Agenda item

Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM Y STRATEGAETH WASTRAFF

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad diweddaru am Strategaeth Wastraff 2021-2025 a'r gwasanaethau fydd yn cael eu cyflwyno ym mis Ionawr 2023. Roedd y strategaeth, a gyflwynwyd gan yr Aelod Cabinet dros y Gwasanaethau Gwastraff, Trafnidiaeth a Seilwath, yn darparu amcan strategol clir o wella casgliadau gwastraff domestig wrth ymyl y ffordd, ac, o ganlyniad, cynyddu cyfraddau ailgylchu yn Sir Gaerfyrddin. Yn ogystal, roedd yr adroddiad yn crynhoi'r polisïau rheoli gwastraff presennol oedd yn ofynnol er mwyn gwella perfformiad gweithredol a strategol.

 

Dywedwyd bod y strategaeth yn ffordd raddol o newid y gwasanaeth, gydag ateb dros dro i'w gyflwyno yn 2022, a newid mwy hirdymor i gyflawni'r dull casglu Glasbrint erbyn 2024.

 

Roedd yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth am

§  Y sefyllfa dros dro

§  Asesiad Effaith Integredig

§  Cyllid

§  Economi Gylchol

§  Y camau nesaf

§  Polisi Gwastraff

 

Cafodd y Polisi Gwastraff ac Ailgylchu ei atodi i'r adroddiad.

 

Gwnaed y sylwadau/ymholiadau canlynol:-

 

·       O ran yr eiddo na fyddent yn derbyn y gwasanaeth casglu gwydr, gofynnwyd a allai Cynghorwyr dderbyn rhestr o'r eiddo hynny? Dywedodd Rheolwr y Gwasanaethau Amgylcheddol y byddai rhestr fesul ward ar gael ar ôl cwblhau darn o waith a fyddai'n cynnwys y rhesymau pam na fyddai'r eiddo yn derbyn y casgliad gwydr.  Ychwanegodd yr Aelod Cabinet dros y Gwasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith y gallai'r rhesymau gynnwys lonydd hir, cul neu ffyrdd oedd heb eu mabwysiadu.

 

·       Dywedwyd y gellid ystyried padiau anymataliaeth fel y cynhyrchion hynny a gâi eu dosbarthu drwy nyrsys GIG/ardal, felly gofynnwyd a oedd padiau anymataliaeth fel y brand 'Tena Lady/Men' a hysbysebwyd wedi eu cynnwys yn y dosbarthiad o Gynhyrchion Hylendid Amsugnol (AHP) ar gyfer bagiau porffor, ac os nad oeddent, a fyddai modd gwneud hyn yn gliriach?  Cadarnhaodd Rheolwr y Gwasanaethau Amgylcheddol byddai unrhyw badiau anymataliaeth gan gynnwys brand Tena yn cael eu hystyried yn AHP's, ac felly gellid eu rhoi yn y bagiau porffor, ac o gofio'r sylw, byddai'n ystyried cynnwys hyn yn y negeseuon cyfathrebu.

 

·       Mewn ymateb i bryder ynghylch casgliadau a gollwyd, eglurodd Rheolwr y Gwasanaethau Amgylcheddol, yn ogystal â thrigolion yn rhoi gwybod am hynny  drwy wefan y Cyngor neu dros y ffôn, fod trigolion hefyd yn cael eu hannog i gofrestru i'r gwasanaeth negeseuon testun ac e-bost i'w hatgoffa o'u gwasanaeth casglu ar ymyl y ffordd, ac i roi unrhyw wybodaeth arall iddynt, fel unrhyw darfu ar wasanaethau oherwydd bod cerbyd wedi torri lawr neu'r tywydd yn arw.

 

·       Wrth sôn fod trigolion wedi mynegi pryderon yngl?n â chasglu bagiau du bob 3 wythnos, gofynnwyd a fyddai'r gwasanaeth hwn yn cael ei adolygu?  Yn ôl Rheolwr y Gwasanaethau Amgylcheddol, fel yn achos yr holl wasanaethau a ddarparwyd, byddai'r newid hwn i'r gwasanaeth yn destun craffu ac adolygu parhaus.  Fodd bynnag, gallai unrhyw aelwydydd oedd yn cael trafferthion â'r terfyn o 3 bag du ofyn am gyngor a chefnogaeth drwy'r tîm cyfathrebu a'r canolfannau Hwb.  Yn ogystal â hynny, cafodd Aelodau wybod bod modd ailgylchu bron i 50% o'r hyn oedd yn cael ei roi mewn bagiau du ar draws Sir Gaerfyrddin, a dylai tynnu'r eitemau darfodus o fagiau du gael gwared ar risg iechyd.

 

·       Mewn ymateb i bryder gafodd ei godi ynghylch y cynnydd posib mewn tipio anghyfreithlon, dywedodd Rheolwr y Gwasanaethau Amgylcheddol y byddai'r Gr?p Gorchwyl a Gorffen yn ystyried effaith y newid yn y gwasanaeth fel rhan o'r adolygiad cyfredol o reoli tipio anghyfreithlon yn Sir Gaerfyrddin.  Fodd bynnag, y gobaith oedd lleihau nifer yr achosion o dipio anghyfreithlon drwy orfodaeth gadarn ac ymgysylltu â'r cyhoedd.

 

·       Mewn ymateb i sylw ynghylch canolfannau Hwb a staff yn meddu ar y wybodaeth gywir i'w rhoi i'r cyhoedd, eglurodd Rheolwr y Gwasanaethau Amgylcheddol, fel rhan o'r newid i'r gwasanaeth, fod staff Hwb yn mynychu cwrs gan Effeithlonrwydd Adnoddau Cymru ac yn cael eu briffio'n rheolaidd ynghylch y newidiadau a ble i gael gwybodaeth. Hefyd, ar hyn o bryd, roedd Swyddogion Ymgysylltu Gwastraff ar gael yn y canolfannau Hwb un diwrnod yr wythnos tan ddiwedd mis Ionawr 2023.

 

PENDERFYNWYD derbyn a nodi cynnydd a chyflawniad Strategaeth Wastraff 2021.

 

 

Dogfennau ategol: