c) o'r Côd Ymddygiad.

 

Rhesymau

 

·      Roedd y Pwyllgor wedi ystyried a oedd y geiriau hynny'n gyfystyr â mynegiant gwleidyddol sydd â mesurau diogelu ychwanegol o dan Erthygl 10 o'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol.  Ar ôl ystyried holl amgylchiadau'r achos roedd y pwyllgor o'r farn bod defnyddio'r geiriau hyn yn y cyd-destun y cawsant eu defnyddio yn gyfystyr â cham-drin personol ac nid mynegiant gwleidyddol, felly ni chafodd hawliau'r Cynghorydd Davies o dan Erthygl 10 eu defnyddio.

 

·      Roedd y Pwyllgor wedi ystyried a oedd yr angen a amlygwyd yn achos Calver i wleidyddion fod yn fwy croendew yn berthnasol i ddefnyddio'r geiriau hynny. Yn benodol, nododd y Pwyllgor baragraff 58 o ddyfarniad Calver gan ddod i'r casgliad bod defnyddio'r geiriau hyn yn gyfystyr â cham-drin personol yn hytrach na beirniadaeth dderbyniol yn y maes gwleidyddol.  Yn unol â hynny, roedd y Pwyllgor o'r farn nad oedd y geiriau a ddefnyddiwyd yn rhywbeth y dylid disgwyl i wleidydd fod yn oddefgar ohono.

 

3.8

PENDERFYNWYD bod yr iaith wahaniaethol a ddefnyddiwyd gan y Cynghorydd Davies yn gyfystyr â thorri paragraffau 4(a) a 4(b) o'r Côd Ymddygiad ond nad oedd yn gyfystyr â thorri paragraff 4(c) o'r Côd Ymddygiad.

 

Rhesymau

 

·        

Y farn oedd nad oedd defnyddio iaith wahaniaethol yn ymgais gan y Cynghorydd Davies i danseilio'r Cynghorydd McPherson neu'r Cynghorydd Curry nac yn bwriadu eu bwlio. 

 

·        

Roedd y Pwyllgor o'r farn bod y geiriau a ddefnyddiwyd â mesurau diogelu ychwanegol a roddwyd i fynegiant gwleidyddol o dan Erthygl 10 o'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol, gan eu bod yn cael eu defnyddio yng nghyswllt trafodaeth gadarn rhwng tri gwleidydd am y materion sy'n effeithio ar eu cymuned.  Fodd bynnag, daeth y Pwyllgor i'r casgliad bod angen ymyrryd â hawliau'r Cynghorydd Davies o dan Erthygl 10 er mwyn diogelu hawliau a buddiannau pobl eraill, nid yn unig y Cynghorydd Curry a'r Cynghorydd McPherson ond hefyd trigolion eraill Tyisha.

 

 

3.9

PENDERFYNWYD bod ymddygiad y Cynghorydd Davies wedi torri Erthygl 6(1)(c) o'r Côd Ymddygiad.

 

Rhesymau

 

·      Roedd y Pwyllgor yn fodlon bod yr iaith a ddefnyddiwyd gan y Cynghorydd Davies wedi dod i sylw aelodau'r cyhoedd.

 

·      Hefyd roedd y Pwyllgor yn fodlon y byddai’r defnydd o iaith o'r fath gan y Cynghorydd Davies wedi dwyn anfri ar swydd y Cynghorydd Davies a'i gyngor.

 

Dywedodd y Cadeirydd, yn unol â'r weithdrefn y cytunwyd arni, y byddai angen i'r Pwyllgor benderfynu a ddylid rhoi cosb ai peidio ac os felly, pa fath o gosb.

 

Aeth Cynrychiolydd yr Ombwdsmon a Mr Daycock ymlaen, yn eu tro, i gyflwyno ffactorau perthnasol i'r Pwyllgor wrth ystyried unrhyw gosbau, fel y nodwyd yn Atodiadau 5 a 6c o ddogfennaeth y cyfarfod.  Rhoddwyd cyfle i aelodau'r Pwyllgor ofyn cwestiynau am y sylwadau a wnaed. 

 

Yn ystod y rhan hon o'r cyfarfod, er mwyn i'r Pwyllgor drafod pa gosb, os o gwbl, y dylid ei rhoi,

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gynnal sesiwn preifat er mwyn i'r Cyngor ystyried gwybodaeth eithriedig fel y'i diffinnir ym Mharagraff 16 o Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Wrth ystyried pa mor briodol fyddai unrhyw gosbau i'w rhoi i'r Cynghorydd Davies am iddo dorri'r Côd, roedd y Pwyllgor wedi rhoi ystyriaeth briodol i'r sylwadau a wnaed ar ran yr Ombwdsmon a'r Cynghorydd Davies.

 

Roedd y Pwyllgor yn dilyn y broses pum cam a nodwyd yn y canllaw ar gosbau a gyhoeddwyd gan Banel Dyfarnu Cymru.

 

Difrifoldeb

 

Roedd y Pwyllgor o'r farn bod difrifoldeb yr achosion o dorri'r Côd tua phen isaf y trothwy.

 

Cosbau a ystyriwyd

 

Roedd y Pwyllgor o'r farn mai ceryddu neu atal dros dro am gyfnod byr oedd y cosbau mwyaf priodol. 

 

Ffactorau Lliniarol

 

Ystyriodd y Pwyllgor ffactorau lliniarol perthnasol, a oedd yn cynnwys:

 

·        

Digwyddiad unwaith yn unig oedd hwn.

 

·        

Roedd gan y Cynghorydd Davies hanes blaenorol da fel Cynghorydd ac nid oedd wedi torri'r Côd Ymddygiad o'r blaen.

 

·        

Nid oedd yr achosion o dorri'r Côd yn fwriadol.

 

·        

Defnyddiwyd y geiriau tramgwyddus yn fyrbwyll yn ystod trafodaeth danllyd.

 

Ffactorau Gwaethygol

 

Ystyriodd y Pwyllgor ffactorau gwaethygol perthnasol, a oedd yn cynnwys:

 

·        

Roedd y Cynghorydd Davies wedi torri'r côd ymddygiad bedair gwaith.

 

·        

Roedd yn ymddangos bod diffyg edifeirwch gan y Cynghorydd Davies.

 

·        

Nid oedd yn ymddangos bod y Cynghorydd Davies yn cydnabod difrifoldeb ei weithredoedd.

 

 

Ailystyried Cosb

 

Ailystyriodd y Pwyllgor y gosb briodol yn sgil y ffactorau hyn.

 

Ar hynny, ailymgynullodd y Pwyllgor i roi ei benderfyniad. 

 

PENDERFYNWYD:

 

3.10

Atal y Cynghorydd Davies dros dro o'i swydd fel aelod o Gyngor Tref Llanelli am gyfnod o 1 mis.

 

3.11

Argymell bod y Cynghorydd Davies yn cael hyfforddiant pellach ar Gôd Ymddygiad yr Aelodau.

 

 

Dogfennau ategol: