Agenda item

ADRODDIAD BLYNYDDOL CYNGOR SIR CAERFYRDDIN AR GYFER 2021/22

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad blynyddol drafft y Cyngor ar gyfer y cyfnod 2021/22 a oedd wedi ei lunio i fodloni'r darpariaethau perthnasol yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021.  Roedd yr adroddiad yn nodi'r cynnydd a wnaed o ran 13 Amcan Llesiant y Cyngor yn erbyn cefndir o amgylchiadau digynsail yn sgil pandemig Covid-19, ynghyd â hunanasesiad y Cyngor yn erbyn gofynion perfformiad y flwyddyn ariannol flaenorol.  Dywedwyd wrth y Pwyllgor y byddai'r Adroddiad Blynyddol drafft yn cael ei ddiweddaru i adlewyrchu canlyniad y broses ymgynghori oedd yn ymwneud â gofynion perfformiad a nodwyd yn Atodiad 5C.

 

Ystyriwyd yr Amcanion Llesiant perthnasol oedd o fewn maes gorchwyl y pwyllgor, sef:

 

AMCAN LLESIANT 1:

Helpu i roi'r dechrau gorau mewn bywyd i bob plentyn a gwella eu profiadau yn gynnar mewn bywyd.

AMCAN LLESIANT 2:

Helpu plant i ddilyn ffyrdd iach o fyw.

 

AMCAN LLESIANT 3:

Cefnogi a gwella cynnydd, cyflawniad, a deilliannau i'r holl ddysgwyr.

 

AMCAN LLESIANT 4:

Trechu tlodi drwy wneud popeth o fewn ein gallu i'w atal, gan helpu pobl i gael gwaith a gwella bywydau'r rheiny sy'n byw mewn tlodi.

AMCAN LLESIANT 12:

Hyrwyddo'r Iaith Gymraeg a Diwylliant Cymru.

 

Rhoddwyd sylw i'r materion/sylwadau a godwyd gan y Pwyllgor, fel a ganlyn:-

 

Mynegwyd pryder y gallai ffocws yr Awdurdod ar hyrwyddo'r Gymraeg; maes oedd eisoes yn perfformio'n dda, roi pwysau gormodol ar blant a'u teuluoedd mewn cyfnod o ansicrwydd yng nghyd-destun gofynion y flwyddyn academaidd oedd i ddod, o ystyried effaith y pandemig, gweithredu'r cwricwlwm newydd, a'r prinder adnoddau. Eglurodd yr Aelod Cabinet dros Addysg a'r Gymraeg fod yr agenda ar gyfer hyrwyddo'r Gymraeg wedi ei gosod ar lefel genedlaethol drwy bolisi Llywodraeth Cymru.

 

Mewn ymateb i ymholiad ynghylch y wybodaeth ar dudalen 87 o'r adroddiad, cadarnhawyd byddai'r geiriad yn cael ei adolygu oherwydd, er bo'r duedd hirdymor wedi gostwng, roedd y ffigwr ar gyfer 2021/22 yn gynnydd ar y flwyddyn flaenorol.

 

Cyfeiriwyd at y ffaith bod arian grant yr UE yn dod i ben a gofynnwyd am ddiweddariad am y ffrydiau cyllid eraill ar gyfer y Gwasanaethau Ieuenctid megis Cam Nesa, Cynnydd ac ymyriadau arddull NEET.  Cadarnhawyd i'r Pwyllgor fod y Gronfa Ffyniant Gyffredin wedi dod yn lle arian grant yr UE, a'r disgwyl oedd y byddai oddeutu £38m yn dod i law Sir Gaerfyrddin i'w ddosbarthu i'r mannau yr oedd ei angen. Mewn ymateb i ymholiad, dywedodd Pennaeth Strategaeth a Chymorth i Ddysgwyr y gellid cael gafael ar ffigyrau er mwyn cymharu lefel arian grant yr UE â lefel arian y Gronfa Ffyniant Gyffredin.

 

Holodd Aelod pa gymorth oedd ar gael i ddiwallu anghenion y nifer cynyddol o blant oedd yn cael diagnosis o awtistiaeth, y cyfeirid ato yn Asesiad Llesiant 1. Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant at heriau diwallu anghenion plant ag anghenion dysgu ychwanegol yng nghyd-destun y cyfyngiadau ariannol. Fodd bynnag, roedd buddsoddiad yn cael ei wneud i ddarparu amgylchedd diogel ar ffurf unedau arbenigol a gwasanaethau effeithiol.

 

Mewn ymateb i ymholiad ynghylch yr ystadegau gordewdra yn Amcan Llesiant 2 yr adroddiad, cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant fod ffigyrau mwy diweddar yn ddisgwyliedig. Roedd yn cael ei gydnabod fod y pandemig wedi amharu rhywfaint ar y gwelliannau wnaed yn y maes hwn dros y blynyddoedd diwethaf, ac felly bernid bod iechyd a llesiant plant yn brif flaenoriaeth yn natblygiad strategaeth gorfforaethol yr Awdurdod.

 

Gofynnwyd am ddiweddariad ar adolygiad y gr?p gorchwyl a gorffen o ddyddiadau derbyn disgyblion i ysgolion ac ystodau oedran ar draws y sir.  Cafodd y Pwyllgor wybod fod y mater wedi cael ei drafod yn ddiweddar yn y cam  cyn-gabinet, lle cytunwyd byddai proses ymgynghori gynhwysfawr yn dechrau yn y flwyddyn newydd, a fyddai'n cynnwys argymhellion y gr?p gorchwyl a gorffen.  Nodwyd na fyddai unrhyw ddiwygiadau i'r polisi derbyniadau yn dod i rym tan fis Medi 2024 man cynharaf.

 

Cyfeiriwyd at gyflwyno prydau ysgol am ddim yng Nghymru yn ddiweddar a mynegwyd pryderon na fyddai rhieni/gwarcheidwaid yn gwneud cais bellach am brydau ysgol am ddim, a fyddai'n cael effaith ar lefel y cyllid Grant Datblygu Disgyblion (PDG) y gallai'r ysgol ei gael. Cyfaddefodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant fod y PDG yn fesur pwysig i bob ysgol ledled Cymru er mwyn cefnogi plant agored i niwed, a rhoddwyd sicrwydd fod sylwadau wedi eu cyflwyno i Lywodraeth Cymru ynghylch hynny. Rhoddwyd gwybod hefyd i'r aelodau am y gwaith parhaus o fewn yr Awdurdod i daclo tlodi yn y system addysg, a byddai rhagor o wybodaeth am hyn ar gael maes o law.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL argymell i'r Cabinet fod y fersiwn ddrafft o Adroddiad Blynyddol y Cyngor am 2021/22 yn cael ei gymeradwyo. 

Dogfennau ategol: