Agenda item

CAIS AM DRWYDDED SAFLE ZABKA SUPER MINIMARKET, 21 STRYD COWELL, LLANELLI SA15 1UU

Cofnodion:

Rhoddodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol wybodaeth i bawb oedd yn bresennol am y weithdrefn ar gyfer yr eitem hon a oedd wedi'i rhoi gerbron y Pwyllgor i ystyried cais gan Zabka Super Minimarket am Drwydded Safle mewn perthynas â 21 Stryd Cowell, Llanelli SA15 1UU.

 

Cais i ganiatáu:-

 

Cyflenwi Alcohol/Oriau Agor –

  • Dydd Llun i ddydd Sadwrn 08:30-22:30,
  • Dydd Sul 09:00 – 21:00.

 

Nododd yr Is-bwyllgor fod y dogfennau canlynol ynghlwm wrth yr adroddiad:-

 

Atodiad A – copi o'r cais gwreiddiol

Atodiad B – sylwadau a gyflwynwyd gan Heddlu Dyfed-Powys

Atodiad C – sylwadau a gyflwynwyd gan bobl eraill.

 

Cafwyd sylwadau gan Gynghorydd Sir y ward leol, T. Davies. Ategodd y Cynghorydd Davies y pwyntiau a godwyd yn ei sylwadau, fel y nodir yn Atodiad C yr adroddiad. Yn ogystal, dywedodd y Cynghorydd Davies fod trigolion wedi cysylltu ag ef a oedd yn poeni am ymddygiad gwrthgymdeithasol cysylltiedig ag alcohol.  Mae Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus ar waith yn y dref a oedd yn cael ei ddiystyru. 

 

Dywedodd y Cynghorydd Davies fod llawer o broblemau wedi bod o ran gwydr wedi torri o boteli alcohol yn yr ardal.  Dywedodd nad oedd ganddo wrthwynebiad i'r tafarndai a'r clybiau yn yr ardal gan fod alcohol yn cael ei werthu a'i yfed ar y safle. Hefyd, nid oedd ganddo broblemau gydag Asda a siopau eraill y tu allan i ganol y dref.  Fodd bynnag, dywedodd fod problem yn ymwneud â gwerthu alcohol i'w yfed oddi ar y safle yng nghanol y dref ac mai un siop benodol oedd y prif achos.

 

Dywedodd y Cynghorydd Davies fod un siop ddiodydd drwyddedig ger parc y dref.  Pan oedd trwydded gan y safle hwn, roedd yn achosi problemau.

 

Rhoddwyd cyfle i'r holl bartïon holi'r Cynghorydd Davies ynghylch ei sylwadau.

 

Ymatebodd asiant yr ymgeisydd ar ran yr ymgeisydd, a oedd yn bresennol yn y cyfarfod, i'r gwrthwynebiad yr oedd y cynrychiolydd lleol wedi'i wneud.  Dywedodd asiant yr ymgeisydd fod y siop wedi bod yn ei lle ers 4 blynedd a chyfeiriodd at baragraff 10.15 o'r canllawiau statudol.  Dywedodd asiant yr ymgeisydd fod ei gleient yn deall yr amcanion trwyddedu ac y byddai'n sicrhau bod mesurau ar waith gan gynnwys: cofnodion hyfforddiant manwl, llyfr gwrthod a llyfr digwyddiadau.  Byddai'r ardal y tu allan i'r safle yn cael ei chadw'n glir ac wrth werthu alcohol i'w yfed oddi ar y safle byddai pobl yn cael eu hannog i fynd â hwnnw gartref gyda hwy i'w yfed.  Yn ogystal, dywedwyd bod ei gleient wedi cytuno ar amodau trwydded yr heddlu fel y nodwyd yn Atodiad B.  Mae'r ymgeisydd yn byw yn ardal y safle ac yn deall pryderon y trigolion lleol.

 

Rhoddwyd cyfle i'r holl bartïon holi'r ymgeisydd ynghylch y sylwadau a wnaed.

 

Mewn ymateb i ymholiadau a godwyd gan Aelodau'r Is-bwyllgor, dywedodd asiant yr ymgeisydd y byddai'r ymgeisydd yn barod i wneud y canlynol:

 

·       lleihau'r oriau terfynol i 22.00 yn ystod yr wythnos;

·       cyflwyno mesurau i olrhain yr alcohol a werthir;

  • arddangos hysbysiad yn rhoi gwybod i gwsmeriaid am y Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus.  

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gynnal sesiwn preifat er mwyn cael cyngor cyfreithiol yn unol â Pharagraff 16 o Atodlen 12A i'r Ddeddf Llywodraeth Leol.

 

Ar ôl ystyried y paragraffau perthnasol o Ddatganiad Polisi Trwyddedu'r Awdurdod Trwyddedu a'r cyfarwyddyd a gyhoeddwyd gan yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) a chan y Swyddfa Gartref:

 

PENDERFYNODD yr Is-bwyllgor, ar ôl ystyried yr holl dystiolaeth a roddwyd ger ei fron, y dylid caniatáu'r cais yn unol â'r oriau y gofynnwyd amdanynt yn wreiddiol, yn amodol ar yr amodau trwydded y cytunwyd arnynt â'r heddlu

 

RHESYMAU:

 

Wrth benderfynu ar y cais, roedd y ffeithiau canlynol yn hysbys i'r Is-bwyllgor:

 

1.     Nid yw'r safle ei hun mewn stryd yr oedd Datganiad Polisi Trwyddedu y Cyngor yn nodi ei bod yn lle problemus o ran troseddau ac anrhefn, ond mae'n agos at strydoedd o'r fath.

 

2.     Yn eu sylwadau, nid oedd yr Heddlu wedi darparu unrhyw dystiolaeth fod yna hanes o droseddau ac anhrefn cysylltiedig ag alcohol ar y safle neu'n ymwneud â'r safle.

 

3.     Roedd y safle wedi cael trwydded i werthu alcohol o'r blaen.

 

4.     Nid oedd unrhyw un o'r awdurdodau cyfrifol wedi gwrthwynebu caniatáu'r cais.

 

5.     Roedd yr ymgeisydd wedi derbyn yr amodau trwydded ychwanegol yr oedd yr heddlu wedi gofyn amdanynt.

 

Roedd yr Is-bwyllgor wedi rhoi pwys ar farn yr Awdurdodau Cyfrifol, gan fod rheidrwydd cyfreithiol arno i wneud hynny.  Felly mae'n rhaid i'r ffaith nad oes yr un ohonynt yn gwrthwynebu'r cais fod yn ystyriaeth bwysig i'r pwyllgor.

 

Mae'r Is-bwyllgor yn cydnabod bod yn rhaid i'w benderfyniad gael ei seilio ar dystiolaeth wirioneddol, ac nad yw pryderon nac ofnau ynghylch yr hyn a allai ddigwydd pe caniateid trwydded, lle nad oedd tystiolaeth o'r fath i'w hategu, yn faterion y gallant roi ystyriaeth briodol iddynt.

 

Gan ystyried y dystiolaeth a gyflwynwyd, a rhannau perthnasol o ganllawiau statudol a datganiad polisi trwyddedu y cyngor, mae'r pwyllgor yn fodlon na fyddai caniatáu'r cais, yn amodol ar yr amodau trwydded ychwanegol y cytunwyd arnynt rhwng yr ymgeisydd a'r heddlu, yn tanseilio unrhyw un o'r amcanion trwyddedu. Hefyd roedd yr Is-bwyllgor yn fodlon bod angen yr amodau trwydded ychwanegol hynny i hyrwyddo'r amcanion hynny a'u bod yn ymateb cymesur i'r materion a nodwyd gan y Cynghorwyr lleol.

 

 

Dogfennau ategol: