Agenda item

CYLLIDEB Y CYFRIF REFENIW TAI A PHENNU RHENTI TAI AR GYFER 2023/24

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai 2023/24 i 2025/26 a chynigion Pennu Rhenti Tai ar gyfer 2023/24 cyn i'r Cyngor eu hystyried.  Bu'r Cabinet yn ystyried adroddiad a baratowyd gan Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol, ar y cyd â swyddogion o'r Adran Cymunedau a oedd yn dod ynghyd â'r cynigion diweddaraf ar gyfer Cyllidebau Refeniw a Chyfalaf y Cyfrif Refeniw Tai am 2023/24 i 2025/26.  Nodwyd bod yr adroddiad wedi cael ei ystyried, a'i gymeradwyo, gan y Pwyllgor Craffu Cymunedau yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 19 Rhagfyr 2022 fel rhan o'r broses ymgynghori ar y gyllideb, cafodd darn o'r cofnodion ei atodi i'r adroddiad yn Atodiad C.

 

Roedd yr adroddiad wedi cael ei baratoi gan adlewyrchu'r cynigion diweddaraf a oedd yn rhan o Gynllun Busnes y Cyfrif Refeniw Tai, sef y prif gyfrwng cynllunio ariannol ar gyfer darparu Safon Tai Sir Gaerfyrddin a Mwy (STSG+) ar gyfer y dyfodol. Nodwyd bod y buddsoddiad arfaethedig yn y cynllun busnes presennol wedi cyflawni Safon Tai Sir Gaerfyrddin erbyn 2015 (i'r cartrefi hynny lle'r oedd tenantiaid wedi cytuno i gael y gwaith wedi'i wneud), wedi darparu'r buddsoddiad i gynnal Safon Tai Sir Gaerfyrddin a Mwy, ac wedi parhau i fuddsoddi yn y Cynllun Cyflawni Tai ac Adfywio.

 

Roedd yr adroddiad hefyd yn manylu ar sut y byddai rhenti'n cynyddu ar gyfer 2023/24 gyda chyllideb y Cyfrif Refeniw Tai yn cael ei gosod i adlewyrchu'r canlynol:-

 

·       Y Polisi Rhenti Tai Cymdeithasol (a bennir gan Lywodraeth Cymru)

·       Cynigion yng Nghynllun Busnes Cyfrif Refeniw Tai Sir Gaerfyrddin

·       Cynllun Cyflawni ar gyfer Adfywio a Datblygu Tai

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau fod buddsoddiad cyfalaf o tua £231m wedi darparu Safon Tai Sir Gaerfyrddin i denantiaid ac, yn fwy diweddar, hyd at ddiwedd y flwyddyn ariannol gyfredol, byddai £92m pellach wedi cael ei wario ar gynnal Safon Tai Sir Gaerfyrddin a Mwy ar gyfer eiddo a thenantiaid.

 

Dros y 3 blynedd nesaf disgwylid y byddai £61m pellach yn cael ei wario ar gynnal a gwella'r stoc tai. Roedd y gyllideb hefyd yn darparu cyllid o tua £43m dros y 3 blynedd nesaf i gefnogi'r Rhaglen Tai Fforddiadwy, ar ben y gwariant presennol o £68m hyd at ddiwedd y flwyddyn ariannol gyfredol hon. Byddai'r Strategaeth hefyd yn cynyddu'r cyflenwad o dai fforddiadwy ledled y sir, a hynny drwy wahanol atebion gan gynnwys ein rhaglen adeiladau newydd a'r cynllun prynu'n ôl.  Ar ben hynny, gan fod cost uwch deunyddiau oherwydd Brexit, Covid, y rhyfel yn Ewrop a diffyg gweithwyr wedi ei gwneud yn anodd dod o hyd i bartneriaid addas ymysg contractwyr, byddai hyn yn cael ei fonitro'n barhaus drwy gydol y flwyddyn sydd i ddod.

 

Atgoffwyd Aelodau'r Cabinet, ers 2015, ei fod yn ofynnol i'r Awdurdod fabwysiadu Polisi Cysoni Rhent Tai Cymdeithasol Llywodraeth Cymru, a oedd yn golygu bod y cynnydd arfaethedig mewn rhent yn cael ei ragnodi gan gyfarwyddyd Llywodraeth Cymru, a thrwy hynny, ddarparu dosbarthiad mwy teg o'r rhenti ar gyfer tenantiaid y sector cymdeithasol. 

 

Er i'r polisi hwnnw ddod i ben yn 2018/19, a bod polisi interim wedi'i roi ar waith ar gyfer 2019/20, roedd Llywodraeth Cymru wedi datblygu polisi newydd i'w weithredu  yn 2020/21 am gyfnod o 5 mlynedd o 2020/21, a oedd yn cynnwys rhai gofynion ychwanegol/diwygiedig, fel y nodwyd yn yr adroddiad. Roedd prif elfennau'r polisi hwnnw'n caniatáu i Awdurdodau Lleol gynyddu cyfanswm y rhent gan y Mynegai Prisiau Defnyddwyr (CPI) +1% ar gyfer pob un o'r pum mlynedd hyd at 2024/25. Roedd hefyd yn caniatáu i lefel y rhent ar gyfer tenantiaid unigol godi o hyd at £2 ychwanegol ar ben CPI+1% ar gyfer cysoni rhenti, ar yr amod na fyddai cyfanswm yr incwm rhent a gasglwyd gan y landlord cymdeithasol yn fwy na CPI+1%. Fodd bynnag, os bydd CPI y tu allan i'r ystod o 0% i 3%, mae'r polisi'n darparu i'r Gweinidog â chyfrifoldeb am Dai benderfynu ar y newid priodol i lefelau rhent i'w gymhwyso ar gyfer y flwyddyn honno yn unig. Gan fod CPI yn 10.1% ym mis Medi 2022 mae'r cymal hwn wedi'i actifadu eleni ac roedd Gweinidog y Llywodraeth dros Newid yn yr Hinsawdd wedi cyfarwyddo na ddylai'r cynnydd mwyaf yn yr amlen rent ar gyfer unrhyw awdurdod lleol fod yn fwy na 6.5%.

 

Rhoddwyd gwybod i'r Aelodau y byddai'r polisi cyfredol hwn yn gymwys tan 2024/25 ac yn cynnwys meini prawf ychwanegol ynghylch bodlonrwydd tenantiaid, cyfleusterau amwynder, caledi ariannol, lleihau achosion o droi allan ac effeithlonrwydd ynni.

 

Yn wyneb yr heriau, dywedodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau yr ymatebwyd i'r holl flaenoriaethau a bod cynnydd cyffredinol mewn rhent o 5.5%, sef 1% o dan y terfyn a osodwyd gan Lywodraeth Cymru.  Yn yr amlen cynnydd rhent gyffredinol, cynigiwyd bod yr Awdurdod yn parhau â'r cynnydd mewn rhent a bydd hyn yn cael ei osod ar uchafswm o £1 ar gyfer eiddo sy'n is na'r rhent targed. 

 

Yn gryno, cynigiodd yr adroddiad y cynnydd canlynol: 

 

       Byddai eiddo ar rent targed yn cynyddu 5.36%, a oedd yn cynrychioli cyfran fawr o denantiaid - bron i 8,000 o denantiaid.  

 

       Bod cynnydd o 5.36% yn cael ei wneud i renti eiddo a oedd yn is na'r rhent targed ynghyd â chynnydd o £1 yr wythnos ar y mwyaf,

 

       Byddai rhenti uwchben y targed yn cael eu rhewi hyd nes iddyn nhw gyrraedd y targed. 

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR:

 

10.1      Bod rhenti tai cyngor yn cynyddu 5.5% (£5.18) ar gyfartaledd fesul preswylfa yr wythnos yn ôl Polisi Rhenti Tai Cymdeithasol Llywodraeth Cymru;

 

    Bydd cynnydd o 5.36% yn digwydd i renti eiddo sydd ar y rhenti targed;

    Bod eiddo lle mae'r rhent yn is na'r rhenti targed yn cynyddu gan 5.36% ynghyd â'r cynnydd o £1 yr wythnos ar y mwyaf,

    Caiff y rhenti hynny sy'n uwch na'r targed eu rhewi hyd nes eu bod yn unol â'r targed.

 

Bydd hyn yn arwain felly at Gynllun Busnes cynaliadwy, cynnal STSG+, darparu adnoddau ar gyfer ein Cynllun Cyflawni Adfywio a Datblygu Tai, ac roedd yn cael ei gynnal gan y Tîm Strategol Adfywio a Thai;

10.2.   Cadw rhenti garejis ar £9.00 a sylfeini garejis ar £2.25;

10.3.   Gweithredu'r Polisi ynghylch Taliadau am Wasanaethau i sicrhau bod y tenantiaid sy'n elwa ar wasanaethau penodol yn talu am y gwasanaethau hynny;

10.4. Cynyddu'r taliadau am ddefnyddio ein gwaith trin carthffosiaeth yn unol â'r cynnydd mewn rhenti;

 

10.5. Cymeradwyo Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer 2023/26 (cyllidebau dangosol oedd rhai 2024/25 a 2025/26), fel y nodwyd yn Atodiad A;

10.6.   Cymeradwyo'r Rhaglen Gyfalaf arfaethedig a'r cyllido perthnasol ar gyfer 2023/24, a'r gwariant mynegiannol a bennwyd ar gyfer 2024/25 hyd 2025/26, fel y nodwyd yn Atodiad B.

 

Dogfennau ategol: