Agenda item

CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD KEVIN MADGE I'R CYNGHORYDD LINDA EVANS, AELOD Y CABINET DROS GARTREFI A DIRPRWY ARWEINYDD

“Wrth i'r argyfwng tai yn Nyffryn Aman a Sir Gaerfyrddin waethygu ac wrth i landlordiaid preifat wneud pobl yn ddigartref, yn ogystal â'r posibilrwydd o gyfraddau llog uwch yn y misoedd nesaf, bydd pobl yn colli eu cartrefi. Hoffwn wybod gan yr Aelod Cabinet dros Dai pa gamau fydd yn cael eu cymryd i drosglwyddo'r eiddo canlynol yn ôl i berchnogaeth gyhoeddus yn y Garnant.  Maent yn wag ers blynyddoedd.  Hefyd pryd bydd yr 8 t? cyngor newydd arfaethedig ar gyfer Maesybedol yn cael eu hadeiladu?

 

1.   232 Heol Cwmaman, y Garnant  SA18 1LS

2.   14 Heol Dinefwr, y Garnant SA18 1NP

3.   9 Heol yr Hendre, y Garnant SA18 2BL

4.   11 Heol yr Hendre, y Garnant SA18 2BL”

 

Cofnodion:

“Wrth i'r argyfwng tai yn Nyffryn Aman a Sir Gaerfyrddin waethygu ac wrth i landlordiaid preifat wneud pobl yn ddigartref, yn ogystal â'r posibilrwydd o gyfraddau llog uwch yn y misoedd nesaf, bydd pobl yn colli eu cartrefi. Hoffwn wybod gan yr Aelod Cabinet dros Dai pa gamau fydd yn cael eu cymryd i drosglwyddo'r eiddo canlynol yn ôl i berchnogaeth gyhoeddus yn y Garnant. Maent yn wag ers blynyddoedd.  Hefyd pryd bydd yr 8 t? cyngor newydd arfaethedig ar gyfer Maesybedol yn cael eu hadeiladu?

 

1. 232 Heol Cwmaman, y Garnant SA18 1LS

2. 14 Heol Dinefwr, y Garnant SA18 1NP

3. 9 Heol yr Hendre, y Garnant SA18 2BL

4. 11 Heol yr Hendre, y Garnant SA18 2BL”

 

Ymateb gan y Cynghorydd Linda Evans – yr Aelod Cabinet dros Gartrefi a Dirprwy Arweinydd:-

 

Yn gyntaf oll, rwy'n rhannu'r pryderon y mae'r Cynghorydd Madge wedi'u codi am yr argyfyngau tai sy'n effeithio ar bob un ohonom ledled Cymru.  Nid oes amheuaeth nad yw'r galw presennol yn ddigynsail, mae cyfraddau llog wedi cynyddu, mae prisiau tai wedi cynyddu ac mae'r Ddeddf Rhentu Cartrefi newydd yn dod i rym o 1 Rhagfyr ymlaen.  Mae hyn oll yn cyfrannu at y ffaith bod landlordiaid o'r sector preifat yn gadael y farchnad tai rhent ar hyn o bryd. O ganlyniad, mae'n bwysicach nag erioed sicrhau ein bod yn cynyddu'r cyflenwad o dai fforddiadwy yn ogystal â rheoli'r galw. Diolch byth, rydym mewn sefyllfa well heddiw nag yr oeddem yn ôl yn 2015.  Erbyn hyn, mae gennym 1520 o dai fforddiadwy ychwanegol y gall pobl gael mynediad atynt.  Bydd aelodau'n ymwybodol ein bod yn darparu amrywiaeth o opsiynau i gynyddu'r cyflenwad drwy ein rhaglen adeiladu tai newydd, prynu tai ar y farchnad agored a sicrhau bod tai gwag yn cael eu defnyddio unwaith eto cyn gynted â phosibl.  Mae 88,473 o dai yn Sir Gaerfyrddin ac ar hyn o bryd mae 1,983 o dai yn y sector preifat sydd wedi bod yn wag ers mwy na 6 mis. 

 

Yn ôl ym mis Ebrill, 2015 roedd 2,671 o dai gwag yn y sir.  Mae'r ffigyrau hyn yn dangos y llwyddiant y mae'r swyddogion wedi'i gael drwy weithio gyda pherchnogion a landlordiaid.  Mae cyfanswm y tai gwag wedi lleihau'n araf yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Yn ystod 2021/22 llwyddwyd i sicrhau bod 152 o dai gwag yn cael eu defnyddio unwaith eto, a Sir Gaerfyrddin oedd y sir ail orau yng Nghymru.  Yn 2020/21, llwyddwyd i sicrhau bod 168 o dai gwag yn cael eu defnyddio unwaith eto. 

 

Hoffwn fanteisio ar y cyfle i ddiolch i Gareth Williams a'i dîm am eu hymrwymiad diflino.  Ond, wrth gwrs, fi yw'r cyntaf i gyfaddef a gwerthfawrogi bod mwy i'w wneud a dyna pam rydym wedi sefydlu Bwrdd Gwella mewnol i sicrhau ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau bod tai gwag yn cael eu defnyddio unwaith eto. 

 

Cyn bo hir, byddwn yn cyflwyno cynllun tai gwag newydd a fydd yn arwain at ymyrraeth wedi'i thargedu ac rydym yn gwybod o brofiad hyd yma y bydd gweithredu fel hyn yn arwain at ganlyniadau cadarnhaol, naill ai drwy gyngor a chymorth neu drwy gamau gorfodi.

 

Rydym hefyd yn ystyried premiwm treth gyngor ar dai gwag.  Bydd ymyrraeth fel hyn hefyd yn cysylltu â'n blaenoriaethau strategol ehangach i ddiwallu'r angen am dai, cefnogi ein mentrau adfywio ac ymateb i dai gwag sy'n achosi niwsans neu sy'n denu ymddygiad gwrthgymdeithasol. 

 

Rwy'n gobeithio bod hyn yn dangos yn glir ein blaenoriaethau parhaus i sicrhau bod tai gwag yn cael eu defnyddio unwaith eto, a gofynnaf yn garedig i Aelodau beidio byth â diystyru pa mor gymhleth yw'r broses o ddelio â thai gwag a faint o amser ac emosiwn sydd ynghlwm wrth y broses honno. Mae'n rhaid i chi ddelio â phob eiddo yn unigol a gyda pherchnogion unigol.  Yn olaf, o ran materion lleol sydd wedi eu codi a thrafod eiddo penodol, y Cynghorydd Madge yw un o'n Cynghorwyr mwyaf profiadol ac mae'n ymwybodol nad yw enwi a thrafod eiddo unigol yn rhywbeth priodol na chyfrifol i'w wneud yn y Siambr.  Felly, gofynnaf yn garedig i'r Cynghorydd Madge fynd drwy'r broses arferol o godi materion lleol drwy system y Gwasanaethau Democrataidd ac, fel y dywedais, os oes unrhyw Gynghorydd am gael mwy o wybodaeth neu esboniad, byddwn yn fodlon trefnu cyfarfod rhyngom ni a'r swyddogion priodol.

 

O ran y tai oedd i fod i gael eu hadeiladu yn yr ardal honno, caf ar ddeall gan Swyddogion bod y mater hwn eisoes wedi cael ymateb.  Diolch yn fawr.

 

Cwestiwn atodol gan y Cynghorydd Kevin Madge.

 

Fy nghwestiwn i yw a oes modd i ni gael trafodaeth yn y Cyngor hwn gyda chynllun ar gyfer rhai o'r materion a godwyd yn y cwestiwn hwn, y gallwn ni i gyd drafod ein hanghenion tai ym mhob ward.  Oherwydd mae angen trafod pob ward, ac a oes modd cael sicrwydd y gallwn ni gael trafodaeth fawr maes o law, a diolch i'r Aelod Cabinet am yr hyn mae'n ei ddweud ac rwy'n deall y system ac rwyf i, fel rhai ohonom yma, yn mynd yn rhwystredig o ran y cynnydd sy'n cael ei wneud.  A oes modd i ni gael trafodaeth fawr a chodi materion yn ein wardiau ein hunain ar gyfer trafodaeth fawr.  Diolch yn fawr.

 

Ymateb gan y Cynghorydd Linda Evans – yr Aelod Cabinet dros Gartrefi a Dirprwy Arweinydd:-

 

Rwy'n deall bod tai gwag yn effeithio ar bawb a byddwn yn hapus pe na bai gennym unrhyw dai gwag yn y sir, ond nid yw hynny'n bosib wrth gwrs, oherwydd mae tai gwag wastad yn mynd i godi dro ar ôl tro ac mae'n rhaid i dai gwag fod yn wag am o leiaf 6 mis cyn i ni allu gwneud unrhyw beth amdanynt.

 

O ran y 1,900 y siaradais amdanynt yn gynharach, gallaf ddweud bod 55% o'r rheiny wedi bod yn wag am lai na 6 mis.  Felly mae'n broses hir, ac os yw'n cynnwys profiant, teuluoedd mawr neu bobl yn symud dramor sy'n berchen ar d? yn y wlad hon, mae'n broses enfawr i ddelio â hi.  

 

O ran trafodaeth, wrth gwrs mae gennym Gadeirydd newydd ar y Pwyllgor Craffu ac rwy'n gwybod y bydd y trafodaethau hyn yn digwydd fel rhan o'r broses graffu ar gyfer unrhyw dai gwag, yna os oes gennych unrhyw beth yn lleol dewch i siarad â mi a byddaf yn hapus i ateb.

 

HYD Y CYFARFOD

Am 12:52pm tynnwyd sylw'r Pwyllgor at Reol 9 o Weithdrefn y Cyngor – Hyd y cyfarfod – ac, oherwydd y byddai'r cyfarfod wedi bod yn mynd rhagddo ers tair awr am 1:00pm,

PENDERFYNWYD gohirio ystyried y Rheolau Sefydlog er mwyn gallu ystyried yr eitemau oedd yn weddill ar yr agenda.