Agenda item

LLOFNODI FEL COFNOD CYWIR GOFNODION CYFARFOD Y CABINET A GYNHALWYD AR 4 GORFFENNAF 2022

Cofnodion:

Yn unol â'r Protocol, gwahoddodd yr Arweinydd y Cynghorydd Dot Jones i ofyn y cwestiwn a baratowyd ganddi mewn perthynas â'r eitem hon.

 

Cwestiwn gan y Cynghorydd Dot Jones;

 

Mewn perthynas â chofnod 9, Panelau Ymgynghorol y Cabinet, "Beth oedd casgliad y panel gorchwyl a gorffen a'r panel ymgynghorol ar gyfer cludiant ysgol?"

 

Ymateb gan yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith:

 

"Bwriedid i'r Panel hwn gael ei sefydlu ychydig cyn i Bandemig COVID ddechrau yn 2020 yn dilyn adroddiad i'r Bwrdd Gweithredol ar 25 Ionawr 2020 ar newid cenedlaethol i Reoliadau Mynediad i Gerbydau'r Gwasanaeth Cyhoeddus a oedd yn effeithio ar wasanaethau a ddarparwyd gan weithredwyr masnachol ar gyfer teithiau i'r ysgol. Penderfynodd y Bwrdd Gweithredol wneud y canlynol:

 

1)      Gwella Polisi Seddi Gwag yr Awdurdod i hepgor y tâl blynyddol cyfredol o£50, o 1 Medi 2019;

 

2)      Parhau i fynd ar drywydd Llywodraeth Cymru a'r Adran Drafnidiaeth i newid y defnydd o'r Rheoliadau Mynediad i Gerbydau’r Gwasanaethau Cyhoeddus er mwyn caniatáu i weithredwyr bysiau barhau i ddefnyddio bysiau ar lwybrau bysiau ysgol a weithredir ar sail fasnachol;

 

3)      Sefydlu Panel Ymgynghorol y Bwrdd Gweithredol, gan gynnwys 6 aelod, ar sail drawsbleidiol, ynghyd ag Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros yr Amgylchedd, i edrych ar yr holl faterion sy'n ymwneud â chludiant o'r Cartref i'r Ysgol gan adrodd yn ôl i'r Bwrdd Gweithredol.

 

Yn dilyn y cyfarfod ym mis Ionawr 2020, cafwyd trafodaeth genedlaethol rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. Cyhoeddodd y Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth ddatganiad i gadarnhau bod Llywodraeth Cymru wedi gofyn am eithriad cyffredinol ar gyfer gwasanaethau cludiant ysgol ac wedi ysgrifennu hefyd at yr Adran Drafnidiaeth i geisio cael eglurhad pellach ynghylch eithriadau presennol ac eithriadau yn y dyfodol.

 

Fodd bynnag, gan fod Pandemig COVID wedi effeithio ar y wlad ym mis Mawrth 2020, ni wnaeth y panel ymgynghorol gyfarfod a gwnaed gwaith cenedlaethol pellach. Dechreuodd Llywodraeth Cymru adolygiad o'r Mesur Teithio gan Ddysgwyr yn 2020 gan ymestyn yr adolygiad yn 2021. Ym Mis Mawrth 2022, fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru: "Nid oedd amser o fewn y weinyddiaeth bresennol i ddechrau proses ffurfiol i newid y Mesur cyn i'r cyfnod cyn yr etholiad ddechrau. Felly byddai angen ystyried yr opsiynau ar gyfer y camau nesaf yn Nhymor nesaf y Senedd.


 

O ystyried bod y Mesur Teithio gan Ddysgwyr yn rhoi'r sail ar gyfer darpariaeth cludiant ysgol, mae'n briodol aros am ganlyniad yr adolygiad cenedlaethol pan ddaw hyn i'r amlwg yn ystod tymor y Senedd hon. Yn amlwg, bydd cynigion o'r adolygiad cenedlaethol yn destun ymgynghoriad a byddant yn symud drwy'r broses ddemocrataidd arferol.

 

Fel Cyngor, mae angen i ni roi pwysau ar Lywodraeth Cymru ynghylch beth yw'r camau nesaf o ran yr adolygiad o bellteroedd cludiant ysgolion ac os gwneir newidiadau, bod cyllid ychwanegol yn cael ei ddarparu i Gynghorau ledled Cymru er mwyn darparu capasiti ychwanegol.

 

Rwy'n ymwybodol bod yr Arweinydd yn gobeithio cyfarfod â Lee Waters, y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, i drafod y mater. Hoffwn bwysleisio hefyd fy mod yn awyddus i weithio gyda'r Gr?p Llafur er mwyn dod o hyd i ffordd ymlaen ar gyfer yr agenda bwysig hon a byddwn yn croesawu cyfarfod gyda chi'r Cynghorydd Jones i drafod y mater yn fwy manwl, os ydych yn cytuno."

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 4 Gorffennaf 2022 gan eu bod yn gywir.

 

 

Dogfennau ategol: