Agenda item

DATGANIAD CYFRIFON CYNGOR SIR GAR 2021-22

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried Datganiad Cyfrifon 2021/22 ar gyfer Cyngor Sir Caerfyrddin, a oedd wedi'i baratoi yn unol â Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2014 (fel y'u diwygiwyd yn 2018). Dywedwyd bod Llywodraeth Cymru, o ganlyniad i effaith barhaus Covid-19, wedi cyhoeddi canllawiau a oedd yn caniatáu hyblygrwydd ar gyfer cwblhau datganiadau ariannol 2021/22; yn unol â hynny, y dyddiad cau statudol ar gyfer cwblhau cyfrifon 2021/22 wedi'u harchwilio oedd 30 Tachwedd 2022.

 

Cyfeiriwyd at yr adolygiad cenedlaethol parhaus o'r modd yr ymdrinnir â chyfrifon a'r datgeliadau sydd eu hangen ar gyfer Asedau Seilwaith.  Yn niffyg unrhyw ddatrysiad buan, dywedwyd wrth y Pwyllgor bod Llywodraeth Cymru yn ceisio cyflwyno diystyriad statudol o'r cod, ond ni ellid ardystio'r cyfrifon nes bod y diystyriad statudol ar waith.  Yn unol â hynny, er mwyn i Ddatganiad Cyfrifon 2021/22 gael ei gwblhau'n effeithiol cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl iddo gael ei ardystio gan yr Archwilydd Cyffredinol, gofynnwyd am i'r Pwyllgor gymeradwyo roi awdurdod dirprwyedig i Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol a Chadeirydd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ar gyfer unrhyw ddiwygiadau dilynol y byddai angen eu gwneud mewn perthynas ag ymdrin ag Asedau Seilwaith.  Rhoddwyd sicrwydd y byddai'r datganiad cyfrifon terfynol yn cael ei ddosbarthu i Aelodau'r Pwyllgor a byddai adroddiad ar y sefyllfa derfynol yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor ar ôl i'r mater gael ei ddatrys.

 

Rhoddwyd trosolwg i'r Pwyllgor o'r pwyntiau amlwg yn y Datganiad Cyfrifon a oedd yn crynhoi sefyllfa ariannol yr Awdurdod ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2022, ac a oedd yn cynnwys y diwygiadau y cytunwyd arnynt gydag Archwilio Cymru fel rhan o'i archwiliad. 

 

Cyfeiriwyd at Gronfa'r Cyngor, a'r newidiadau i'r balansau yn y cronfeydd wrth gefn cyffredinol neu'r cronfeydd wrth gefn wedi'u clustnodi ar gyfer y flwyddyn ac, yn yr un modd, roedd y newid wedi'i wneud i falans y Cyfrif Refeniw Tai. 

 

Nododd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol y symudiadau a wnaed o'r cronfeydd wrth gefn wedi'u clustnodi, ac iddynt, mewn perthynas â throsglwyddiadau a oedd yn ymwneud â Chronfeydd Wrth Gefn y Gronfa Datblygiadau Mawr, y Rhaglen Moderneiddio Addysg, Cyllid Cyfalaf a'r Fargen Ddinesig/Pentre Awel.  Yn unol â hynny, gofynnwyd i'r Pwyllgor gymeradwyo'r symudiadau hynny yn ôl-weithredol a chymeradwyo creu Cronfeydd Wrth Gefn o ran Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Hwb Caerfyrddin, Strategaeth Wastraff, Datgarboneiddio, Arian Cyfatebol Ffyniant Bro, Risgiau Chwyddiant, Grant Cynnal Refeniw, Cynllun Disgresiynol Costau Byw, Targedu Buddsoddiad mewn Adfywio ac Adnewyddu Ystafelloedd Cartrefi Preswyl.

 

Diolchodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol i Bennaeth y Gwasanaethau Ariannol a'i dîm am eu gwaith rhagorol i baratoi'r Datganiad Cyfrifon.

 

Rhoddwyd sylw i'r materion/sylwadau a godwyd gan y Pwyllgor, fel a ganlyn:

 

Tynnwyd sylw'r Pwyllgor at y dyledwyr a'r credydwyr tymor byr a nodwyd yn adrannau 6.16 a 6.19 o'r adroddiad yn y drefn honno. Mewn ymateb i gais, cytunodd swyddogion i ddosbarthu dadansoddiad o'r categori 'arall' yn y categori dyledwyr tymor byr i'r Pwyllgor, a fyddai'n seiliedig ar lefel trothwy o dros £500k.

 

Cyfeiriwyd at argymhellion y Datganiad Llywodraethu Blynyddol gan nodi bod yr ymatebion yn yr adran statws yn ymddangos yn niwlog ac nad oedd o reidrwydd yn adlewyrchu'r sefyllfa bresennol.  Rhoddodd y Pennaeth Refeniw a Chydymffurfiaeth Ariannol sicrwydd y byddai'r ddogfen yn cael ei hadolygu er mwyn darparu naratif mwy cadarn yn y dyfodol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL: 

 

3.4.1

Cymeradwyo Datganiad Cyfrifon 2021/22, fel y'i cyflwynir ar hyn o bryd, ar gyfer Cyngor Sir Caerfyrddin.  Hefyd, rhoi awdurdod dirprwyedig i Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol a Chadeirydd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ar gyfer unrhyw ddiwygiadau dilynol sydd i'w gwneud o ganlyniad i'r mater cenedlaethol sydd heb ei ddatrys ynghylch ymdrin ag Asedau Seilwaith (yn ogystal â chynnwys y Dystysgrif Archwilio a chymeradwyaeth derfynol Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol a Chadeirydd y Pwyllgor o'r Datganiad Cyfrifon wedi'i Archwilio).

 

3.4.2

Cymeradwyo'n ôl-weithredol y symudiadau o'r Cronfeydd Wrth Gefn wedi’u Clustnodi ac iddynt.Yn enwedig, y trosglwyddiadau i:

·       Y Gronfa Datblygiadau Mawr

·       Cyllid cyfalaf y Rhaglen Moderneiddio Addysg

·       Y Fargen Ddinesig/Pentre Awel

3.4.3

Cymeradwyo'n ôl-weithredol greu'r cronfeydd wrth gefn canlynol:

·       Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd

·       Hwb Caerfyrddin

·       Strategaeth Wastraff

·       Datgarboneiddio

·       Arian Cyfatebol Ffyniant Bro

·       Risgiau chwyddiant

·       Grant Cynnal Refeniw

·       Cynllun Disgresiynol Costau Byw

·       Targedu Buddsoddiad mewn Adfywio

·       Adnewyddu Ystafelloedd Cartrefi Preswyl

 

 

 

 

 

 

Dogfennau ategol: