Agenda item

RHAGOLWG CYLLIDEB REFENIW

Cofnodion:

Bu'r Cabinet yn ystyried adroddiad ar Ragolwg Cyllideb Refeniw y Cyngor ar ôl i'r Cyngor gytuno ar ei Gynllun Ariannol Tymor Canolig ym mis Mawrth 2022 yn seiliedig ar amcangyfrifon ac ymrwymiadau hysbys bryd hynny a chafodd ei lunio yng nghyd-destun setliad ariannol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2022/23, yn cynnwys setliadau a blynyddoedd 2 a 3 o'r cynllun a'r amcangyfrifon ar gyfer mewnbynnau allweddol eraill. Er bod y risg o ran chwyddiant wedi'i nodi ar adeg pennu'r gyllideb a barnwyd mai'r ansicrwydd mwyaf bryd hynny oedd yr effaith anhysbys, costau parhaus a llai o incwm oherwydd pandemig Covid-19, nododd y Cabinet, yn dilyn hynny, y bu nifer o newidiadau sylweddol i'r amgylchedd allanol a fyddai'n cael effaith sylweddol ar y gyllideb yn y dyfodol h.y:-

 

·       Chwyddiant cyffredinol sylweddol uwch, y disgwylid iddo bara'n hirach hefyd, gan arwain at bwysau costau byw parhaus;

·       Cynnydd mawr mewn prisiau ynni sy'n effeithio ar gostau cludo yn ogystal â biliau gwresogi a thrydan ar gyfer aelwydydd a busnesau;

·       Ymateb cryf gan yr undebau cenedlaethol ynghylch codiadau cyflog;

·       Llacio cyfyngiadau iechyd cyhoeddus Covid 19 yn llawn.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau wrth y Cabinet, gan ystyried y rhain, a phwysau cyllidebol eraill, fod yr adroddiad yn manylu ar nifer o ragdybiaethau allweddol i'w hystyried a fyddai'n llunio datblygiad cyllideb y Cyngor. Fodd bynnag, o ystyried yr ansicrwydd mawr ar hyn o bryd o ran y pwysau ar gyllideb y cyngor gan faterion megis costau tanwydd uwch a chodiadau cyflog, roedd y dull safonol o ddatblygu cyllideb wedi'i ehangu i gynnwys y sefyllfa orau posib yn ogystal â'r sefyllfa sylfaenol.

 

Nododd y Cabinet, hyd yn oed yn y sefyllfa orau posib, y cyfrifwyd y byddai angen o leiaf £6.1 miliwn o doriadau i'r gyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf, sef £2 filiwn yn fwy na'r hyn a ragwelwyd. O dan y sefyllfa sylfaenol, amcangyfrifwyd bod y diffyg yn codi i bron i £19 miliwn, gan dybio bod yr arbedion o £3.9m a gynlluniwyd eisoes yn cael eu cyflawni. Yn y cyd-destun hwnnw, roedd yn bwysig i'r Cyngor ganolbwyntio ar y flwyddyn ariannol nesaf o ystyried maint yr her. Er na fyddai'r darlun cyflawn yn debygol o fod yn glir nes y ceir yr hysbysiad am y setliad ariannol drafft gan Lywodraeth Cymru, ac ni ddisgwylir hynny tan fis Rhagfyr, nodwyd ei bod yn bwysig cydnabod bod llawer o'r pwysau yr oedd Sir Gaerfyrddin yn eu hwynebu ar hyn o bryd nid yn unig y tu hwnt i'w rheolaeth - megis cyflog staff a gytunir yn genedlaethol a'r cyflog byw sylfaenol a osodir yn allanol - ond eu bod hefyd yn faterion yr oedd pob Awdurdod Lleol ar draws y wlad yn eu hwynebu hefyd.

 

Dywedodd yr Arweinydd, fel yr amlinellir uchod, fod pob awdurdod lleol yng Nghymru yn wynebu'r pwysau cyllidebol difrifol a, gan gofio hynny, bod y materion wedi'u trafod mewn cyfarfod diweddar Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, a fynychwyd gan Weinidog Cyllid Llywodraeth Cymru. Roedd y Gymdeithas wedi pwysleisio y byddai'r flwyddyn ariannol nesaf yn heriol iawn ac y byddai angen gwneud toriadau difrifol heb gyllid ychwanegol i fynd i'r afael â'r pwysau cyllidebol. Felly, roedd yn bwysig bod yr awdurdod yn cydweithio ag Awdurdodau Lleol eraill yng Nghymru i lobïo Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ar y mater.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

 

6.1

derbyn y rhagolwg cyllidebol cychwynnol;

6.2

cymeradwyo'r dull arfaethedig o glustnodi'r arbedion angenrheidiol;

6.3

nodi'r dull arfaethedig o ymgynghori ynghylch y gyllideb.

 

 

Dogfennau ategol: