Cofnodion:
· Estynnodd y Cadeirydd ei gydymdeimlad diffuant i deulu'r cyn-Gynghorydd Penny Edwards. Bu farw Penny ddydd Sul 22 Mai ar ôl cyfnod o salwch. Roedd Penny yn cynrychioli Ward Hengoed tan yr etholiadau ym mis Mai.
· Estynnwyd cydymdeimlad hefyd i deulu'r cyn-Gynghorydd John Edwards a fu'n cynrychioli Ward Saron tan yr etholiadau llywodraeth leol yn 2012.
· Talodd y Cadeirydd deyrnged i Phil Bennett a fu farw ar 12 Mehefin. Roedd wedi ennill 29 cap dros Gymru rhwng 1969 a 1978 ac wedi chwarae 413 o gemau i'r Scarlets. Dywedwyd y byddai gwasanaeth coffa yn cael ei gynnal ym Mharc y Scarlets ddydd Gwener 24 Mehefin, gan ddechrau am 11am, ac y byddai gwasanaeth cyhoeddus wedi hynny yn Eglwys y Drindod Sanctaidd, Felin-foel, am 1pm.
· Cyhoeddodd y Cadeirydd ei fod wedi cael y pleser o fynychu derbyniad yn y Senedd yn ddiweddar i nodi dechrau Wythnos y Lluoedd Arfog 2022. Roedd hefyd wedi mynychu digwyddiad beicio Taith Merched Prydain.
· Estynnodd y Cynghorydd Alun Lenny, gyda chaniatâd y Cadeirydd, ei longyfarchiadau i Joe Allen a thîm pêl-droed cenedlaethol Cymru ar eu llwyddiant wrth gyrraedd Cwpan y Byd yn Qatar. Hefyd, llongyfarchwyd Josh Sheehan (Bolton Wanderers) sydd wedi cael tri chap dros Gymru ac sydd ar hyn o bryd yn chwaraewr ar yr ymylon oherwydd anaf.
· Estynnodd y Cynghorydd Edward Thomas, gyda chaniatâd y Cadeirydd, ei longyfarchiadau i Ysgol Gynradd Llandeilo a ddewiswyd i gynrychioli Cymru yng nghyngerdd y Jiwbilî yn y Royal Albert Hall. Estynnwyd llongyfarchiadau hefyd i Glwb Rygbi Llandeilo, sef un o sylfaenwyr Undeb Rygbi Cymru, sy'n dathlu ei ben-blwydd yn 150 oed eleni. Aeth aelodau'r clwb ar daith feicio 304 milltir i gefnogi Apêl Arch Noa a chanser y prostad. Diolchodd y Cynghorydd Thomas hefyd i blant Llandeilo am gymryd rhan yn Eisteddfod yr Urdd yn Ninbych.
· Amlinellodd yr Arweinydd, gyda chaniatâd y Cadeirydd, yr ymdrechion sy'n cael eu gwneud gan breswylwyr Sir Gaerfyrddin a'r Awdurdod i roi cymorth i ffoaduriaid o Wcráin. Dywedodd yr Arweinydd fod 80 o noddwyr o dan y cynllun Cartrefi i Wcráin. Mae dros 30 o blant eisoes wedi dechrau yn yr ysgol. Mae rhai teuluoedd o Wcráin hefyd wedi cael llety tymor byr ac mae'r Awdurdod yn darparu amrywiaeth o wasanaethau a chymorth. I gloi, dywedodd yr Arweinydd wrth yr holl deuluoedd o Wcráin sydd yma fod Sir Gaerfyrddin yn sefyll gyda nhw, wrth eu hochr nhw, ac y byddem yn gwneud beth bynnag y gellid ei wneud i'w cefnogi.
Soniodd yr Arweinydd am yr arolwg preswylwyr a fyddai'n mynd yn fyw cyn bo hir. Dywedodd yr Arweinydd fod yr Awdurdod yn ceisio barn preswylwyr ar bob maes perfformiad er mwyn llywio'r gwaith o gynllunio ar gyfer y dyfodol. Byddai'r canfyddiadau pwysig yn cael eu rhannu ar draws pob lefel o'r sefydliad er mwyn llywio'r broses o wneud penderfyniadau. Anogodd yr Arweinydd yr holl breswylwyr i fynd ar-lein i gwblhau'r arolwg.
Dywedodd yr Arweinydd hefyd fod y cyfarfod cyntaf o Arweinwyr y Grwpiau wedi'i gynnal i drafod gweithio mewn partneriaeth a'i fod yn ddiolchgar am natur gadarnhaol y cyfarfod.
I gloi, nododd yr Arweinydd fod yr argyfwng costau byw yn effeithio ar bawb. Roedd arbenigwyr wedi rhagweld y gallai cartref yng Nghymru weld cynnydd o £600 mewn costau byw eleni. Dywedodd nad oedd ateb hawdd i fynd i'r afael â hyn, ond roedd camau y gallai San Steffan a Llywodraeth Cymru eu cymryd i fynd i'r afael â'r sefyllfa. Dywedodd yr Arweinydd ei fod yn hapus i weithio gydag awdurdodau eraill i lobïo San Steffan ac i weithio gyda Llywodraeth Cymru.