Cofnodion:
[Sylwer: Roedd y Cynghorwyr L.D. Evans ac A. Vaughan Owen wedi datgan buddiant yn y mater hwn yn gynharach, ond arhosodd y ddau yn y cyfarfod.]
Bu'r Cabinet yn ystyried adroddiad monitro'r gyllideb refeniw a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa gyllidebol fel yr oedd ar 31 Rhagfyr 2022, o ran 2022/2023.
Yn gyffredinol, roedd yr adroddiad monitro yn rhagweld gorwariant ar gyfer y flwyddyn ar lefel adrannol o £6,259k gyda gorwariant o £270k ar gyllideb refeniw net yr Awdurdod. Dywedodd y Cabinet mai'r amrywiant mwyaf oedd y codiadau cyflog oedd heb eu hariannu, a oedd bellach wedi'u cynnwys ar lefel adrannol ac wedi gwella'r sefyllfa o ran gorwariant mewn rhai adrannau. Roedd y ffigyrau wedi'u diweddaru i adlewyrchu effaith y canghellor yn gwrthdroi'r ardoll ar iechyd a gofal cymdeithasol, a roddodd arbediad o 1.25% ar gyfraniadau yswiriant gwladol y cyflogwr o fis Tachwedd.
Yn ogystal, erys:
· gorwario mewn meysydd gwasanaeth sy'n cael eu gyrru gan fwy o alw ynghyd â llai o arian grant yn erbyn y blynyddoedd blaenorol, yn enwedig Anableddau Dysgu a Gwasanaeth Plant.
· Gostyngiad parhaus mewn incwm masnachol, gan gynnwys meysydd parcio, canolfannau hamdden a phrydau ysgol.
· Tanwariant mewn cyllid cyfalaf oherwydd oedi mewn cynlluniau a llai o angen i fenthyg. Roedd y tanwariant cynhenid yn £3m, ac yn ei erbyn roedd £750k yn uniongyrchol wedi'i ymrwymo i dalu am y cynnydd mewn prisiau tendro sydd ei angen i fwrw ymlaen â phrosiect Oriel Myrddin, sy'n denu tua £1m o arian cyfatebol y Loteri Genedlaethol.
Dywedwyd bod trafodaethau sylweddol gan Lywodraeth Cymru dros godiadau cyflog Athrawon a'r sefyllfa bresennol o ran codiad cyflog Medi 2022 oedd bod y Gweinidog wedi cynnig cynnydd i ddechrau o 5% i bob pwynt cyflog statudol, a gafodd ei drafod ymhellach gan yr undebau ac yn y pen draw, cytunodd y Gweinidog ar gynnig diwygiedig ar gyfer 2022/23 a oedd yn cynnwys cynnydd pellach cyfunedig o 1.5% a thaliad anghyfunedig o 1.5%, gyda'r elfen anghyfunedig ar gyfer y flwyddyn academaidd hon yn unig. Y ddealltwriaeth oedd y byddai Llywodraeth Cymru yn ariannu'r 3% ychwanegol ar gyfer y flwyddyn academaidd hon ac felly byddai ysgolion yn cael diffyg o 1% yn eu cyllideb o ran Cyflogau Athrawon o fis Medi i fis Mawrth, oherwydd y ffaith mai dim ond 4% oedd wedi'i ddilysu i'r gyllideb ar ddechrau'r flwyddyn ariannol.
Roedd y diffyg a'r effaith ar gyllideb ysgolion a'r Gyllideb Gorfforaethol wedi cael ei hystyried ac fe gynigiwyd bod yr Awdurdod yn rhoi'r cyllid ychwanegol o tua £600k i'r ysgolion a fyddai'n sicrhau na fyddai gan ysgolion ddiffyg yng nghyllideb y cyflogau athrawon am eleni.
Cynigiwyd hefyd i roi cyllid ychwanegol i'r ysgolion ar gyfer y diffyg yn y cyllidebau ar gyfer staff nad ydynt yn addysgu a fyddai'n cynyddu cyllidebau ysgolion i £900k arall. Cynigiwyd i gynyddu cyfanswm y cyllidebau ar gyfer ysgolion yn 2022/23 o 1.5m o adnoddau'r Cyngor Sir i ariannu'r diffyg y mae ysgolion yn eu hwynebu oherwydd y codiadau cyflog yn ystod 2022/23.
Nodwyd, er bod incwm masnachol yn parhau i adfer, roedd defnydd y cyhoedd o feysydd parcio, yn ogystal â chanolfannau hamdden yn parhau i fod ymhell islaw'r lefelau cyn y pandemig a bod hyn yn cyfrannu at y darlun gorwariant.
Nodwyd bod yr Awdurdod, fel rhan o broses pennu cyllideb 2022/23, wedi cytuno ar gyllideb wrth gefn gwerth £3m yn ystod y flwyddyn a gedwir yn ganolog ar hyn o bryd ac a oedd yn gwrthbwyso'n rhannol y pwysau presennol. Ar ben hynny, nodwyd bod £200k wedi'i ddefnyddio i wrthbwyso'r cynnydd mewn prisiau tanwydd sy'n cael effaith ar Gludiant Ysgol.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:
6.1 |
dderbyn adroddiad monitro'r gyllideb, a nodi'r sefyllfa gyllidebol a'r camau unioni priodol a gymerwyd. |
6.2 |
o ran gorwariant sylweddol ar feysydd penodol o'r gyllideb, bydd y Prif Swyddogion a'r Penaethiaid Gwasanaeth yn adolygu'n feirniadol yr opsiynau sydd ar gael iddynt er mwyn mynd i'r afael â'r effaith barhaus. |
6.3 |
bod yr argymhelliad ychwanegol i roi cynnydd sy'n gyfanswm o £1.5m i gyllidebau ysgolion er mwyn talu am y diffyg yn y Cyflogau Athrawon yn cael ei gymeradwyo. |
Dogfennau ategol: