Agenda item

GRWP GORCHWYL A GORFFEN - PWYLLGOR CRAFFU CYMUNEDAU, CARTREFI AC ADFYWIO: POLISI DYRANNU TAI CYMDEITHASOL BRYS

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i adroddiad ei Gr?p Gorchwyl a Gorffen a sefydlwyd i ddatblygu Polisi Dyraniadau Tai Cymdeithasol Brys ar gyfer Sir Gaerfyrddin, er mwyn mynd i'r afael â'r sefyllfa ddigynsail lle'r oedd y Cyngor, fel yn achos pob Awdurdod Lleol Cymreig a Landlord Cymdeithasol Cofrestredig, yn wynebu mwy o alw am y cyflenwad o dai cymdeithasol.

 

Roedd yr adroddiad yn manylu ar waith y Gr?p, ac yn cynnwys Polisi Dyraniadau Brys arfaethedig, a oedd yn cynnig y byddai dyraniadau tai cymdeithasol yn Sir Gaerfyrddin yn y dyfodol drwy 'baru uniongyrchol' lle byddai'r Cyngor yn dyrannu'r holl eiddo oedd ar gael yn unol â meini prawf penodol, a hynny i'r rhai oedd yn ddigartref a'r rhai oedd â'r angen mwyaf o ran tai. Pe bai'r cynnig yn cael ei fabwysiadu, cynigiwyd ymhellach y byddai'r polisi brys yn ei le am tua blwyddyn er mwyn galluogi cynnal adolygiad llawn o'r 'Polisi Dyraniadau Cyffredin', y byddai angen ei atal tra bo'r polisi brys yn weithredol. Dywedwyd hefyd, pe bai'r polisi'n cael ei fabwysiadu, ac nad oedd modd dyrannu'r holl eiddo oedd ar gael ar adeg benodol, y byddai'r rhai oedd heb eu dyrannu ar gael trwy 'Canfod Cartref' i bobl gynnig amdanynt, fel oedd yn digwydd ar hyn o bryd.

 

Diolchodd y Pwyllgor i aelodau'r Gr?p Gorchwyl a Gorffen a'r swyddogion fu'n rhan o'r adolygiad am eu gwaith wrth ddatblygu'r Polisi Dyraniadau Brys arfaethedig.

 

Codwyd y cwestiynau/materion canlynol ar yr adroddiad:-

·       Cadarnhawyd os na fyddai eiddo oedd ar gael yn cael ei baru'n uniongyrchol, yn unol â meini prawf penodol, byddai'n cael ei hysbysebu ar 'Canfod Cartref' i'r rhai ar y Gofrestr Tai gynnig amdano, fel oedd yn digwydd ar hyn o bryd.

·       Cyfeiriwyd at y system bresennol ar gyfer cynnig am eiddo, lle roedd eiddo'n cael eu hysbysebu am hanner nos ar ddydd Iau tan hanner nos y dydd Llun canlynol, ac at y ffaith bod rhai pobl yn aros lan hyd at hanner nos ar y dydd Iau i gyflwyno eu cais yn gynnar. Awgrymwyd bod yr amser cychwyn yn cael ei newid i dyweder 6.00am ar fore Gwener.

 

Er byddai hynny'n bosibl, dywedwyd wrth y Pwyllgor fod y ffenestr i bobl gyflwyno cais ar agor am bedwar diwrnod, a gellid cyflwyno cais unrhyw bryd o fewn y ffenestr honno. Cadarnhawyd hefyd mai'r angen oedd yn bwysig wrth ddyrannu eiddo, ac nid pryd cyflwynwyd cais. Dywedodd y Pennaeth Cartrefi a Chymunedau Mwy Diogel y byddai'n bwrw golwg ar y geiriad ar Canfod Cartref fel ei fod yn egluro'n well y broses o wneud cynnig.

·       O ran cwestiwn ar faint o lety dros dro oedd yn cael ei ddarparu i'r digartref, dywedodd y Pennaeth Cartrefi a Chymunedau Mwy Diogel, er bod dyrannu eiddo yn ffordd o fynd i'r afael â digartrefedd, fod dulliau eraill ar gael i'r Cyngor yn hynny o beth gan gynnwys adeiladu mwy o eiddo, defnyddio'r sector rhentu preifat, a phrynu eiddo.

 

Cadarnhaodd ymhellach, er bod y Cyngor bob amser yn ymdrechu i gartrefu'r rhai oedd yn ddigartref mewn mannau agos i'w cartrefi / teuluoedd ac ati, nad oedd hynny'n bosibl ar bob achlysur. Ar hyn o bryd, roedd 146 o bobl mewn llety dros dro ar gost o hyd at £100 y noson. Roedd Llywodraeth Cymru, o dderbyn y pwysau oedd ar lywodraeth leol ar hyn o bryd o ran digartrefedd, wedi dyrannu cyllid ychwanegol er mwyn helpu i dalu'r costau hynny, gyda Sir Gâr yn cael cyfanswm o £0.5m.

 

·       Cyfeiriwyd at gyflwyno'r Polisi Brys fel mesur dros dro am tua blwyddyn. Awgrymwyd y dylai aelodau'r Gr?p Gorchwyl a Gorffen gyfarfod â swyddogion bob deufis i werthuso gweithrediad y Polisi. 

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL argymell i'r Cabinet/Cyngor :

 

5.1

bod y Polisi Dyrannu Tai Dros Dro Brys yn cael ei gymeradwyo;

5.2

bod y Polisi Gosodiadau ar sail Dewis presennol yn cael ei atal am tua blwyddyn, a bod y Polisi Dyrannu Tai Cymdeithasol Dros Dro Brys yn cael ei weithredu;

5.3

bod y Pwyllgor Craffu - Cymunedau, Cartrefi ac Adfywio yn cael y wybodaeth ddiweddaraf ym mhob cyfarfod ynghylch effeithiolrwydd y newid;

5.4

bod cynnwys yr adroddiadau diweddaru yn cynnwys data ynghylch y cyfnod blaenorol sy'n cyfeirio at:

·       Cyfran yr eiddo a barwyd yn uniongyrchol a'r rhai a hysbysebwyd;

·       Bandiau'r cleientiaid a barwyd;

·       Nifer yr eiddo a barwyd yn uniongyrchol ac a hysbysebwyd gan bob ardal gymunedol, math o eiddo a landlord;

·       Cyfran yr achosion o baru uniongyrchol a oedd yn llwyddiannus;

·       Nifer yr achosion o baru uniongyrchol lle mae'r cleientiaid yn gofyn am adolygiad o'r dyraniad, a chanlyniad yr adolygiadau hynny;

·       Nifer yr achosion o baru uniongyrchol lle mae'r cleientiaid yn gwrthod y dyraniad ond nid yw'n gofyn am adolygiad

 

 

 

5.5

 PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod aelodau'r Gr?p Gorchwyl a Gorffen yn cwrdd bob deufis i fonitro gweithrediad y Polisi Brys

 

5.6

PENDERFYNWYD cadw'r system bresennol o ddechrau hysbysebu eiddo ar 'Canfod Cartref' am hanner nos ar ddydd Iau.

 

Dogfennau ategol: