Agenda item

HYSBYSIADAU DIGWYDDIAD DROS DRO - GLANRANNELL PARK, CRUGYBAR, LLANWRDA, SIR GAR, SA19 8SA

Cofnodion:

Rhoddodd yr Ymgynghorydd Cyfreithiol wybodaeth i bawb oedd yn bresennol am y weithdrefn ar gyfer y cyfarfod, a gynhaliwyd i ystyried hysbysiad gwrthwynebu a gyflwynwyd gan Swyddog Iechyd yr Amgylchedd Cyngor Sir Caerfyrddin, mewn perthynas â'r 5 Hysbysiad Digwyddiad Dros Dro a gyflwynwyd gan Mr David Drinkall o Glanrannell Park House, Crug-y-bar, Llanwrda, Sir Gaerfyrddin, SA19 8SA. Roedd yr Hysbysiadau am Ddigwyddiadau Dros Dro yn ymwneud â gwerthu alcohol trwy fanwerthu rhwng 14:00 – 23:30 a darparu adloniant rheoledig rhwng 18:00-22:30 yn y safle fel a ganlyn:

 

Hysbysiad Digwyddiad Dros Dro 1 – Dydd Gwener 22 Gorffennaf a Dydd Sadwrn 23 Gorffennaf 2022.

Hysbysiad Digwyddiad Dros Dro 2 – Dydd Gwener 29 Gorffennaf a Dydd Sadwrn 30 Gorffennaf 2022.

Hysbysiad Digwyddiad Dros Dro 3 – Dydd Gwener 5 Awst a Dydd Sadwrn 6 Awst 2022.

Hysbysiad Digwyddiad Dros Dro 4 – Dydd Gwener 12 Awst a Dydd Sadwrn 13 Awst 2022.

Hysbysiad Digwyddiad Dros Dro 5 – Dydd Gwener 19 Awst a Dydd Sadwrn 20 Awst 2022

 

Eglurodd Swyddog Iechyd yr Amgylchedd y gwahaniaeth rhwng y ffactorau a fyddai'n gyfystyr â niwsans cyhoeddus yn unol â Chanllawiau'r Swyddfa Gartref a gyhoeddwyd o dan adran 182 o Ddeddf Trwyddedu 2003 a'r ffactorau a fyddai'n gyfystyr â niwsans s?n statudol a ymgorfforir yn Neddf Diogelu'r Amgylchedd 1990.

 

Cyfeiriodd Swyddog Iechyd yr Amgylchedd at ei gyflwyniad ysgrifenedig a rhoddodd fanylion am y gwrthwynebiad i'r hysbysiadau ar y sail bod yr Awdurdod o'r farn na fyddai'r amcan Niwsans Cyhoeddus yn cael ei fodloni am y rhesymau a nodir yn Atodiad A o'r adroddiad.

 

Ar yr adeg hon, cafodd yr Is-bwyllgor ddetholiad o recordiadau sain a recordiwyd gan breswylwyr lleol ar ap s?n, ynghyd â'r rhai a recordiwyd gan ddefnyddio offer proffesiynol gan is-adran Llygredd yr Awdurdod wrth fonitro lefelau s?n yn ystod digwyddiadau blaenorol a gynhaliwyd gan yr ymgeisydd. Dywedwyd wrth yr Is-bwyllgor fod y gweithgareddau yn Glanrannell Park House i'w clywed yn yr eiddo yr ymwelwyd â hwy ac yn y gymuned ehangach. Cadarnhaodd Swyddog Iechyd yr Amgylchedd ymhellach, er nad oedd y s?n a glywyd yn ystod ymarfer monitro'r Awdurdod yn ddigon i'w ystyried yn niwsans s?n statudol, eglurwyd y gallai'r penderfyniad newid yn seiliedig ar ffactorau sy'n ymwneud â hyd, amlder, math a lefel y s?n, yn ogystal â ffactorau sy'n ymwneud â rhesymoldeb a natur yr ardal. Daeth Swyddog Iechyd yr Amgylchedd felly i'r casgliad bod prif sail y gwrthwynebiad yn ymwneud ag amlder yr Hysbysiadau am Ddigwyddiadau Dros Dro y gwnaed cais amdanynt dros gyfnod byr.


 

 

Yna, bu'r Is-bwyllgor yn ystyried y datganiadau ysgrifenedig a llafar gan drigolion lleol yn cefnogi'r gwrthwynebiadau a gyflwynwyd gan Swyddog Iechyd yr Amgylchedd. Roedd y gwrthwynebiadau yn ymwneud â'r meysydd canlynol:

 

·       Y goblygiadau niweidiol ar iechyd a llesiant preswylwyr lleol, a achosir gan amlder y digwyddiadau a chymryd sylw o bellter y lleoliad o'i eiddo cyfagos.

 

·       Hyd y digwyddiadau, gan gynnwys s?n sy'n atodol at ddigwyddiadau sy'n cael eu cynnal yno a achosir gan s?n cerbydau, s?n a gynhyrchir wrth baratoi ar gyfer digwyddiad a s?n gan unigolion sy'n mynychu digwyddiadau, yn enwedig wrth adael.

 

·       Effaith niweidiol anfesuradwy sy'n ymwneud â busnesau cyfagos yn colli masnach.

 

·       Tarfu ar heddwch, ac ymyriad ar fywydau preswylwyr lleol, nad oedd yn cael ei ystyried yn gydnaws â'r ardal wledig.

 

Rhoddwyd cyfle i'r holl bartïon holi Swyddog Iechyd yr Amgylchedd a thystion ynghylch y sylwadau a wnaed.

 

Wedyn bu i'r ymgeisydd ymateb i'r pryderon a'r materion a godwyd a dywedodd y byddai mesurau lliniaru'n cael eu rhoi ar waith o ran cynnig i ddod â'r gerddoriaeth i ben yn gynt a fformat y gerddoriaeth. Dywedwyd y byddai'r artistiaid byw hefyd yn cael eu gosod mewn lleoliad arall ar y safle ac na fyddai unrhyw gerddoriaeth yn cael ei chwarae rhwng setiau byw mewn ymdrech i leihau lefelau s?n. Cafwyd sicrwydd hefyd na fyddai nifer yr Hysbysiadau am Ddigwyddiadau Dros Dro a gyflwynwyd yn fwy nag amodau Polisi Llywodraeth Cymru.

 

Gyda chaniatâd y Cadeirydd, rhoddodd yr Is-bwyllgor ystyriaeth hefyd i ddetholiad o recordiadau a gyflwynwyd gan yr ymgeisydd i'r Awdurdod ar 18 Gorffennaf 2022 a oedd yn dangos bod y gweithgareddau mewn eiddo cyfagos i'w clywed yn Glanrannell Park House. 

 

Ar hynny

 

PENDERFYNODD yr Is-bwyllgor YN UNFRYDOL gynnal sesiwn preifat er mwyn cael cyngor cyfreithiol yn unol â Pharagraff 16 o Atodlen 12A i'r Ddeddf Llywodraeth Leol.

 

Ar ôl i'r Is-bwyllgor ystyried y paragraffau perthnasol yn Natganiad Polisi Trwyddedu yr Awdurdod Trwyddedu ac i'r Cyfarwyddyd a gyhoeddir gan yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) a chan y Swyddfa Gartref a nodwyd yn yr eitem ar yr agenda, ac i'r rheiny y cyfeiriwyd atynt gan y partïon (a oedd yn cynnwys y Canllawiau a gyhoeddwyd yn unol ag Adran 182 o Ddeddf Trwyddedu 2003),

 

PENDERFYNODD yr Is-bwyllgor YN UNFRYDOL, ar ôl ystyried yr holl dystiolaeth a roddwyd ger ei fron, y dylid ymdrin â'r Hysbysiadau am Ddigwyddiadau Dros Dro fel a ganlyn:-

 

Hysbysiad Digwyddiad Dros Dro 1 (22.07.22 – 23.07.22) -

 

Cyflwynwyd Gwrth-hysbysiad.

Hysbysiad Digwyddiad Dros Dro 2 (29.07.22 – 30.07.22) -

 

Nid oedd gwrth-hysbysiad wedi cael ei gyflwyno.

Hysbysiad Digwyddiad Dros Dro 3 (05.08.22 – 06.08.22) -

 

Cyflwynwyd Gwrth-hysbysiad.

Hysbysiad Digwyddiad Dros Dro 4 (12.08.22 – 13.08.22) -

 

Nid oedd gwrth-hysbysiad wedi cael ei gyflwyno.

Hysbysiad Digwyddiad Dros Dro 5 (19.08.22 – 20.08.22) -

Cyflwynwyd Gwrth-hysbysiad.

RHESYMAU

 

Roedd y Pwyllgor yn cydnabod bod yn rhaid i'w benderfyniad gael ei seilio ar dystiolaeth wirioneddol, ac nad yw pryderon nac ofnau ynghylch yr hyn a allai ddigwydd, lle nad oedd tystiolaeth o'r fath i'w hategu, yn faterion y gallant roi ystyriaeth briodol iddynt. Teimlai'r Pwyllgor fod unrhyw ganiatâd cynllunio a roddir yn y dyfodol, er enghraifft, yn perthyn i'r categori olaf hwn.

 

Wrth benderfynu ar y cais, yr oedd y ffeithiau canlynol yn hysbys i'r Is-bwyllgor:

 

Y prif bryder a fynegwyd gan yr Awdurdod Cyfrifol oedd bod atal amcan trwyddedu niwsans cyhoeddus yn cael ei danseilio gan s?n oedd yn gyfystyr â niwsans cyhoeddus.

 

Y prif bryder a fynegwyd drwy dystiolaeth tystion a alwyd gan yr Awdurdod Cyfrifol oedd s?n sy'n cael ei gynhyrchu ar y safle hefyd, o ran cerddoriaeth ond hefyd s?n sy'n atodol at ddigwyddiadau sy'n cael eu cynnal yno, gan gynnwys s?n cerbydau, s?n a gynhyrchir wrth baratoi ar gyfer digwyddiad a s?n gan unigolion sy'n mynychu digwyddiadau, yn enwedig wrth adael.

 

Y dystiolaeth orau a oedd ar gael iddynt mewn perthynas â lefelau'r s?n a gynhyrchir yn y safle oedd y recordiadau sain a wnaed drwy'r ap s?n a'r offer proffesiynol a osodwyd ar eiddo preswylwyr lleol.

 

Roedd y dystiolaeth gan dystion mewn perthynas â lefelau s?n yn gyffredinol gyson â'r recordiadau y cyfeiriwyd atynt uchod.

 

Bod hyd, natur ac yn arbennig amlder ac ailadroddiad s?n ar y lefelau sy'n amlwg o'r recordiadau a'r manylion gan dystion yn eu tystiolaeth yn niwsans i'r rhai sy'n byw yng nghyffiniau'r safle ac yn ddigonol i achosi niwsans cyhoeddus.

 

Teimlai'r Is-bwyllgor y byddai'r Hysbysiadau am Ddigwyddiadau Dros Dro a gyflwynwyd, oherwydd eu hamlder (yn rhychwantu pob penwythnos o 22 Gorffennaf 2022 tan 20 Awst 2022) yn golygu na fyddai'r rhai yn y cyffiniau yn cael seibiant rhag y s?n a gynhyrchir ar y safle, ac nad oedd digwyddiadau sy'n cael eu cynnal yn aml heb egwyl yn hyrwyddo'r amcan trwyddedu atal niwsans cyhoeddus.

 

Bu'r Is-bwyllgor yn ystyried yr holl opsiynau sydd ar gael iddo mewn perthynas â'r Hysbysiadau am Ddigwyddiadau Dros Dro yn unol â Deddf Trwyddedu 2003.

 

Roedd yr Is-bwyllgor yn ymwybodol o'r angen i hyrwyddo'r amcanion trwyddedu a bod rhaid cael cydbwysedd priodol rhwng yr effaith negyddol ar Mr. Drinkall wrth roi Gwrth-hysbysiadau mewn perthynas â'r holl Hysbysiadau am Ddigwyddiad Dros Dro ac effaith peidio â rhoi Gwrth-Hysbysiadau o'r fath ar drigolion.

 

Teimlwyd, er mwyn cyflawni hynny, dylid rhoi Gwrth-hysbysiadau mewn perthynas â'r Hysbysiadau am Ddigwyddiadau Dros Dro fel a ganlyn:

 

22 a 23 Gorffennaf 2022

 

5 a 6 Awst 2022

 

19 a 20 Awst 2022

 

Fodd bynnag, teimlai'r Is-bwyllgor, o ystyried y Gwrth-hysbysiadau y cyfeiriwyd atynt uchod, nad oedd angen hysbysiadau mewn perthynas â'r Hysbysiad am Ddigwyddiad Dros Dro ar gyfer 29 Gorffennaf a 30 Gorffennaf ac ar gyfer 12 Awst a 13 Awst 2022 gan fod digon o seibiant rhwng digwyddiadau i breswylwyr.

 

Nododd yr Is-bwyllgor y mesurau a awgrymir o ran y cynnig gan Mr Drinkall i ddod â'r gerddoriaeth i ben yn gynt a fformat y gerddoriaeth, a mynegodd y gobaith y byddai'r mesurau hynny'n cael eu rhoi ar waith ganddo mewn perthynas â'r digwyddiadau fydd yn cael eu cynnal.

 

Dogfennau ategol: