Agenda item

DATGANIAD GWELEDIGAETH Y CABINET 2022 - 2027

Cofnodion:

Bu'r Cabinet yn ystyried adroddiad a oedd yn atodiad i Ddatganiad Gweledigaeth y Cabinet 2022-2027. Wrth gyflwyno'r datganiad gweledigaeth 5 mlynedd, eglurodd yr Arweinydd, yn dilyn Etholiadau Llywodraeth Leol (Mai 2022), fod y Cabinet newydd wedi ymrwymo i gyhoeddi datganiad gweledigaeth cyn y Strategaeth Gorfforaethol oedd i'w gyhoeddi yn yr Hydref.

 

Dywedwyd y byddai'r adroddiadau a'r argymhellion perthnasol ynghylch prosiectau a rhaglenni penodol yn yr adroddiad yn cael eu cyflwyno drwy'r broses ddemocrataidd dros y pum mlynedd nesaf.

 

Roedd y datganiad yn nodi'r trywydd y mae'r Cabinet hwn am ei ddilyn a chanolbwyntio arno i wneud gwahaniaeth ar draws y Sir dros y 5 mlynedd nesaf. Nodwyd y byddai'r gwaith yn cynnwys cysylltu â phartneriaid i gryfhau'r economi, cynyddu ffyniant, a buddsoddi mewn tai, addysg, diwylliant, seilwaith a'r amgylchedd.

 

Nodwyd y byddai canlyniadau'r Arolwg Trigoliona'r Arolwg Staff yn rhan annatod o ddatblygiad llwyfannau polisi'r Cabinet yn y dyfodol. Yn ogystal, pwysleisiwyd, er mwyn mireinio ymhellach y datganiad gweledigaeth, fod deialog trawsbleidiol gyda'r holl Aelodau yn cael ei groesawu a bod nifer o gyfarfodydd eisoes wedi'u trefnu dros yr haf.

 

Rhoddwyd cyfle i bob Aelod Cabinet oedd yn bresennol yn y cyfarfod gyflwyno'r weledigaeth ar gyfer eu portffolio.

 

Yn unol â'r Protocol, gwahoddodd yr Arweinydd y Cynghorydd Rob James i ofyn y cwestiwn yr oedd wedi'i baratoi mewn perthynas â'r eitem hon.

 

Cwestiwn gan y Cynghorydd Rob James:

 

“Wrth ddarllen y ddogfen weledigaeth, mae'n debyg iawn i restr hir iawn o bethau i'w gwneud neu ddatganiadau cyffredinol megis; gweithio gyda chyrff allanol a deall yr hyn y gellir ei wneud i gefnogi preswylwyr. Byddai hyd yn oed Cyngor o dan arweiniad y Ceidwadwyr yn dweud hynny, mae'n brin iawn o fanylion ac mae'n debyg iawn i'r cynllun 'Symud Ymlaen, y 5 mlynedd nesaf', rwy'n credu sy'n cael ei adnabod yn y Cyngor fel y cynllun 96 pwynt. Yn wir, mae hwn yn gynllun sydd â 113 o bwyntiau, felly fy mhrif gwestiwn yw;

Sut rydym yn disgwyl i'r cyhoedd roi eu barn ar ddogfen sy'n brin o fanylion a nodau mesuradwy? Nid yw'n dweud pa ddyfodol yr hoffech chi ar gyfer addysg, nid yw'n dweud sut y byddech chi'n ceisio integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol, nid yw'n dweud sut y byddwch chi'n ceisio adeiladu'r economi ar gyfer y dyfodol. Fel disgrifiodd y Cynghorydd Lenny, nid breuddwyd gwrach ydyw, nid yw mewn gwirionedd yn ymdrin ag unrhyw beth sy'n ymwneud â ffyniant na phwysau chwyddiant ar y gyllideb neu os byddech chi'n gallu cyflawni'r addewidion hyn mewn gwirionedd."

 

Ymateb gan yr Arweinydd:

 

“Rwy'n credu efallai bod camddealltwriaeth sylfaenol ar eich rhan o ran ble rydym arni ar hyn o bryd a pha rôl y mae'r datganiad gweledigaeth hwn yn ei chwarae o ran bwydo i'n Strategaeth Gorfforaethol. Byddwn i wedi gobeithio bod holl Aelodau'r Cyngor hwn wedi derbyn y neges yn glir, oherwydd roeddwn i wedi bod yn ei ddweud yn gyson am y 2 fis diwethaf. Mewn gwirionedd, rwy'n cofio cwrdd â chi'r tro cyntaf ar ôl yr etholiad, a phan wnaethom gwrdd â chi, y Cynghorydd Dot Jones a'r Cynghorydd Deryk Cundy, dywedais yn hollol glir mai'r uchelgais o'm safbwynt i oedd cyrraedd sefyllfa yn yr Hydref mewn perthynas â'r Strategaeth Gorfforaethol lle'r oedd yr holl safbwyntiau wedi'u hystyried. Dyma ein man cychwyn fel Cabinet, dyma'r hyn yr ydym yn rhagweld yw ein blaenoriaethau wrth symud ymlaen, ond rydym yn cydnabod y gallai fod gan eraill syniadau gwahanol. Dyna pam y mae'n bwysig ein bod yn ystyried barn trigolion, drwy'r Arolwg Trigolion, y staff, drwy'r Arolwg Staff a'ch hunain fel Aelodau drwy'r cyfarfodydd sydd eisoes wedi'u trefnu neu sydd wrthi'n cael eu trefnu gydag amrywiaeth o wahanol Aelodau. Felly mae'r safbwyntiau gwahanol hynny'n cael eu bwydo mewn modd mesuradwy a systematig, fel bod yr holl safbwyntiau hynny wedi'u hystyried pan fyddwn yn ymdrin â'r Strategaeth Gorfforaethol yn yr Hydref.

 

Dyna'r broses sydd wedi'i nodi ac rwyf wedi bod yn glir dros y ddau fis diwethaf o ran yr hyn rwy'n ei ddisgwyl gan wahanol rolau gwahanol grwpiau. Rwy'n credu bod trafodaeth i'w chael gyda'r Gr?p Llafur a chi eich hun fel Arweinydd Llafur o ran sut rydych chi'n gweld eich hunain yn cyfrannu at y broses honno ac nid yn unig i ddechrau o ran y Strategaeth Gorfforaethol ond yn fwy hirdymor o ran datblygu polisi yn y Cyngor hwn. Rwy'n credu bod gennych gyfle gwych i gyfrannu eich syniadau a'ch awgrymiadau ar nifer o wahanol gamau, dyma'r un cyntaf. 

 

A dweud y gwir, rwyf braidd yn siomedig ynghylch y cwestiwn rydych wedi'i gyflwyno’r bore yma. Credaf ei fod yn ddiog. Roedd gennych gyfle i gyflwyno rhywfaint o feirniadaeth adeiladol o bosib, gallech chi fod wedi dod i'r cyfarfod hwn heddiw i ofyn i mi fel Arweinydd a ydw i'n cytuno bod angen cryfhau'r hyn a'r llall, ond dewisoch chi beidio â gwneud hynny. Fe ddewisoch chi'r opsiwn diog, ac rwy'n si?r y byddai rhai yn dadlau mai pwrpas y cwestiwn yn syml oedd bachyn ar gyfer datganiad i'r wasg Llafur i'r Evening Post, ond rwy'n gobeithio eich bod chi a'r Gr?p Llafur yn rhoi rhyw ystyriaeth ddifrifol i sut rydych chi am ryngweithio â ni fel y Weinyddiaeth. Fy nghynnig fel yr wyf wedi amlinellu eto yn y datganiadau rhagarweiniol i'r adroddiad hwn, yw cynnig trafodaeth ac mae'r cynnig dal ar gael, a mater i eraill yw cymryd y cynnig hwnnw o ddifrif.

 

Rwy'n gwrthod yn llwyr yr awgrym bod diffyg gweledigaeth yn y ddogfen hon. Mae'n uchelgeisiol ac yn gyffrous ond hefyd yn gyraeddadwy fel soniodd y Cynghorydd Lenny. Rydym yn wynebu pwysau ariannol ac rydym yn gwbl ymwybodol o hynny ac rydym yn benderfynol o weithio gydag eraill i geisio goresgyn y rheini. Mae'r weledigaeth yno ac mae'n fan cychwyn ar gyfer trafodaeth. Rwy'n edrych ymlaen at barhau â'r trafodaethau hynny gyda chi, gobeithio, mewn modd cadarnhaol dros y misoedd nesaf.”

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn Datganiad Gweledigaeth y Cabinet ar gyfer 2022-2027.

 

 

Dogfennau ategol: