Agenda item

CAIS AM ADOLYGU TRWYDDED SAFLE BLUE BELL INN, 19 STRYD FAWR, LLANYMDDYFRI, SIR GAR SA20 OPU.

Cofnodion:

Rhoddodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol y wybodaeth ddiweddaraf i bawb a oedd yn bresennol am y weithdrefn ar gyfer yr eitem hon a oedd wedi'i rhoi gerbron y Pwyllgor i ystyried cais gan yr Arweinydd Trwyddedu ar gyfer Cyngor Sir Caerfyrddin am Adolygu trwydded safle mewn perthynas â thafarn y Blue Bell, 19 Stryd Fawr, Llanymddyfri, Sir Gaerfyrddin lle, yn ogystal â chwynion a oedd wedi cael eu cyflwyno, gwaith monitro gan Iechyd yr Amgylchedd ac ymweliadau cydymffurfio gan Heddlu Dyfed-Powys a Swyddogion Trwyddedu y Cyngor, roedd gan yr Awdurdod Trwyddedu bryderon bod diffyg rheolaeth a rheoli ar y safle.

 

Nododd yr Is-bwyllgor fod y dogfennau canlynol ynghlwm wrth yr adroddiad:-

 

Atodiad A – copi o'r cais gwreiddiol

Atodiad B – sylwadau a gyflwynwyd gan Heddlu Dyfed-Powys

Atodiad D – sylwadau a gyflwynwyd gan Wasanaethau Iechyd y Cyhoedd

Atodiad D - sylwadau gan bobl eraill

 

Cyfeiriodd yr Arweinydd Trwyddedu at ei sylwadau ysgrifenedig, fel y nodir yn Atodiad A yr adroddiad, ac amlinellodd i'r Is-bwyllgor y digwyddiadau a arweiniodd at gyflwyno'r cais am adolygu'r drwydded safle.

 

Amlinellodd y digwyddiadau/cwynion niferus a oedd yn gysylltiedig â'r safle dros gyfnod hir a'r ymchwiliadau a'r ymweliadau cydymffurfio a gynhaliwyd gan yr awdurdodau cyfrifol.

 

Ymgysylltwyd dro ar ôl tro â deiliad blaenorol y drwydded safle, Anna Reed, ond heb unrhyw newid na gwelliant yn dilyn hynny ac roedd y materion yn parhau.  Roedd hysbysiad atal s?n wedi cael ei gyflwyno gan Swyddogion Iechyd yr Amgylchedd, ac nid oedd dim newid yn sgil hynny.  O ystyried yr holl ymdrechion a wnaed heb unrhyw effaith gadarnhaol, barnwyd felly bod angen adolygu'r drwydded.

 

Ers cyflwyno'r cais am adolygu'r drwydded, roedd Ms Reed wedi gadael y safle ac ildio'r drwydded.  Ar yr un diwrnod, cyflwynodd perchennog y safle, Mrs Colette Walsh, gais am drosglwyddo'r drwydded a ganiatawyd, ond ar yr adeg hon roedd y safle ar gau ac nid oedd yn masnachu. 

 

Rhoddwyd gwybod i'r Is-bwyllgor, er nad oedd yna gais mwyach i ddirymu'r drwydded, roedd yna gais i osod amodau trwydded ychwanegol a dileu'r esemptiad cerddoriaeth fyw ar y safle.

 

Yn bennaf, roedd y cwynion yn ymwneud ag adloniant byw yn yr ardd gwrw o dan yr esemptiad cerddoriaeth fyw.   Byddai dileu'r esemptiad yn sicrhau bod unrhyw adloniant byw yn y dyfodol yn destun yr un amodau â gweddill y safle.

 

Yng ngoleuni'r ffaith bod deiliad blaenorol y drwydded, Anna Reed, wedi gadael, cafodd set ddiwygiedig o amodau trwydded y cytunwyd arnynt â'r Heddlu a Gwasanaethau Iechyd y Cyhoedd ac a gyflwynwyd i ddeiliad newydd y drwydded, ei rhannu ag aelodau'r Is-bwyllgor. Rhoddwyd ychydig funudau i'r aelodau ddarllen ac ystyried yr amodau diwygiedig. Roedd yr Ymgeisydd o'r farn ei bod yn briodol ychwanegu'r amodau at y drwydded gan nad oedd yn glir pwy fyddai'n gweithredu'r safle yn y dyfodol.  Ms Walsh oedd deiliad y drwydded yn flaenorol, ac yn ystod y cyfnod hwn dim ond nifer fechan o gwynion a gafwyd.

 

Rhoddwyd cyfle i'r holl bartïon oedd yn bresennol holi'r Arweinydd Trwyddedu ynghylch ei sylwadau.

 

Cyfeiriodd cynrychiolydd Awdurdod yr Heddlu at ei sylwadau ysgrifenedig, fel y nodir yn Atodiad B yr adroddiad, a oedd yn cefnogi safbwynt yr Awdurdod Trwyddedu.    Dywedodd fod y safle wedi cael ei reoli'n wael gan ddeiliad blaenorol y drwydded safle, Anna Reed, a oedd yn cynnwys nifer o ymweliadau gan yr heddlu heb unrhyw welliant dilynol. Pwysleisiwyd bod yr amodau yn angenrheidiol gan nad oedd yn glir pwy fyddai'n gweithredu'r safle yn y dyfodol.

 

Cyfeiriodd cynrychiolydd y Gwasanaeth Iechyd y Cyhoedd at ei sylwadau ysgrifenedig, fel y nodir yn Atodiad C yr adroddiad, yngl?n â'r ymweliadau safle a'r gwaith monitro s?n a wnaed.   Rhoddwyd cyngor i ddeiliad y drwydded safle, Anna Reed, ond ni chafodd hyn ei ddilyn.  Roedd lefel y s?n mor sylweddol fel bod Hysbysiad Statudol yn bodoli a bod Hysbysiad Atal wedi'i roi.   Yn anffodus, roedd cwynion yn parhau i gael eu cyflwyno nes i Ms Reed adael y safle.

 

Er budd aelodau'r Is-bwyllgor, chwaraeodd y Swyddog Gwasanaethau Amgylcheddol ddetholiad o recordiadau i ddangos natur a maint y materion, hyd yn oed ar ôl i Hysbysiad Atal gael ei gyflwyno.

 

O ystyried bod Ms Reed wedi gadael y safle ers hynny, dywedodd Swyddog y Gwasanaethau Amgylcheddol ei fod yn cefnogi'r amodau awgrymedig.

 

Er bod Mrs Collette Walsh, deiliad newydd y drwydded, yn bresennol yn y cyfarfod, roedd yn cael ei chynrychioli gan ffrind a esboniodd fod Mrs Walsh wedi prynu'r eiddo yn 2007 a'i reoli tan 2015, ac yn ystod y cyfnod hwn ni fu unrhyw broblemau mewn perthynas â'r eiddo na'r drwydded.  Esboniwyd pam y bu'n rhaid iddi roi'r gorau i weithredu'r safle.  Yna gosododd Mrs Walsh y safle ar rent, ond yn anffodus daeth y tenantiaid yn broblem wirioneddol ac yna gadawsant y safle mewn dyled o ran rhent ac wedi achosi difrod sylweddol. Byddai'r eiddo'n cael ei roi ar y farchnad cyn gynted ag y bo'n ymarferol bosibl.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gynnal sesiwn preifat er mwyn cael cyngor cyfreithiol yn unol â Pharagraff 16 o Atodlen 12A i'r Ddeddf Llywodraeth Leol.

 

Ar ôl ystyried y paragraffau perthnasol o Ddatganiad Polisi Trwyddedu'r Awdurdod Trwyddedu a'r cyfarwyddyd a gyhoeddwyd gan yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) a chan y Swyddfa Gartref:

 

PENDERFYNODD yr Is-bwyllgor, ar ôl ystyried yr holl dystiolaeth a roddwyd ger ei fron, y dylid ymdrin â'r cais fel a ganlyn:-

 

1.    Nid yw darpariaethau Adran 177A o Ddeddf Trwyddedu 2003 (esemptiad cerddoriaeth fyw) yn berthnasol i'r safle bellach;

 

2.    Bod yr amodau ychwanegol/diwygiedig yr oedd yr awdurdodau cyfrifol wedi cytuno arnynt yn cael eu hychwanegu at y drwydded

 

RHESYMAU

 

Wrth benderfynu ar y cais, roedd y ffeithiau canlynol yn hysbys i'r Is-bwyllgor:

 

1.    O dan ei reolwr blaenorol roedd y safle yn ffynhonnell troseddau ac anhrefn cysylltiedig ag alcohol a niwsans cyhoeddus.

 

2.    Roedd y rheolwr blaenorol bellach wedi gadael y safle.

 

3.    Nid oedd yr amodau trwydded presennol yn ddigonol i sicrhau bod y safle yn cael ei reoli'n briodol yn y dyfodol.

 

4.    Roedd yr awdurdodau cyfrifol wedi cytuno ar amodau trwydded diwygiedig y maent yn eu hystyried yn ddigonol i hyrwyddo'r amcanion trwyddedu.

 

5.    Roedd deiliad newydd y drwydded safle wedi cytuno i ddileu'r esemptiad cerddoriaeth fyw oddi ar y drwydded.

 

6.    Nid yw'r ymgeiswyr bellach yn ceisio dirymu'r drwydded safle.

 

7.    Roedd y safle ar gau ar hyn o bryd.

 

Roedd yr Is-bwyllgor wedi rhoi pwys ar farn yr Awdurdodau Cyfrifol, gan fod rheidrwydd cyfreithiol arno i wneud hynny. Felly rhaid i'r ffaith nad oes yr un ohonynt bellach yn ceisio dirymu'r drwydded safle fod yn ystyriaeth bwysig i'r Is-bwyllgor.

 

Roedd yr Is-bwyllgor yn cydnabod bod yn rhaid i'w benderfyniad gael ei seilio ar dystiolaeth wirioneddol, ac nad yw pryderon nac ofnau ynghylch yr hyn a allai ddigwydd, lle nad oedd tystiolaeth o'r fath i'w hategu, yn faterion y gallant roi ystyriaeth briodol iddynt. Yn yr achos hwn, roedd yr Is-bwyllgor yn fodlon bod tystiolaeth go iawn bod gweithrediad y safle o dan ei reolwr blaenorol yn tanseilio'r amcanion trwyddedu.

 

Gan ystyried y dystiolaeth a gyflwynwyd, a rhannau perthnasol o ganllawiau statudol a datganiad polisi trwyddedu y cyngor, roedd yr Is-bwyllgor yn fodlon y byddai ychwanegu'r amodau trwydded ychwanegol y cytunwyd arnynt rhwng deiliad newydd y drwydded safle a'r awdurdodau cyfrifol, yn hyrwyddo'r amcanion trwyddedu. Hefyd roedd yr Is-bwyllgor yn fodlon bod yr amodau trwydded ychwanegol hynny yn ymateb cymesur i'r materion a nodwyd yn y dystiolaeth.

 

Hefyd roedd yr Is-bwyllgor yn fodlon, o ystyried y dystiolaeth a gyflwynwyd yngl?n ag effaith digwyddiadau cerddoriaeth fyw yn y gorffennol ar drigolion lleol, ei bod yn angenrheidiol ac yn gymesur dileu'r esemptiad cerddoriaeth fyw oddi ar y drwydded er mwyn hyrwyddo'r amcan trwyddedu o ran atal niwsans cyhoeddus.

 

 

Dogfennau ategol: