Agenda item

DIWRNODAU PARCIO AM DDIM MEWN TREFI

Cofnodion:

Ystyriodd y Cabinet adroddiad a oedd yn cynnwys gwybodaeth am y goblygiadau o ran cost ac adnoddau amrywio'r trefniadau presennol ar gyfer diwrnodau parcio am ddim ynghyd â'r opsiynau sydd ar gael i barhau â'r fenter parcio am ddim.

 

Dywedwyd mai nod polisi parcio am ddim y Cyngor oedd cynyddu nifer yr ymwelwyr mewn trefi drwy ddarparu parcio am ddim yn ei feysydd parcio talu ac arddangos ar hyd at bum diwrnod gwahanol bob blwyddyn i gefnogi digwyddiadau neu ymgyrchoedd ym mhob tref. Ar hyn o bryd, cyflwynwyd ceisiadau am y diwrnodau parcio am ddim ar-lein ac mae'n rhaid iddynt gael cefnogaeth y Cyngor Tref a'r Gr?p Rheoli Canol Tref priodol. Yn dilyn ymgynghoriad mewnol, cafodd y ceisiadau eu cyflwyno i'w cymeradwyo gan yr Aelod Cabinet.

 

Nododd y Cabinet, yn seiliedig ar adroddiadau annibynnol a gomisiynwyd fel rhan o fenter Deg Tref y Cyngor, fod cynrychiolwyr trefi gwledig wedi ceisio cynyddu nifer y diwrnodau parcio am ddim y tu hwnt i'r 5 diwrnod parcio am ddim y flwyddyn sydd gan y Cyngor ar waith ar hyn o bryd.

 

Ar ôl ystyried yr adroddiad a'r holl opsiynau oedd ar gael, cynigiwyd cymeradwyo opsiynau 5 a 6 yr adroddiad, ac eiliwyd y cynnig hwn.

 

Yn unol â'r Protocol, gwahoddodd yr Arweinydd y Cynghorydd Rob James i ofyn y cwestiwn yr oedd wedi'i baratoi mewn perthynas â'r eitem hon.

 


Cwestiwn gan y Cynghorydd Rob James:

 

"Rwy'n si?r y byddai'r Cabinet yn cytuno â mi ei fod wedi bod yn gyfnod anodd i fusnesau lleol, a chredaf y bu dadlau ers amser maith bod parcio am ddim yn fecanwaith posibl ar gyfer hybu busnesau lleol fel cymorth. Fel y gwelwch yn yr adroddiad, mae amrywiad mawr hefyd lle cynhyrchodd Tref Caerfyrddin yn benodol 70% o'r holl daliadau parcio ar gyfer y Sir gyfan. A fyddai'r Cabinet yn fodlon gweithio gyda ni i weld a allwn ni ddatblygu cynnig am barcio am ddim am 1 awr mewn meysydd parcio penodol ar draws y Sir i sicrhau y gallwn gefnogi'r busnesau lleol wrth i chi gyflwyno'r cynllun peilot hwn. Rwy'n credu y byddai parcio am ddim am 1 awr yn bolisi syml iawn a byddai'r cyhoedd yn ei ddeall yn iawn, ni fyddai anghysondeb o ran gwahanol ddyddiau ac amseroedd gwahanol, ac rwy'n credu y byddai'n cynyddu nifer yr ymwelwyr â'r trefi mewn gwirionedd.”

 

Er ei fod yn derbyn y cwestiwn y tro hwn, gofynnodd yr Arweinydd i gwestiynau gael eu cyflwyno yn y dyfodol yn unol â gofynion y Protocol ynghylch Presenoldeb Aelodau Anweithredol mewn Cyfarfodydd Ffurfiol y Cabinet.

 

Ymateb gan yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith:

 

“Mae'r Cyngor wedi parhau i gefnogi busnesau lleol a chanol trefi dros sawl blwyddyn, cyn, yn ystod a thu hwnt i'r pandemig. Wrth ymgynghori â phob canol tref, mae'r Cyngor wedi darparu pum diwrnod parcio am ddim i gefnogi digwyddiadau, ac mae'r Cyngor wedi darparu cymorth pellach gyda chyfnodau parcio am ddim estynedig yn ystod yr wythnos ym mhob tref. Darperir parcio am ddim yn:

 

  • Rhydaman – Dydd Llun, Dydd Mawrth a Dydd Mercher, 10:00am tan 2:00pm
  • Caerfyrddin – Dydd Mawrth a Dydd Iau, 3:30pm tan 6:00pm
  • Llanelli – Dydd Llun a Dydd Mawrth, 10:00am tan 4:00pm
  • Llandeilo, Llanymddyfri, Castellnewydd Emlyn a Sanclêr - Dydd Llun i Ddydd Mercher, 10:00am tan 2:00pm

 

O ran taliadau parcio yn fwy cyffredinol, mae taliadau parcio'r Cyngor hwn yn cymharu'n ffafriol â thaliadau parcio mewn Cynghorau cyfagos:

 

  • Mae Sir Gâr yn codi tâl o rhwng £2.40 a £3.60 am hyd at 4 awr.
  • Mae Abertawe er enghraifft yn codi tâl o £4.50 am 4 awr, os ydych chi'n parcio mewn maes parcio trefol ond £7 am NCP.
  • Mae Castell-nedd Port Talbot yn codi £3.30 am 3-4 awr gan gynyddu i £3.80 wedi hynny
  • Mae Ceredigion yn codi £3 am 3 awr, gan gynyddu i £3.80

 

Fodd bynnag, rydym yn cydnabod bod angen parhau i adolygu ein taliadau parcio a'n polisi parcio.

 

Cafodd Strategaeth Parcio'r Cyngor ei hadolygu a'i chymeradwyo ddiwethaf yn 2018, cafodd y strategaeth flaenorol ei diweddaru fel un o ganlyniadau gwaith Gorchwyl a Gorffen y Pwyllgor Craffu yn 2016.

 

Gallaf eich sicrhau ein bod ni fel Cabinet yn awyddus i weithio gyda rhanddeiliaid a phartneriaid ar draws y sir, gan gynnwys gweithio gyda busnesau Ardal Gwella Busnes Canol Trefi, Cynghorwyr Sir, Cynghorau Tref a Chymuned ac eraill er mwyn sicrhau bod ein strategaeth barcio yn gyfredol, yn seiliedig ar dystiolaeth ac yn sicrhau'r manteision economaidd mwyaf posibl i drefi gan gyfrannu hefyd at amcanion ehangach y Cyngor o ran helpu i leihau problemau traffig, tagfeydd ac ansawdd aer a buddsoddi yn ein system trafnidiaeth gyhoeddus.

 

Rydym yn gwybod bod y galw am barcio yn cael ei ddylanwadu gan y math a swyddogaeth defnydd tir ac ansawdd system drafnidiaeth gyhoeddus. Mae angen i ni felly gadw mewn cof ac adolygu argaeledd trafnidiaeth gyhoeddus yn lle ceir, yn unol ag amcanion Llywodraeth Cymru o ran lleihau teithiau mewn car ledled Cymru.

 

Mae dyletswydd arnom felly, i sicrhau bod ein Strategaeth Barcio yn gyson â Strategaeth Drafnidiaeth Llywodraeth Cymru, ac rwy'n awyddus i sicrhau bod unrhyw ymyriadau a gyflwynir yn gymesur a sicrhau ein bod yn cael cydbwysedd rhwng cefnogi canol trefi a busnesau a chefnogi amcanion datgarboneiddio mwy cynaliadwy.

 

Unwaith eto, rwy'n hapus i weithio gyda'r gr?p Llafur ar yr agenda hon a byddwn yn hapus i gwrdd â chi i drafod eich syniadau gyda'r posibilrwydd o'u cynnwys yn y Strategaeth Gorfforaethol yn y dyfodol fel y trafodwyd yn gynharach."

 

Eglurwyd mai pwrpas yr adroddiad oedd mewn ymateb i gais i'r Cabinet yn enwedig yn achos Llanymddyfri a bod nifer o opsiynau wedi'u datblygu fel rhan o'r fenter Deg Tref. Yn ogystal, cydnabuwyd y gallai twf economaidd tref Llanymddyfri elwa o'r fenter parcio am ddim ac felly byddai opsiwn 5 a gynigir yn argymhellion yr adroddiad i gynnal cynllun peilot am 12 mis yn casglu gwybodaeth berthnasol bwysig ac yn asesu effaith darpariaeth estynedig o 12 diwrnod yn Llanymddyfri.

 

Yn ogystal, o ran parcio am ddim, fe wnaeth y Cabinet gydnabod bod anghysondeb ar draws y Sir. Felly, eglurwyd mai opsiwn 6 a gynigir yn argymhellion yr adroddiad, fyddai adolygu'r strategaeth barcio am ddim bresennol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL;

 

7.1

cynnal cynllun peilot am 12 mis i asesu effaith darpariaeth estynedig o 12 diwrnod yn Llanymddyfri.

 

7.2.

cynnal adolygiad o'r strategaeth parcio am ddim bresennol ar draws y Sir, sy'n gysylltiedig â'r strategaeth parcio cyffredinol a gymeradwywyd yn 2018, a bydd y Cabinet yn ystyried adroddiad yn y dyfodol i gadarnhau Cylch Gwaith yr adolygiad.

 

 

 

Dogfennau ategol: