Agenda item

PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO

Cofnodion:

 

3.1        PENDERFYNWYD caniatáu'r ceisiadau cynllunio canlynol yn amodol ar yr amodau yn Adroddiad/Atodiad y Pennaeth Lle/Cynaliadwyedd a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-

 

PL/00296

Adeiladu'r rhan orllewinol o drac mynediad dros dro sy'n ofynnol am gyfnod dros dro mewn cysylltiad â gweithredu'r datblygiad llety gwyliau fel y'i cymeradwywyd gan ganiatâd cynllunio amlinellol W/24265 (fel y'i diwygiwyd gan W/28608 ac W/33378) a chymeradwyaeth i'r materion a gadwyd yn ôl sef W/30157, W/33838 ac W/34546 ar dir yn Fferm Maes y Deri, Talacharn, SA33 5JA

 

[Sylwer: Wrth ystyried yr eitem hon, datganodd y Cynghorydd J. Lewis fuddiant yn rhinwedd perthynas a gyflogir gan y gyrchfan (Seasons Holidays PLC).  Ar y pwynt hwn gadawodd y Cynghorydd J. Lewis y cyfarfod, ac ni chymerodd unrhyw ran bellach yn y drafodaeth na phleidleisio ar y cais].

 

W/40561

Adeiladu'r rhan ogleddol o drac mynediad dros dro sy'n ofynnol am gyfnod dros dro mewn cysylltiad â gweithredu'r datblygiad llety gwyliau fel y'i cymeradwywyd gan ganiatâd cynllunio amlinellol W/24265 (fel y'i diwygiwyd gan W/28608 ac W/33378) a chymeradwyaeth i'r materion a gadwyd yn ôl sef W/30157, W/33838 ac W/34546 ar dir yn Laugharne Park Estate, Cliff Road, Talacharn, SA33 4QP

 

[Sylwer: Wrth ystyried yr eitem hon, datganodd y Cynghorydd J. Lewis fuddiant yn rhinwedd perthynas a gyflogir gan y gyrchfan (Seasons Holidays PLC).  Ar y pwynt hwn gadawodd y Cynghorydd J. Lewis y cyfarfod, ac ni chymerodd unrhyw ran bellach yn y drafodaeth na phleidleisio ar y cais].

 

W/40562

Adeiladu'r rhan ddeheuol o drac mynediad dros dro sy'n ofynnol am gyfnod dros dro mewn cysylltiad â gweithredu'r datblygiad llety gwyliau fel y'i cymeradwywyd gan ganiatâd cynllunio amlinellol W/24265 (fel y'i diwygiwyd gan W/28608 ac W/33378) a chymeradwyaeth i'r materion a gadwyd yn ôl sef W/30157, W/33838 AC W/34546 ar dir yn Laugharne Park Estate, Cliff Road, Talacharn, SA33 4QP

 

[Sylwer: Wrth ystyried yr eitem hon, datganodd y Cynghorydd J. Lewis fuddiant yn rhinwedd perthynas a gyflogir gan y gyrchfan (Seasons Holidays PLC).  Ar y pwynt hwn gadawodd y Cynghorydd J. Lewis y cyfarfod, ac ni chymerodd unrhyw ran bellach yn y drafodaeth na phleidleisio ar y cais].

 

PL/03089

Ehangu'r maes parcio cysylltiedig, creu maes parcio newydd a gwneud atgyweiriadau hanfodol i wal a mynediad i gerddwyr yn Amgueddfa Caerfyrddin, Heol Fawr, Abergwili, Caerfyrddin, SA31 2JG

 

[Sylwer: mae caniatâd yn ddarostyngedig i amod ychwanegol sy'n ymwneud ag ystyried mesurau amddiffyn priodol i ddiogelu adeilad rhestredig y porthdy].

 

PL/03374

Datblygiad preswyl o 64 annedd ynghyd â mynediad, tirlunio, draenio a gwaith cysylltiedig ar dir i'r gorllewin o Stryd Fawr, Sanclêr, Caerfyrddin

 

Cafwyd sylw gan yr aelod lleol yn cefnogi'r cais ar sail yr arfarniad a nodwyd yn adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd.  Yn benodol, cyfeiriodd yr aelod lleol at y gwelliannau a fyddai'n cael eu gwneud i ddiogelwch y cyhoedd, gyda darparu llwybr diogel i'r ysgol, yn unol â'r amod o osod ac adeiladu ffyrdd mynediad a llwybrau troed o'r briffordd gyhoeddus bresennol. 

 

[SYLWER: mae caniatâd yn amodol ar Gytundeb Adran 106].

 

[SYLWER: am 12.45 o'r gloch, ar ôl gorffen yr eitem hon, cafodd y pwyllgor egwyl ginio gan ailymgynnull am 14:00 o'r gloch].

 

PL/04337

 

 

Annedd newydd arfaethedig a lleoli carafan am gyfnod dros dro yn ystod y gwaith adeiladu ar Fferm Penybanc, Llan-non, Llanelli, SA14 8JN

 

PL/04555

Newid defnydd dros dro (24 mis) o uned adwerthu wag (Dosbarth A1) i ddepo cerbydau gyda swyddfeydd a mannau parcio cerbydau cysylltiedig yn 24A Heol Stanllyd, Cross Hands, Llanelli, SA14 6RB

 

  

3.2 Ar ôl derbyn cyngor cyfreithiol, PENDERFYNWYD gohirio'r cais canlynol:-

 

PL/04317

Annedd angen lleol ar dir ger Pen Rhos, Llanelli, SA14 7HA

 

Adroddwyd bod cais wedi'i gyflwyno'n gynharach y bore hwnnw i'r Pwyllgor ohirio ei benderfyniad ar y cais i alluogi Aelodau Lleol i annerch y Pwyllgor ynghylch y mater.  

 

Mynegodd y Cadeirydd ei siom ynghylch y cais hysbysu hwyr a wnaed gan yr asiant.

 

 

 

Dogfennau ategol: