Agenda item

CYNLLUN CYFIAWNDER IEUENCTID SIR GAERFYRDDIN 2022/2023

Cofnodion:

Cafodd Cynllun Cyfiawnder Ieuenctid Sir Gâr ar gyfer 2022/23 ei gyflwyno i'r Pwyllgor. 

 

Rhoddwyd ystyriaeth i'r trefniadau llywodraethu, arweinyddiaeth a phartneriaeth a oedd wedi arwain at ddatblygu'r Cynllun Cyfiawnder Ieuenctid, a nodwyd yn Atodiad 1 i'r adroddiad, yn unol â gofynion deddfwriaethol Deddf Trosedd ac Anhrefn 1998.

 

Roedd y Cynllun Cyfiawnder Ieuenctid yn amlinellu'r Gwasanaeth Cymorth Ieuenctid a'r Tîm Cyfiawnder Ieuenctid a ddarparwyd o dan un strwythur rheoli, a oedd yn darparu dull cyfannol o ddarparu gwasanaethau cymorth ieuenctid ledled Sir Gaerfyrddin.  Tynnwyd sylw'r Pwyllgor at adran 8 o'r Cynllun Cyfiawnder Ieuenctid a oedd yn manylu ar berfformiad y bartneriaeth yn ystod 2021/22, a hefyd yn nodi'r blaenoriaethau a'r amcanion cynllunio gwelliannau am y flwyddyn i ddod, yn unol â'r egwyddorion 'plentyn yn gyntaf' cyffredinol ac ethos o welliant parhaus.

 

Cydnabu'r Pwyllgor waith hanfodol y bartneriaeth wrth geisio lliniaru effaith pandemig y coronafeirws er mwyn diogelu'r plant a'r teuluoedd mwyaf agored i niwed a chymhleth ar draws y sir.  Yn ogystal, dywedwyd bod sawl gr?p strategol wedi'u sefydlu i fynd i'r afael â'r gofynion oedd yn gysylltiedig â lles plant ac oedolion agored i niwed.

 

Rhoddwyd sylw i'r materion/sylwadau a godwyd gan y Pwyllgor, fel a ganlyn:

 

Bu i'r Pwyllgor ganmol ymroddiad ac ymrwymiad parhaus staff y Tîm Cyfiawnder Ieuenctid wrth weithio gyda phlant a phobl ifanc yn ystod yr heriau welwyd adeg pandemig y coronafeirws.

 

Eglurwyd i'r Pwyllgor mai cynllun tu allan i'r llys oedd 'system Biwro' y sir, a oedd yn cael ei weithredu ar y cyd gan yr Awdurdod a'r Heddlu, ac mai ei fwriad oedd sicrhau ymyriadau cynnar fel nad oedd plant a phobl ifanc yn mynd i'r llys.

 

Mewn ymateb i ymholiad, eglurwyd i'r aelodau fod y wybodaeth oedd ar ffurf graff ar dudalen 19 o'r Cynllun Cyfiawnder Ieuenctid, ynghylch 'math o drosedd', wedi'i chrynhoi, ac felly byddai'r wybodaeth yn cael ei hailgyflwyno'n llawn i'r Pwyllgor. Rhoddwyd sicrwydd hefyd i'r Pwyllgor y byddai adroddiadau'r dyfodol yn cynnwys geirfa gynhwysfawr i egluro'r rhestr lawn o fyrfoddau, a byddai allweddi'n cael eu darparu i alluogi darllenwyr i ddehongli'r graffiau'n hwylus.

 

Gofynnwyd cwestiwn ynghylch yr heriau a ragwelwyd o ran cyflawni'r blaenoriaethau a'r amcanion helaeth oedd wedi'u pennu ar gyfer y Tîm Cyfiawnder Ieuenctid yn 2022/23. Eglurwyd i'r Pwyllgor fod y blaenoriaethau'n cyd-fynd yn strategol â disgwyliadau cenedlaethol, a'u bod yn unol â'r gofynion o ran adrodd am y prif ddangosyddion perfformiad. Pwysleisiwyd bod targedau uchelgeisiol wedi eu gosod er mwyn galluogi'r Tîm Cyfiawnder Ieuenctid i wneud pob ymdrech i sicrhau newid ystyrlon i blant a phobl ifanc yn y sir. Cyfeiriwyd hefyd at yr ymdrechion i hyrwyddo cyfranogi ac ymgysylltu cadarnhaol yn y dyfodol ar draws meysydd gwaith Cyfiawnder Ieuenctid, a byddai'r ffocws hwn yn cael ei gefnogi a'i gryfhau drwy weithredu strategaeth.

 

Mewn ymateb i ymholiad, roedd yn gysur i'r Pwyllgor gael clywed am yr amryw ddulliau, a gâi eu gweithredu drwy waith partneriaeth, a oedd yn mynd i'r afael ag  ecsbloetio plant o ran gangiau a llinellau cyffuriau, a'r cysylltiadau â chyflenwi cyffuriau a thrais difrifol.

 

Yn dilyn ymholiad mewn perthynas â chyllid ar gyfer darparu gwasanaethau, roedd Prif Reolwr y Gwasanaeth Cymorth Ieuenctid yn falch o allu dweud y byddai'r cyfraniad ariannol i'r Tîm Cyfiawnder Ieuenctid yn cynyddu £20k ar gyfer 2022/23, a byddai dyraniadau grant pellach ar gyfer camau atal ac ymyriadau cynnar yn galluogi'r tîm i gynnal strwythur staffio sefydlog.

 

Cyfeiriwyd at faes blaenoriaeth 8, a oedd yn ymwneud â darparu gwasanaethau yn y Gymraeg. Bu i Brif Reolwr y Gwasanaeth Cymorth Ieuenctid fanylu ar y mentrau recriwtio a hyfforddi a oedd yn sicrhau bod darparu gwasanaethau yn Gymraeg yn rhywbeth oedd yn cael ei gynnal a'i gryfhau lle bo modd.

 

Cyfeiriwyd at y mesur perfformiad oedd yn ymwneud ag Iechyd Meddwl, lle rhoddodd Prif Reolwr y Gwasanaeth Cymorth Ieuenctid wybodaeth gefndirol am y dull adrodd a chadarnhau ei bod yn hyderus bod mynediad at y gwasanaethau iechyd meddwl wedi bod yn amserol ac yn effeithiol yn ystod y cyfnod adrodd.

 

Mewn ymateb i bryderon a godwyd gan Aelod, fe wnaeth Prif Reolwr y Gwasanaeth Cymorth Ieuenctid egluro i'r Pwyllgor, oherwydd cymhlethdod carfan fechan o ail-droseddwyr, y gallai'r cyfartaledd blynyddol amrywio'n sylweddol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod Cynllun Cyfiawnder Ieuenctid Sir Gâr ar gyfer 2022/23 yn cael ei dderbyn.

Dogfennau ategol: