Agenda item

DIWEDDARIAD STRATEGAETH GOFAL CARTREF

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad yr oedd wedi gofyn amdano yn ymwneud â'r pwysau presennol ar ofal cartref, a'r effaith yr oedd hyn yn ei chael ar ryddhau cleifion o ysbytai.  Bwriad yr adroddiad oedd rhoi sicrwydd bod cleifion yn cael cefnogaeth ddiogel i adael yr ysbyty ac roedd yn amlinellu'r pwysau a sut roedd Cyngor Sir Caerfyrddin yn ymateb i'r pwysau hynny.

 

Roedd y canlynol ymhlith y cwestiynau/sylwadau a godwyd ynghylch yr adroddiad:-

 

·         Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch sut roedd yr Awdurdod yn cynyddu hyblygrwydd contractau a sut y byddai hyn yn effeithio ar gysondeb y ddarpariaeth o ran gofal, dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymunedol fod hyn yn cael effaith ar gysondeb y gofal a hefyd ar y gallu i ddarparu gofal ar yr adeg orau o ran pryd roedd angen ac eisiau'r gofal ar bobl. Dywedwyd wrth y Pwyllgor fod yr adroddiad yn nodi'r hyn yr oedd yr Awdurdod yn ei wneud i liniaru materion cyflenwi a sicrhawyd y Pwyllgor fod yr Awdurdod yn sicrhau nad oedd y gofal a ddarparwyd yn effeithio ar ddiogelwch.   Dywedwyd bod sefyllfa gyffredinol ynghylch hyblygrwydd y gofal a bod sgyrsiau anodd yn gorfod digwydd gyda theuluoedd ac unigolion ynghylch pa opsiynau ymarferol o ofal oedd ar gael.  Mewn rhai achosion, byddai'n rhaid cyfaddawdu ynghylch y pecyn gofal delfrydol ond byddai hyn dal yn well nag aros yn yr ysbyty.  Nodwyd bod tua 50 o unigolion mewn gofal preswyl dros dro ar hyn o bryd, y dylai'r mwyafrif ohonynt gael cymorth gartref.  Cafodd y sefyllfa ei disgrifio fel un deinamig a bod gwelliannau sylweddol wedi'u gwneud dros yr wythnosau diwethaf, ond roedd y sefyllfa'n parhau i fod yn anodd.  Dywedwyd bod yr Awdurdod yn ceisio cynnig contractau mwy hyblyg yn hytrach na'r rotâu anhyblyg traddodiadol i gynorthwyo gyda recriwtio a chadw staff.

·         Mynegwyd pryder y byddai'r cytundebau hyblyg yn arwain at ddiffyg parhad yn y gofal gydag unigolion yn cael nifer o wahanol ofalwyr.  Dywedwyd er bod nifer o bobl o bosibl yn darparu gofal gwnaed pob ymdrech i sicrhau bod hyn yn cael ei gadw i'r un gr?p o bobl.  Cydnabuwyd bod y parhad hwn o fudd i'r unigolyn oedd yn derbyn y gofal ac i'r gofalwr.

·         Hefyd gofynnwyd am eglurhad ynghylch y defnydd o feicrofentrau Dywedwyd wrth y Pwyllgor fod y cynllun eisoes yn cael ei ddefnyddio yn Sir Benfro a'i bod yn ddyddiau cynnar iawn i Sir Gaerfyrddin. Megis dechrau oedd y cynllun gyda’r nod o gynorthwyo ardaloedd lle'r oedd yn anodd cael gofal cartref yn draddodiadol. Dywedwyd bod yr Awdurdod wrthi'n recriwtio aelod o staff i arwain ar y fenter.

·         Gofynnwyd a oedd pwysau ar yr Awdurdod i flaenoriaethu rhyddhau cleifion mewn ysbytai dros y rhai oedd eisoes yn aros am becynnau gofal.  Dywedwyd wrth y Pwyllgor fod pwysau cyson o ran cydbwyso rhyddhau cleifion o ysbytai a rhestrau aros cymunedol a’i fod yn anochel y byddai'r rhai yn y gymuned yn aros yn hirach oherwydd yr angen i flaenoriaethu rhyddhau cleifion o ysbytai.  Er gwaethaf y capasiti cyfyngedig, roedd pobl a oedd yn byw gartref ac yn aros i’r gwasanaethau gofal cartref ddechrau yn cael eu rheoli, gyda'r rhai a oedd yn y categori coch yn cael blaenoriaeth ar unwaith.

·         Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch pa gymorth ymarferol fyddai'n cael ei gynnig i aelodau'r teulu a oedd yn camu i'r adwy i ddarparu gofal a sut y byddai ansawdd y gofal a ddarperir ganddynt yn cael ei fonitro, dywedwyd y byddai aelodau'r teulu yn derbyn hyfforddiant priodol ac asesiad codi a chario.

·         Cyfeiriwyd at ddatblygu'r Academi Gofal ac os byddai'r cyfyngiadau cyllidebol yn effeithio ar ei sefydlu.  Dywedwyd bod academi gofal a lansiwyd gan yr awdurdod yn targedu disgyblion chweched dosbarth gyda'r gobaith o ennill cymhwyster lefel gradd.  Dywedwyd bod cyfres o unigolion o safon uchel gyda'r gwytnwch, yr hyder, a'r wybodaeth ofynnol i fynd ar y trywydd tuag at hyfforddiant proffesiynol gobeithio.  Cydnabuwyd bod sefydlu'r academi yn cymryd amser ac nad oedd cyfyngiadau cyllidebol yn effeithio ar yr academi.

·         Gofynnwyd a oedd yr Awdurdod yn mynd i gynyddu nifer y gwelyau cam i lawr yn y Sir.  Dywedwyd bod y Bwrdd Iechyd wedi comisiynu 15 o welyau ychwanegol ar sail tymor byr a bod 14 o welyau gan yr Awdurdod yng nghartref gofal Llys y Bryn (T? Pili Pala). Roedd ysbytai cymunedol yn cael eu defnyddio hefyd gyda 28 gwely yn Nyffryn Aman a 14 gwely yn ysbyty Llanymddyfri.  Cydnabuwyd bod angen capasiti ychwanegol yn y gymuned ac fel model roedd yn gweithio'n dda gyda gwell canlyniadau i unigolion.  Cytunwyd bod angen lledaeniad daearyddol, fodd bynnag roedd hyn yn gyfyngedig i'r capasiti mewn cartrefi gofal.

·         Gofynnodd y Pwyllgor am ddiweddariadau rheolaidd yngl?n â gofal cartref a chynnydd gyda'r Bwrdd Iechyd.  Cytunwyd y byddai diweddariadau'n cael eu cynnwys yn awtomatig mewn adroddiadau perfformiad a monitro data. 

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

 

Dogfennau ategol: