Cofnodion:
Bu'r Pwyllgor yn ystyried Strategaeth Cyllideb Refeniw y Cyngor 2023/24 i 2025/26 a oedd yn rhoi golwg gyfredol ar y gyllideb refeniw ar gyfer 2023/2024 ynghyd â ffigurau dangosol ar gyfer blynyddoedd ariannol 2024/25 a 2025/26. Roedd yr adroddiad yn seiliedig ar ragamcanion y swyddogion ynghylch gofynion gwariant, ac roedd yn rhoi ystyriaeth i'r setliad amodol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ar 14 Rhagfyr 2022.
Pwysleisiwyd er bod llawer o waith eisoes wedi'i wneud wrth baratoi'r gyllideb, dywedwyd mai datganiad sefyllfa cychwynnol oedd yr adroddiad hwn a fyddai'n cael ei ddiweddaru yn dilyn y broses ymgynghori. Yn unol â hynny, atgoffwyd Aelodau bod yr adroddiad wedi'i ystyried gan y Cabinet yn ei gyfarfod ar 9 Ionawr 2023 a bod aelodau'r Pwyllgor wedi mynychu digwyddiadau ymgynghori yn ddiweddar, a oedd yn rhoi cyfle i ddadansoddi a chael eglurhad ynghylch gwahanol agweddau ar y gyllideb.
Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor y byddai cynigion terfynol y gyllideb yn cael eu cyflwyno i'r Cabinet ganol/diwedd Chwefror, a fyddai'n galluogi cyflwyno cyllideb gytbwys i'r Cyngor Sir ar 1 Mawrth 2023. Fodd bynnag, oherwydd yr oedi yn y setliad dros dro, a'r effaith ganlyniadol ar gwblhau'r gyllideb gan Lywodraeth Cymru, ni fyddai'r setliad terfynol yn cael ei gyhoeddi tan 7 Mawrth 2023.
Nododd yr adroddiad, ar ôl addasiadau ar gyfer trosglwyddiadau a nodwyd gan Lywodraeth Cymru, mai 8.5% (£26.432 miliwn) oedd y cynnydd yn y setliad dros dro ar gyfer Sir Gaerfyrddin. Roedd y Cyllid Allanol Cyfun wedi cynyddu felly i £338.017 miliwn yn 2023/24. Er bod y setliad yn gynnydd sylweddol o'r ffigwr dangosol o 3.4%, roedd y model ariannol yn rhagweld gofyniad i arbed £20m dros gyfnod o dair blynedd y Cynllun Ariannol Tymor Canolig.
Nodwyd bod £7.9m o gyllid ychwanegol wedi'i gyhoeddi ar gyfer Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol ac Addysg a'i ddosrannu i Lywodraeth Leol gan arwain at gynnydd o 8.5% i'r Awdurdod.
Nodwyd bod pwysau chwyddiant yn drymach nag y bu ers degawdau ac y byddai'r cynnydd anochel mewn costau yn arwain at gwtogi cyllidebol. Roedd Llywodraeth Cymru hefyd wedi cyhoeddi grantiau penodol ar gyfer lefel Cymru ochr yn ochr â'r setliad dros dro. Roedd y rhain yn weddol debyg o ran gwerth arian i'r blynyddoedd blaenorol. Fodd bynnag, gyda'r cynnydd mewn chwyddiant a'r codiadau cyflog ar y lefel bresennol roedd yna doriadau gwirioneddol.
Dywedodd llythyr y Gweinidog bod cyllid wedi'i ddarparu i dalu am y cynnydd yn y cyflog byw a bod yr holl gyllid wedi'i ddyrannu. Byddai cost llawn codiadau cyflog yn y dyfodol yn gorfod cael eu darparu'n lleol. Mae wedi bod yn heriol wrth lunio'r gyllideb gan nad oedd y rhagdybiaethau o ran cyflogau a chwyddiant a oedd wedi'u haddasu yn ddigonol i ddarparu cyllid i adrannau.
Atgoffwyd aelodau, pan osodwyd y gyllideb yn flaenorol, 4% oedd y codiad cyflog y cytunwyd arno ar y pryd. Cytunwyd ar gynnydd cyflog i'r rhan fwyaf o staff ar un gyfradd o 2K (sy'n cyfateb i 7.1% ar gyfartaledd) ar draws y gweithlu. Byddai angen cynnwys 3.1% ychwanegol i gyllideb y flwyddyn nesaf. Cyfeiriwyd at y cynnydd o 5% i Athrawon y cytunwyd arno gan Lywodraeth Cymru fodd bynnag, cydnabuwyd bod aelodau'r Undeb Addysg Cenedlaethol (NEU) wedi pleidleisio o blaid gweithredu'n ddiwydiannol mewn ymgais i gael codiad cyflog o 12%. Nododd y Pwyllgor fod y gyllideb ddrafft yn cynnwys y "catchup" o 1% i 5%, ond ni fyddai unrhyw gynnydd pellach wedi ei ariannu a byddai'n cynrychioli pwysau ariannol ychwanegol o oddeutu £1m ar gyfer pob cynnydd o 1% mewn cyflog. Fel cyfanswm, byddai'r cyflog tybiedig yn ychwanegu £19m at gyllideb y Cyngor y flwyddyn nesaf
Nodwyd mai'r strategaeth dros y blynyddoedd blaenorol oedd cynyddu ffioedd a thaliadau yn unol â'r gyfradd chwyddiant oedd yn bodoli ac roedd y gyllideb ddrafft yn cynnig cynnydd o 10% lle bo hynny'n bosibl. Roedd trigolion wedi cael eu gwahodd i gyflwyno eu barn am hyn fel rhan o'r ymgynghoriad cyhoeddus.
Dywedwyd wrth y Pwyllgor fod Atodiad C yn dangos £12m tuag at y cynnydd mewn pwysau a nodwyd gan yr adrannau a nad oedd modd osgoi hyn os oedd yr Awdurdod am barhau i ddarparu gwasanaethau ar y lefel bresennol.
Dangosodd atodiad Aii gynnydd sylweddol o ran chwyddiant mewn cost gofal a ddarparwyd, twf demograffig yn ogystal â chynnydd mewn lwfansau maethu. Nodwyd bod y pwysau a oedd eisoes ar Ofal Cymdeithasol i Oedolion wedi'i gyfyngu i'r hyn yr oedd modd ei ddarparu yn weithredol ym marn y Cyfarwyddwr, wrth ystyried y pwysau presennol ar y gweithlu ar draws y sector cyfan.
Bu'r Pwyllgor yn ystyried y wybodaeth gyllidebol fanwl ganlynol a oedd wedi'i hatodi i'r Strategaeth ac a oedd yn berthnasol i'w faes gorchwyl:-
· Atodiad A(i) - Crynodeb effeithlonrwydd ar gyfer Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
· Atodiad A(ii) - Crynodeb Effeithlonrwydd ar gyferIechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
· Atodiad B - Adroddiad monitro'r gyllideb ar gyfer Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
· Atodiad C - Crynhoad Taliadau ar gyfer Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Ar ran y Pwyllgor mynegodd y Cadeirydd ei gwerthfawrogiad am y gwaith yr oedd y tîm wedi'i wneud wrth gynhyrchu'r gyllideb ddrafft ac wrth gynnal y Seminar diweddar ar y Gyllideb lle'r oedd y Pwyllgor wedi cael cyfle i ofyn cwestiynau.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:
6.1 |
Bod yr Ymgynghoriad ynghylch Strategaeth Cyllideb Refeniw 2023/24 - 2025/26 yn cael ei dderbyn; |
6.2 |
Bod y Crynhoad Taliadau a nodir yn Atodiad C yr adroddiad yn cael ei gymeradwyo. |
Dogfennau ategol: