Agenda item

CWESTIWN GAN ELLEN HUMPHREY I'R CYNGHORYDD A. LENNY, AELOD CABINET DROS ADNODDAU

“Mae perchnogi ail gartrefi yn fater o bwys i gymunedau lleol a phrynwyr tro cyntaf lleol yng nghefn gwlad Sir Gaerfyrddin. A fydd Cyngor Sir Caerfyrddin yn gweithredu'r premiwm treth gyngor ar ail gartrefi o 300% o fis Ebrill 2023?”

 

Cofnodion:

“Mae perchnogi ail gartrefi yn fater o bwys i gymunedau lleol a phrynwyr tro cyntaf lleol yng nghefn gwlad Sir Gaerfyrddin. A fydd Cyngor Sir Caerfyrddin yn gweithredu'r premiwm treth gyngor ar ail gartrefi o 300% o fis Ebrill 2023?”

 

Ymateb gan y Cynghorydd Alun Lenny - Aelod Cabinet dros Adnoddau:-

 

Diolch am eich cwestiwn, yn wir mae'n gwestiwn amserol iawn. Cyn i mi fynd ati'n benodol i ateb eich cwestiwn, maddeuwch imi os byddaf  am funud neu ddwy yn ceisio egluro ble yr ydym yn sefyll ar hyn, beth yw'r datblygiad diweddaraf a beth sydd wedi digwydd ers ichi gyflwyno'r cwestiwn hwn ar lefel genedlaethol. 

 

Mae’r Cyngor hwn yn poeni’n fawr iawn am y difrod mae’r twf afresymol yn nifer yr ail-gartrefi yn ei wneud yn bennaf i gymunedau glanmôr fel Llansteffan ond hefyd i bentrefi gwledig fel Cilycwm a Myddfai.  Yn fy marn i, mae’n hollol annerbyniol fod pobol sy’n ddigon cyfoethog i fedru fforddio ail gartref yn amddifadu pobol ifanc lleol rhag prynu eu cartref cyntaf yn eu cymunedau.  A thrwy wthio prisiau tai i fyny y tu hwnt i bob rheswm, rydym yn dweud ‘ail gartref’ ond ‘ail d?’ ydyw mewn gwirionedd, gan na allwch chi alw t? lle mae rhywun yn treulio ychydig wythnosau o’r flwyddyn yn ‘gartref.’  Nid problem yng Nghymru yn unig yw hyn wrth gwrs.  Mae pobl o Gernyw ac ardal y Llynnoedd ac yng Ngogledd-ddwyrain Lloegr hefyd yn wynebu'r un broblem.  Fe'i trafodais gyda Chadeirydd y Pwyllgor Cynllunio yn Northumberland, ond yng Nghymru wrth gwrs, mae iaith yn ffactor unigryw. 

 

Y llynedd, fe wnaeth y Cyngor hwn alw ar Lywodraeth Cymru i roi pwerau newydd i Awdurdodau Lleol i weithredu yn y maes yma, nid yn unig o ran hawl i godi premiwm uwch, ond hefyd trwy’r drefn gynllunio i roi cap ar nifer yr ail gartrefi mewn unrhyw ardal benodol.  Rwy'n falch i ddweud fod hyn yn mynd i ddigwydd diolch i’r cytundeb rhwng Plaid Cymru a’r Blaid Lafur yn y Senedd yng Nghaerdydd, cafodd pecyn o fesurau eu cyhoeddi wythnos ddiwethaf sydd, i raddau helaeth, yn unol â’r hyn oeddem ni fel cyngor wedi galw amdano. 

 

Ymhlith y mesurau mae Llywodraeth Cymru yn argymell creu tri dosbarth newydd o ddefnydd tai sef, prif gartref, ail gartref a thai gwyliau ar sail tymor byr.  Bydd Awdurdodau Cynllunio Lleol, ar sail tystiolaeth, yn cael yr hawl i fynnu bod perchennog t? yn gorfod cael caniatâd cynllunio os am newid defnydd t? o un dosbarth i'r llall. 

 

Bydd y Polisi Cynllunio Cenedlaethol hefyd yn newid er mwyn rhoi'r hawl i Awdurdodau Lleol i reoli nifer yr ail gartrefi a'r tai gwyliau mewn unrhyw gymuned.  Mae’n fwriad i gyflwyno Cynllun Trwyddedu statudol ar gyfer pob llety i ymwelwyr, gan gynnwys gosodiadau gwyliau tymor byr.   Ymhellach, bydd mesurau i gynyddu’r cyfraddau ar gyfer ail gartrefi a thai gwyliau.

 

O ran eich cwestiwn penodol, a yw Cyngor Sir Caerfyrddin yn mynd i godi'r premiwm o 300% ar ail gartrefi, fel y dywedais dim ond yr wythnos diwethaf y daeth y pecyn newydd hwn gan Lywodraeth Cymru felly nid yw'r Cabinet wedi cael cyfle i'w drafod eto, ond byddwn yn ei drafod yn fuan iawn a gallaf eich sicrhau ein bod yn benderfynol o wneud defnydd llawn o'r pwerau ychwanegol yr ydym wedi'u cael gan Lywodraeth Cymru. 

 

Diolch yn fawr iawn i chi unwaith eto am eich cwestiwn ar y mater hynod o bwysig hwn.

 

Cwestiwn atodol gan Ms Ellen Humphrey:-

 

A yw'r Cyngor yn edrych ar unrhyw ddull arall o helpu i fynd i'r afael â'r mater o ail gartrefi/cartrefi gwyliau ac a yw hyn yn rhywbeth y mae'r Cyngor yn casglu data arno i ddadansoddi tueddiadau ar lefel leol - pentrefi a threfi i weld ble mae'r mannau problemus?

 

Ymateb gan y Cynghorydd Alun Lenny - Aelod Cabinet dros Adnoddau:-

 

Bydd y llu o fesurau a gawsom gan Lywodraeth Cymru yn rhywbeth y bydd y Cabinet yn edrych arno ac fel cyn Gadeirydd y Pwyllgor Cynllunio roeddwn yn gryf o'r farn mai nad y premiwm yn unig y dylid edrych arno ond y rheoliadau newydd sydd bellach yn ymwneud â'r tri math o dai sy'n cael eu cyflwyno, sef cartref cyntaf, ail gartref a chartref gwyliau sef y mesurau sy'n cael eu cynnig gan Lywodraeth Cymru o ganlyniad i'r fargen rhwng Plaid Cymru a'r Blaid Lafur a bydd y mesurau hynny'n cynnwys rhoi'r p?er i Awdurdodau Cynllunio lleol i benderfynu ar y newid defnydd o un math o eiddo i'r llall.  Felly, mae hyn yn mynd ymhell y tu hwnt i'r cynnig premiwm o 300% a fydd yn b?er a roddir i ni.  Ond fel y dywedais, oherwydd mai dim ond yr wythnos diwethaf y cafwyd y mesurau hyn gan Lywodraeth Cymru, nid yw'r Cabinet wedi cael cyfle eto i'w hystyried yn fanwl. Ond gallaf eich sicrhau y byddwn yn gwneud hynny cyn hir.