Cofnodion:
Croesawodd y Cadeirydd y Cynghorydd Tref Louise Wride a Ms Sinead Cook a Ms Sarah Jones o Swyddfa Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru i'r cyfarfod.
Atgoffwyd y Pwyllgor, yng nghyfarfod y Pwyllgor Safonau ar 25 Awst, fod ystyriaeth gychwynnol wedi'i rhoi i'r adroddiad a gyhoeddwyd gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn manylu ar ganlyniadau eu hymchwiliad i honiadau bod y Cynghorydd Tref Louise Wride wedi torri Côd Ymddygiad yr Aelodau. Daeth y Pwyllgor i'r casgliad fod yr adroddiad wedi datgelu tystiolaeth oedd yn awgrymu fod y Côd Ymddygiad wedi'i dorri. Aeth yr achos ymlaen wedyn i'r cam nesaf a gwahoddwyd y Cynghorydd Wride i gyflwyno sylwadau ynghylch cynnydd pellach yr achos.
Yng nghyfarfod y Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 14Hydref 2022, cynhaliwyd Adolygiad Rhagwrandawiad, a'r prif nod oedd ystyried cais y Cynghorydd Wride y dylid clywed y gwrandawiad terfynol yn breifat. Penderfynodd y Pwyllgor fod y gwrandawiad terfynol heddiw yn cael ei gynnal yn gyhoeddus ond byddai'r Pwyllgor yn dechrau sesiwn breifat pe bai'n cael ei ystyried er budd y cyhoedd ar unrhyw adeg.
Yn y gwrandawiad olaf heddiw roedd gofyn i'r Pwyllgor ystyried yr achos yn llawn a phenderfynu a oedd ymddygiad y Cynghorydd Wride yn torri'r Côd a fabwysiadwyd gan Gyngor Tref Llanymddyfri fel yr awgrymwyd yn adroddiad yr Ombwdsmon.
Roedd angen i'r Pwyllgor benderfynu a wnaeth ymddygiad y Cynghorydd Wride ddwyn anfri ar ei swydd fel Cynghorydd Tref a/neu ei Chyngor. Yr ymddygiad dan sylw yw collfarn y Cynghorydd Wride am drosedd, fel y nodir yn adroddiad yr Ombwdsmon.
Pe bai'r Pwyllgor yn penderfynu bod ymddygiad y Cynghorydd Wride wedi torri'r Côd, byddai angen wedyn ystyried pa gosb (os o gwbl) yr oedd am ei rhoi. Yr uchafswm gosb y gellid ei rhoi oedd ei hatal o'r swydd am hyd at 6 mis. Pe bai'r Pwyllgor yn dod i'r casgliad bod y Cynghorydd Wride wedi torri'r côd ac yn rhoi cosb iddi, byddai gan y Cynghorydd Wride hawl i apelio i Banel Dyfarnu Cymru.
Gwnaeth Ms Cook o Swyddfa'r Ombwdsmon grynhoi canfyddiadau'r ymchwiliad a gynhaliwyd a rhoddwyd cyfle i'r Pwyllgor ofyn cwestiynau/gofyn am eglurhad.
Cafodd y Cynghorydd Wride wahoddiad i annerch y Pwyllgor yn ei hamddiffyniad o'r canfyddiadau a rhoddwyd cyfle i'r Pwyllgor ofyn cwestiynau/gofyn am eglurhad.
Ar y pwynt hwn yn yr achos cafodd ei gynnig a'i
eilio, yn unol ag Adran 100A(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, fod
y wasg a'r cyhoedd yn cael eu heithrio o'r cyfarfod am y rheswm, pe
byddent yn bresennol, ei bod yn debygol y byddai datgeliad iddynt o
wybodaeth eithriedig fel y'i diffinnir ym Mharagraff 16 o Atodlen
12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 sef gwybodaeth o ran y gellid
honni braint gyfreithiol broffesiynol mewn perthynas â hi
mewn achosion llys cyfreithiol.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gynnal sesiwn preifat er mwyn i'r Cyngor ystyried gwybodaeth eithriedig fel y'i diffinnir ym Mharagraff 16 o Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.
Gwnaeth cynrychiolwyr Swyddfa'r Ombwdsmon a'r Cynghorydd Wride adael y cyfarfod a chafodd gwe-ddarllediad y cyfarfod ei oedi. Ar ôl i'r trafodaethau hynny ddod i ben, ail-ymunodd cynrychiolwyr yr Ombwdsmon a'r Cynghorydd Wride yn y cyfarfod ac ailddechreuwyd y gwe-ddarllediad.
Penderfyniad o ran torri'r côd
Yn seiliedig ar y ffeithiau diamheuol yn yr achos hwn, roedd y Pwyllgor o'r farn y byddai aelod rhesymol o'r cyhoedd o'r farn bod ymddygiad y Cynghorydd Wride wedi dwyn anfri ar ei swydd fel Cynghorydd a'i Chyngor ac felly roedd yn fodlon bod y Cynghorydd Wride wedi torri Paragraff 6(1)(a) o'r Côd Ymddygiad. Roedd hyn yn sylweddol o gofio bod y Cynghorydd Wride, ar adeg y toriad, wedi dal swydd uwch yn y Cyngor fel Maer a bod ei hymddygiad wedi arwain at gollfarn droseddol.
Ar yr adeg hon yn yr achos, er mwyn i'r Pwyllgor dderbyn gwybodaeth bersonol gyfrinachol gan y Cynghorydd Wride i'w alluogi i benderfynu ar ba gosb, os o gwbl, y dylid ei rhoi,
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gynnal sesiwn preifat er mwyn i'r Cyngor ystyried gwybodaeth eithriedig fel y'i diffinnir ym Mharagraff 16 o Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.
Felly, cafodd gwe-ddarllediad y cyfarfod ei oedi wrth i'r wybodaeth bersonol gyfrinachol honno gael ei darparu i'r pwyllgor
Aeth y pwyllgor i ystyried pa gosb, os o gwbl, y byddai'n rhoi a gadawodd y Cynghorydd Wride a chynrychiolydd yr Ombwdsmon y cyfarfod unwaith eto.
Ar ôl gwneud ei benderfyniad daeth y sesiwn breifat i ben ac ail-ymunodd cynrychiolwyr yr Ombwdsmon a'r Cynghorydd Wride â'r cyfarfod ac ailddechreuwyd y gwe-ddarllediad fel bod modd rhoi'r penderfyniad ynghylch cosb.
Penderfyniad ynghylch cosb
Wrth ystyried y gosb i'w rhoi i'r Cynghorydd Wride am iddi dorri'r Côd, roedd y Pwyllgor wedi ystyried y sylwadau a wnaed ar ran yr Ombwdsmon a'r rhai a wnaed gan y Cynghorydd Wride.
Roedd y Pwyllgor yn dilyn y broses pum cam a nodwyd mewn canllawiau a gyhoeddwyd gan Banel Dyfarnu Cymru.
Ar ôl ystyried yr holl dystiolaeth a sylwadau a roddwyd gerbron,
PENDERFYNWYD y byddai'n briodol ac yn gymesur i atal y Cynghorydd Wride am gyfnod o 2 fis ac y dylai ymgymryd â hyfforddiant Côd Ymddygiad o fewn y chwe mis nesaf.
Dogfennau ategol: