Agenda item

CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD ROB JAMES I'R CYNGHORYDD DARREN PRICE, ARWEINYDD Y CYNGOR

‘A fyddai Arweinydd y Cyngor yn cytuno â mi, lle mae busnes wedi creu llety - drwy ddefnyddio rhandy, adnewyddu ysgubor segur ar fferm neu rhyw ddull arall - nad yw'r arfer hwn yn tynnu stoc dai o gymunedau lleol nac ychwaith yn ail gartref yn yr ystyr draddodiadol, ac, o'r herwydd, ni ddylai fod yn destun unrhyw bremiwm y Dreth Gyngor?’

 

Cofnodion:

‘A fyddai Arweinydd y Cyngor yn cytuno â mi, lle mae busnes wedi creu llety - drwy ddefnyddio rhandy, adnewyddu ysgubor segur ar fferm neu rhyw ddull arall - nad yw'r arfer hwn yn tynnu stoc dai o gymunedau lleol nac ychwaith yn ail gartref yn yr ystyr draddodiadol, ac, o'r herwydd, ni ddylai fod yn destun unrhyw bremiwm y Dreth Gyngor?

 

Ymateb gan y Cynghorydd Emlyn Dole, Arweinydd y Cyngor:-

 

Diolch am y cwestiwn ac rwy'n meddwl ei fod yn gyfle da mewn gwirionedd i geisio archwilio rhai o'r materion sy'n ymwneud â hyn. Fel y byddwch yn ymwybodol, rydym yn ymgynghori ar hyn o bryd ynghylch cyflwyno Premiwm Treth Gyngor ar eiddo gwag ac ail gartrefi ac mae'r ymgynghoriad hwnnw'n parhau a bydd adroddiad yn dod i'r Cabinet a'r Cyngor dros yr wythnosau nesaf felly, ei amserol.  Yn amlwg, rydych chi'n ymwybodol o'r manylion ynghylch hyn ond, roeddwn i'n meddwl y byddai'n gyfle i roi rhywfaint o gyd-destun i eraill sy'n gwrando sydd heb gael y wybodaeth ddiweddaraf o ran y cyd-destun. Felly, yn amlwg, fel y soniais, rydym yn ymgynghori. Mae gennym ni 2,000 o eiddo gwag ar draws y sir ar hyn o bryd. Mae gennym ni tua 1,000 o ail gartrefi / tai gwyliau ar draws y sir hefyd. Felly, mae hynny'n golygu bod gennym 3,000 o eiddo ar draws y sir sydd naill ai ddim yn cael eu defnyddio o gwbl neu'n cael eu tanddefnyddio mewn rhai achosion. Y gwrthwyneb i hynny, wrth gwrs, yw ein bod ni'n gwybod bod gennym ni dros 3,000 o bobl yn aros ar y rhestr dai ac, yn foesol, rwy'n credu bod yna ddyletswydd arnom ni a'r llywodraeth genedlaethol i geisio mynd i'r afael â'r sefyllfa honno ac ail-gydbwyso'r farchnad.

 

Rwy'n meddwl bod yna farn unfrydol, yn genedlaethol, bod angen gwneud rhywbeth i fynd i'r afael â phroblem eiddo gwag ac ail gartrefi ac, wrth gwrs mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn glir yn dilyn trafodaethau gyda Phlaid Cymru, a chynnwys y Cytundeb Cydweithredu, bod angen gweithredu ar ystod eang o faterion. Yn amlwg mae'r Gweinidog, Julie James, yn awyddus i wneud cynnydd ar hyn ac mae hi wedi cael ei dyfynnu'n barhaus a byddaf yn ei dyfynnu'n uniongyrchol, dim ond er mwyn rhoi rhywfaint o gyd-destun. Beth mae hi'n ei ddweud yw 'bod y cynnydd parhau ym mhrisiau tai yn golygu na all y bobl, yn enwedig cenedlaethau iau, fforddio byw yn y cymunedau maen nhw wedi eu magu ynddyn nhw bellach. Mae nifer uchel o ail gartrefi neu dai gwyliau yn gallu cael effaith andwyol iawn ar gymunedau bychain ac mewn rhai ardaloedd gallai fod yn fygwth i'r Gymraeg yn cael ei siarad ar lefel gymunedol. Bod brys a phwysigrwydd y sefyllfa yn galw am ymyrraeth bellach sy'n golygu bod camau gweithredu gwirioneddol ac uchelgeisiol yn cael eu cyflawni ar gyflymder i sicrhau tegwch yn y system dai’. Mae'n rhaid i mi ddweud fy mod i'n cytuno'n gyfan gwbl gyda'r teimladau hynny. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn bod Llywodraeth Cymru'n gweithredu mewn sawl ffordd i geisio mynd i'r afael â hyn. Un o'r pwerau maen nhw wedi rhoi i awdurdodau lleol wrth gwrs yw cynllun premiwm y dreth gyngor. Yn y gorffennol roedd penderfyniad i sicrhau bod Cynghorau yn gallu cyflwyno premiwm y dreth gyngor o 100% ond ers hynny mae wedi cael ei gynyddu i 300%. Mae newidiadau o ran y broses gynllunio i sicrhau bod y gwahaniaeth a'r eglurder rhwng prif annedd, ail gartrefi a thai gwyliau tymor byr yn cael eu mireinio ymhellach yn y dyfodol ac mae camau hefyd i ddatblygu trefn drwyddedu statudol ar gyfer tai gwyliau. Rwy'n credu bod yr holl fesurau hyn yn bwysig, ac ni ellir eu hystyried ar wahân. Mae angen eu hystyried yn eu cyfanrwydd.

 

Rwy'n credu ei bod hefyd yn bwysig nodi bod awdurdodau lleol ar draws Cymru yn ystyried hyn bellach. Mae nifer o Gynghorau, er enghraifft Gwynedd a Sir Benfro, eisoes wedi cyflwyno Premiymau'r Dreth Gyngor yn yr ardaloedd hyn ac wedi gwneud hynny ers nifer o flynyddoedd. Ond mae gyda ni sefyllfa nawr lle mae cynghorau fel Rhondda Cynon Taf, Sir Fynwy, Conwy, Pen-y-bont ar Ogwr a ni ein hunain wrth gwrs yn ystyried cyflwyno mesurau tebyg ac mae'n dda gweld bod cynghorau ledled Cymru yn cymryd camau cadarnhaol yn hynny o beth.

 

Gan gyfeirio'n benodol at y manylion yn eich cwestiwn, Rob, mae nifer o eithriadau sy'n berthnasol o ran premiymau'r dreth Gyngor, yn enwedig o ran ail gartrefi. Mae saith dosbarth sydd wedi'u heithrio o bremiwm y dreth gyngor:-

·       Yr un cyntaf yw preswylfeydd sy'n cael eu marchnata i'w gwerthu;      

·       Yr ail un yw preswylfeydd sy'n cael eu marchnata i'w gosod;      

·       Y trydydd un, sy'n adlewyrchu'n uniongyrchol y cwestiwn rydych chi'n ei ofyn y bore yma, yw rhandai sy'n rhan o'r brif breswylfa neu yr ystyrir eu bod yn rhan ohoni;      

·       Mae dosbarth pedwar yn ymwneud â phreswylfeydd a fyddai'n unig neu'n brif breswylfa rhywun oni bai eu bod yn byw yn llety'r lluoedd arfog. Rwy'n credu bod hynny'n bwysig iawn;

·       Mae dosbarth pump yn ymwneud â lleiniau carafanau ac angorfeydd cychod sydd wedi'u meddiannu. Maent wedi'u heithrio;

·       Mae dosbarth chwech yn cyfeirio at gartrefi tymhorol lle mae amodau cynllunio yn gwahardd meddiannaeth gydol y flwyddyn ac, unwaith eto, mae hynny'n cyfeirio at y cyfeiriad sydd gennych y bore yma o ran ysguboriau mewn llawer o achosion        

·       Mae dosbarth saith yn ymwneud â phreswylfeydd sy'n gysylltiedig â swyddi        

 

Felly, mae amrywiaeth o breswylfeydd ac eiddo sy'n disgyn y tu allan i Reoliadau Premiwm y Dreth Gyngor. Y diffiniad o ail gartref yw 'preswylfa nad yw'n unig neu'n brif gartref rhywun ac sydd wedi'i dodrefnu'n sylweddol. Mae preswylfeydd lle mae amod cynllunio yn atal deiliadaeth am gyfnod parhaus o leiaf 28 diwrnod o leiaf mewn unrhyw gyfnod o ddeuddeg mis megis chalets a chartrefi gwyliau pwrpasol wedi'u cynnwys yn y diffiniad hwn ac mae gan breswylfeydd o'r fath hawl i eithriadau dosbarth chwech, fel y soniais.

 

Gan gyfeirio at yr enghraifft ysgubor a roddwyd gennych, byddwch yn ymwybodol mai'r arfer cyffredin yw rhoi caniatâd cynllunio ar gyfer datblygiad preswyl a chyfyngu ar ei feddiannaeth i ddefnydd llety gwyliau yn unig. Gall hyn fod yn wir yn aml gydag addasiadau ysgubor lle mae'r caniatâd a geisir ar gyfer ei ddefnyddio at ddibenion llety gwyliau yn hytrach na llety preswyl parhaol ac, fel y soniwyd, rhoddir eithriad i'r rheiny o dan ddosbarth tri. Fodd bynnag, os yw ysgubor wedi'i haddasu heb y cyfyngiad o ran defnydd llety gwyliau yn unig, neu i fod yn brif breswylfa neu'n unig breswylfa i rywun, wedyn byddai angen ei dosbarthu'n ail gartref neu'n llety gwyliau ac felly byddai tâl premiwm yn berthnasol.

 

Felly, ar y cyfan, beth rwy'n trio ei ddweud Rob, yw ei bod yn sefyllfa eithaf cymhleth. Mae llawer o bethau i'w hystyried yma. Nid achos o Bremiwm y Dreth Gyngor yn unig ydyw. Mae'r drefn gynllunio wir yn rhan annatod o hyn wrth i ni geisio gweithredu premiwm y dreth gyngor ond hefyd wrth i ni geisio datblygu'r ardal yn y blynyddoedd i ddod. Rwy'n credu ei bod yn deg dweud bod hwn wedi bod yn faes heb ei reoleiddio ers cryn dipyn o amser, ond rwy'n meddwl bod y strwythur y mae Llywodraeth Cymru yn ei gyflwyno i'r sector o'r diwedd wedi'i groesawu. Yn olaf, hoffwn ychwanegu na hoffwn ragweld unrhyw gyfraniad o ran yr ymgynghoriad, sy'n cael ei gynnal o hyd, ond, yn amlwg, wrth i ni ystyried hyn fel Cabinet, byddwn yn sicrhau bod yr holl dystiolaeth hon yn cael ei hystyried cyn cyrraedd penderfyniad. Diolch yn fawr

 

Cwestiwn Atodol gan y Cynghorydd RobJames:-

 

Diolch am y wybodaeth honno. Dros yr wythnosau a'r misoedd diwethaf, rwyf wedi bod yn cyfarfod ag unigolion sy'n rhan o'r sector twristiaeth amaethyddol sydd, yn fy marn i, yn sector pwysig i'r Cyngor hwn. Rwy'n credu bod angen i ni gefnogi deiliaid ffermydd i arallgyfeirio'u gweithrediadau ac rwy'n credu bod cynnal llety gwyliau fel rhan o hynny yn gam pwysig. Un o'r pethau sydd wedi'i ddweud wrthyf yw bod y newidiadau i'r cyfraddau deiliadaeth h.y. rwy'n credu mai 180 diwrnod sydd eu hangen i gael eu dosbarthu fel busnes hyfyw gan Lywodraeth Cymru oherwydd newidiadau diweddar yn golygu yr effeithir arnynt yn fawr gan y newid hwn yn y dreth gyngor. Felly, yr hyn yr wyf ei eisiau gennych chi yw Arweinydd, ymrwymiad ein bod yn ceisio amddiffyn twristiaeth amaethyddol yn y cyngor hwn gydag unrhyw newidiadau y gallem ystyried eu cyflwyno. Diolch yn fawr ichi 

 

Ymateb gan y Cynghorydd Emlyn Dole, Arweinydd y Cyngor:-

 

Diolch Rob. Y trothwy yw 182 diwrnod, nid 180, ond mae'r pwynt wedi'i wneud yn dda. O'r dechrau, rwy'n meddwl ei bod yn bwysig nodi nad cael unrhyw effaith negyddol ar y diwydiant twristiaeth yw ein bwriad. Rydym yn cydnabod yn llwyr bod y sector twristiaeth yn hanfodol, yn enwedig mewn rhai rhannau o'r sir, ac rwy'n credu bod y cynnig sy'n destun ymgynghoriad cyhoeddus ar hyn o bryd yn adlewyrchu hynny. Fel y soniais yn gynharach, mae lle i gyflwyno premiwm o 300% ar ail gartrefi ac nid ydym wedi awgrymu gwneud hynny fel rhan o'r ymgynghoriad. Rydym wedi awgrymu y byddai cyfraniad o 50% neu 100% yn ddoeth. Rwy'n credu bod hynny wedi'i seilio ar y dysgu a'r profiad ymysg awdurdodau eraill sydd eisoes wedi gweithredu hyn. Fel y soniais mae wedi cael ei weithredu yng Ngwynedd a Sir Benfro ers cryn amser. Mae'r ardaloedd hynny yn dibynnu'n fawr ar y sector twristiaeth ac nid wyf yn cael yr adborth gan yr ardaloedd hynny bod y premiwm ar y lefelau hynny wedi cael effaith niweidiol sylweddol ar y sector twristiaeth. Ond rwy'n credu bod pwynt ehangach yma y mae angen i ni ei ystyried, ac rwy'n meddwl bod y drefn gynllunio yn cynnig cyfle i ni fynd i'r afael â hyn dros y blynyddoedd sydd i ddod, sef llety gwyliau tymor byr yn y sir. Os ydym yn gweld bod busnesau ar draws y sir yn cael trafferth cyrraedd y trothwy hwn, rwy'n credu bod trafodaeth i'w chael o ran cyflenwad llety gwyliau tymor byr a chynaliadwyedd y busnesau hynny. Rydym yn awyddus i ymgysylltu â'r sector ynghylch hyn dros y misoedd a'r blynyddoedd sydd i ddod. Diolch