Agenda item

YMGYNGHORI YNGHYLCH STRATEGAETH Y GYLLIDEB REFENIW 2023/24 TAN 2025/26

Cofnodion:

[NODER:  Roedd y Cynghorwyr L.M. Davies ac A.C. Jones wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach; ailddatganwyd y buddiant hwnnw ganddynt a gadawsant y cyfarfod tra oedd yr eitem yn cael ei hystyried.  At hynny, ar y pwynt hwn, datganodd y Cynghorydd B.W. Jones ddiddordeb personol ar y sail bod ei mab yn cael ei gyflogi fel Pennaeth mewn ysgol yn y sir.  Arhosodd y Cynghorydd B. Jones yn y cyfarfod tra oedd yr eitem hon yn cael ei hystyried].

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried Strategaeth Cyllideb Refeniw y Cyngor 2023/24 i 2025/26 a oedd yn rhoi golwg gyfredol ar y gyllideb refeniw ar gyfer 2023/2024 ynghyd â ffigurau dangosol ar gyfer blynyddoedd ariannol 2024/25 a 2025/26.  Roedd yr adroddiad yn seiliedig ar ragamcanion y swyddogion ynghylch gofynion gwariant, ac roedd yn rhoi ystyriaeth i'r setliad amodol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ar 14 Rhagfyr 2022.

 

Er bod llawer o waith eisoes wedi'i wneud wrth baratoi'r gyllideb, pwysleisiwyd mai datganiad sefyllfa cychwynnol oedd yr adroddiad hwn a fyddai'n cael ei ddiweddaru yn dilyn y broses ymgynghori.  Yn unol â hynny, atgoffwyd Aelodau bod yr adroddiad wedi'i ystyried gan y Cabinet yn ei gyfarfod ar 09 Ionawr 2023 a bod aelodau'r Pwyllgor wedi mynychu digwyddiadau ymgynghori yn ddiweddar, a oedd yn rhoi cyfle i ddadansoddi a chael eglurhad ynghylch gwahanol agweddau ar y gyllideb.

 

Nododd yr adroddiad, ar ôl addasiadau ar gyfer trosglwyddiadau a nodwyd gan Lywodraeth Cymru, mai 8.5% (£26.432 miliwn) oedd y cynnydd yn y setliad dros dro ar gyfer Sir Gaerfyrddin. Roedd y Cyllid Allanol Cyfun wedi cynyddu felly i £338.017 miliwn yn 2023/24.  Er bod y setliad yn gynnydd sylweddol o'r ffigwr dangosol o 3.4%, roedd y model ariannol yn rhagweld gofyniad i arbed £20m dros gyfnod o dair blynedd y Cynllun Ariannol Tymor Canolig.

 

Tynnwyd sylw'r Pwyllgor at adran 3.5 o strategaeth y gyllideb lle rhoddwyd trosolwg o gyllidebau dirprwyedig yr ysgolion i'r Aelodau. Nodwyd y byddai llawer o grantiau sy'n benodol i wasanaethau yn parhau ar lefel eithaf tebyg (gwerth arian parod) i flynyddoedd blaenorol, a fyddai, mewn gwirionedd, yn lleihau allbynnau o ystyried effaith dyfarniadau cyflog a chwyddiant cyffredinol.  Fodd bynnag, roedd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau yn falch o allu dweud bod y Grant Trawsnewid Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Grant Datblygu Disgyblion wedi cynyddu, ac, ar ben hynny, fod cyllid LlC wedi'i ddarparu i wastatau'r grant Recriwtio, Adfer, Codi Safonau, yn lle'r gostyngiad arfaethedig, a byddai hyn yn galluogi ysgolion i barhau â'u gweithgareddau adfer ar ôl covid.

 

Cyfeiriwyd at argymhelliad y corff adolygu cyflogau annibynnol o gynnydd o 5% i'r holl Athrawon, a oedd wedi cael ei dderbyn gan Lywodraeth Cymru. Fodd bynnag, cydnabuwyd bod aelodau'r Undeb Addysg Cenedlaethol (NEU) wedi pleidleisio o blaid gweithredu diwydiannol mewn ymgais i gael codiad cyflog o 12%.  Nododd y pwyllgor fod y gyllideb ddrafft yn cynnwys y "catchup" o 1% i 5%, ond ni fyddai unrhyw gynnydd pellach wedi ei ariannu a byddai'n cynrychioli pwysau ariannol ychwanegol o oddeutu £1m ar gyfer pob cynnydd o 1% mewn cyflog.

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried y wybodaeth gyllidebol fanwl ganlynol a oedd wedi'i hatodi i'r Strategaeth ac a oedd yn berthnasol i'w faes gorchwyl:-

 

·       Atodiad A(i) – Crynodeb o'r arbedion effeithlonrwydd ar gyfer yr Adran Addysg a Gwasanaethau Plant.

·       Atodiad A(ii) – Crynodeb o Bwysau Twf ar gyfer yr Adran Addysg a Gwasanaethau Plant. 

·       Atodiad B – Adroddiad monitro'r gyllideb ar gyfer yr Adran Addysg a Gwasanaethau Plant

·       Atodiad C – Crynhoad Taliadau ar gyfer yr Adran Addysg a Gwasanaethau Plant

 

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor y byddai cynigion terfynol y gyllideb yn cael eu cyflwyno i'r Cabinet ganol/diwedd Chwefror, a fyddai'n galluogi cyflwyno cyllideb gytbwys i'r Cyngor Sir ar 1 Mawrth 2023. Fodd bynnag, oherwydd yr oedi yn y setliad dros dro, a'r effaith ganlyniadol ar gwblhau'r gyllideb gan Lywodraeth Cymru, ni fyddai'r setliad terfynol yn cael ei gyhoeddi tan 7 Mawrth 2023.

 

Rhoddwyd sylw i'r materion/sylwadau a godwyd gan y Pwyllgor, fel a ganlyn:

 

Mewn ymateb i ymholiad ynghylch defnyddio cronfeydd wrth gefn ysgolion ar gyfer 2022/23, cadarnhaodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol ei bod yn bosibl y byddai'r sefyllfa ar ddiwedd y flwyddyn yn fwy ffafriol na'r hyn a ragwelwyd, oherwydd bod Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau amseru'r cyllid grant. Yn hyn o beth, eglurwyd y byddai unrhyw gyllid grant penodol i ysgolion fyddai'n dod i law yn cael ei roi yng nghronfeydd wrth gefn yr ysgol, pe bai telerau ac amodau'r grant yn caniatáu.

 

Codwyd pryderon ynghylch y posibilrwydd o ailbroffilio ysgolion llai lle mynegwyd bod angen rhagor o wybodaeth cyn y gellid cefnogi arbedion effeithlonrwydd i'r perwyl hwn. Eglurodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant fod yr adolygiad o Raglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy Sir Gâr ar y gweill a bod disgwyl iddo gael ei gwblhau erbyn Haf 2023.  Dywedwyd y byddai canlyniadau'r adolygiad yn cael eu hystyried gan y Cabinet maes o law.

 

Cadarnhaodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol, mewn ymateb i ymholiad, y byddai unrhyw Weithredu Diwydiannol gan aelodau'r NEU yn arwain at arbediad cyllidebol uniongyrchol i'r Awdurdod Lleol.  Yn ogystal, eglurwyd na fyddai rhagor o ddarpariaeth gyllidebol yn cael ei gwneud o ran Dyfarniadau Cyflogau Athrawon hyd nes bod y setliad wedi'i gwblhau.

 

Yn dilyn cais am wybodaeth bellach yngl?n â'r ysgolion a oedd mewn diffyg o ran y gyllideb ym mis Mawrth 2022, pwysleisiodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant y gallai amryw resymau gyfrannu at pam fod ysgol mewn diffyg o ran y gyllideb, er bod y prif wariant ar gyfer ysgolion yn ymwneud â chostau staffio. At hynny, eglurwyd na fyddai gan ysgolion llai lawer o hyblygrwydd yn eu cyllidebau i dalu costau annisgwyl. Rhoddwyd sicrwydd i'r Pwyllgor bod cyfathrebu a chefnogaeth rheolaidd yn cael eu darparu i ysgolion mewn ymdrech i fynd i'r afael â heriau cyllidebol.

 

Mynegwyd pryderon am effaith y codiad arfaethedig yng nghost prydau ysgol a nodwyd yn y Crynhoad Taliadau, a allai arwain at lai yn prynu prydau ysgol ac at ddiffyg pellach yn y sefyllfa gyllidebol. Cadarnhawyd y byddai'r pryderon a godwyd gan y Pwyllgor yn cael eu mynegi i'r Cabinet fel rhan o'r broses ymgynghori cyn i'r gyllideb derfynol gael ei gosod gan y Cyngor ar 7 Mawrth 2023.  Eglurodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol i'r Pwyllgor mai'r Aelod Cabinet dros Addysg a'r Gymraeg oedd yn gyfrifol am gysoni'r ffioedd a'r taliadau ar gyfer yr Adran Addysg a Gwasanaethau Plant.

 

Mewn ymateb i ymholiad, eglurodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant y byddai elfen o gyllideb y Cyngor yn cael ei dirprwyo i ysgolion er mwyn rheoli diswyddiadau, ac roedd trafodaethau'n mynd rhagddynt i alluogi ysgolion i ddeall yn well effaith diswyddiadau a dod yn fwy cost-effeithiol. Yn hyn o beth, dywedodd yr Aelodau y byddai angen diweddaru'r rhaglen Hyfforddiant i Lywodraethwyr er mwyn adlewyrchu'r gofyniad ychwanegol.

 

Cafwyd trafodaeth ar y broses bresennol oedd ar waith ynghylch diswyddiadau ysgolion, ac adroddwyd i'r Pwyllgor nad oedd gwybodaeth i ddynodi newid i ddeddfwriaeth Gymreig er mwyn dilyn model yr Alban, lle'r oedd athrawon yn cael eu cyflogi'n ganolog i hwyluso rheolaeth effeithiol o'r gweithlu o ran symud staff i ddiwallu anghenion ysgolion.

 

Mynegwyd pryder mewn perthynas â'r gostyngiad arfaethedig yn y gyllideb ar gyfer gwasanaethau cysylltiedig â chymorth ieuenctid.  Cadarnhaodd y Pennaeth Strategaeth a Chymorth i Ddysgwyr y byddai'r Gronfa Ffyniant Gyffredin yn rhoi rhywfaint o gymorth ariannol i wasanaethau cymorth ieuenctid.  Roedd y Cyngor hefyd yn edrych ar wahanol ffyrdd o ddarparu gwasanaethau cymorth ieuenctid mewn ymdrech i leihau effaith gostyngiadau cyllidebol ar wasanaethau rheng flaen.

 

Cyfeiriwyd at yr adolygiad arfaethedig o ôl-troed ysgolion cynradd, er mwyn creu arbedion effeithlonrwydd o £200k ar gyfer 2024/25.  Gofynnodd Aelod yngl?n â'r dull o ddewis ysgolion i’w cau, ynghyd â'r nifer posibl o ysgolion y byddai angen eu cau er mwyn cyflawni'r arbedion effeithlonrwydd. Eglurodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant fod y ffigwr a nodwyd yn ddangosol ar hyn o bryd, hyd nes canlyniad yr adolygiad. Fodd bynnag, cadarnhawyd y gellid creu rhyw £75k - £80k o arbedion ym mhob achos o gau ysgol, o ganlyniad i gostau'r safle a chostau rhedeg.

 

PENDERFYNWYD:

 

5.1

Bod yr Ymgynghoriad ynghylch Strategaeth Cyllideb Refeniw 2023/24 – 2025/26 yn cael ei dderbyn;

 

5.2

Bod y Crynhoad Taliadau a nodir yn Atodiad C yr adroddiad yn cael ei gymeradwyo.

 

Dogfennau ategol: