Agenda item

DERBYN ADRODDIAD BLYNYDDOL ARWEINYDD Y CYNGOR 2021-22

Cofnodion:

Wrth gyflwyno ei Adroddiad Blynyddol i'r Cyngor am y cyfnod 2021/22, soniodd yr Arweinydd am yr angen i ystyried beth oedd wedi cael ei gyflawni hyd yma a beth oedd angen ei wneud o hyd. Dywedodd ei fod o'r farn nad oedd monopoli ar syniadau da gan yr un plaid neu gr?p gwleidyddol, a bod cyfraniad gan bob aelod i'w wneud i weledigaeth gorfforaethol y cyngor. Soniodd am yr angen i gael systemau ar waith a oedd yn galluogi syniadau da, o ba ffynhonnell bynnag, i weld golau dydd. Dros y blynyddoedd nesaf roedd yn awyddus i ymgysylltu ag aelodau o bob rhan o'r siambr yn rheolaidd, i drafod eu syniadau a'u pryderon ac i gydweithio er lles pawb. Ychwanegodd ei fod eisoes wedi cyfarfod ag arweinwyr y Gr?p Llafur, y Gr?p Annibynnol Newydd a phob un o aelodau'r cyngor oedd heb gysylltiad pleidiol, i ddweud ei fod am ddatblygu perthynas agos a hwylus.

Dywedodd yr Arweinydd ei fod yn ddymuniad gan bawb i weld Sir Gaerfyrddin yn ffynnu, ac mai dyletswydd pob aelod oedd dod o hyd i ffyrdd o gydweithio'n effeithiol er mwyn cyflawni amcanion a rennir.

Dywedodd mai dymuniad y weinyddiaeth oedd mynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd, yr argyfwng costau byw, adfywio economi a chanol trefi'r sir, darparu tai o safon, codi safonau addysgol, sicrhau cymorth gofal cymdeithasol i'r rhai mwyaf agored i niwed, gwella trafnidiaeth gyhoeddus, gweld strydoedd glanach a darparu gwasanaethau cyngor effeithiol o safon. Er bod y rhain yn faterion oedd yn bwysig i bob aelod a bod angen mynd ar eu trywydd gyda'n gilydd dros y 5 mlynedd nesaf, pwysleisiodd fod llawer eisoes wedi'i gyflawni a amlinellodd hynny fel a ganlyn:       

 

Adferiad Economaidd

Roedd wedi cael ei gydnabod ar ddechrau'r pandemig bod angen cynllun adfer, yn ogystal â wynebu'r heriau oedd yn codi o ddydd i ddydd. Felly, roedd cynllun adfer cynhwysfawr wedi'i gyflwyno i gefnogi busnesau, pobl a chymunedau. Roedd Covid-19 wedi cael effaith ar yr economi leol, ond roedd arwyddion cadarnhaol o adferiad cyflymach na'r hyn a ragwelwyd yn wreiddiol, ac roedd yr Arweinydd yn teimlo'n hyderus y gallai economi Sir Gaerfyrddin wella i'r fath raddau fel ei bod hyd yn oed yn fwy cynhyrchiol nag o'r blaen.

Roedd y cynllun adfer economaidd yn uchelgeisiol iawn – ac roedd yn gwbl benderfynol o wneud popeth o fewn ei allu i gadw Sir Gaerfyrddin ar y trywydd iawn a pharhau ar ei thaith o ran twf. Roedd y cynllun yn gwireddu'r uchelgais i helpu busnesau i greu mwy na 3,000 o swyddi yn lle'r rhai a gollwyd yn ystod y pandemig: diogelu a chreu 10,000 o swyddi i gymryd lle'r rhai sydd mewn perygl a chreu tua 1,700 o swyddi newydd - yn ogystal â chefnogi miloedd o fusnesau lleol. Yr hyn sy'n allweddol i'r cynllun oedd cefnogi economi sylfaenol y sir a chefnogi pobl leol i ddatblygu sgiliau a thalent mewn meysydd wedi'u targedu er mwyn creu gweithlu lleol cryf a gwydn.

Byddai'r cynlluniau adfer canol trefi ar gyfer Rhydaman, Llanelli a Chaerfyrddin hefyd yn cael eu cyflawni - pob un ohonynt yn tynnu sylw at faterion allweddol, cyfleoedd ac ymyriadau penodol ar gyfer y trefi unigol. Roedd cynllun y deg tref yn dal i fynd o nerth i nerth gydag agenda ar gyfer newid ar gyfer pob un o'r trefi a nodwyd a'u cymunedau ehangach.                                               Roedd gwaith ymgynghori a datblygu wedi digwydd ym mhob un o'r deg tref eisoes - yn Cross Hands; Cwmaman; Cydweli; Talacharn; Llandeilo; Llanymddyfri; Llanybydder; Castellnewydd Emlyn; Sanclêr; a Hendy-gwyn ar Daf.   

Roedd yr ymgyrch i siopa'n lleol hefyd wedi parhau drwy 100% Sir Gâr. Mae ein siopau sionc wedi bod yn ymddangos ar draws y sir gan gynnig lle manwerthu am ddim i fusnesau annibynnol lleol. Rydym wedi gweld miloedd o bobl yn siopa'n lleol gan gadw'r arian yn Sir Gaerfyrddin.

Bargen Ddinesig Bae Abertawe

Yn ogystal â gwneud cynnydd ar gynllun Pentre Awel yn Llanelli, yr oeddid yn barnu y byddai'n darparu miloedd o swyddi i'r ardal, roedd Sir Gaerfyrddin yn parhau i elwa ar Fargen Ddinesig Bae Abertawe. Roedd dau gynllun arwyddocaol yn y Fargen Ddinesig wedi'u lansio eleni. Roedd y Rhaglen Sgiliau a Thalentau wedi cael ei chymeradwyo gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU a byddai'n rhoi cyfleoedd i filoedd o bobl gael cyfleoedd sgiliau ac yn helpu busnesau i dyfu drwy ddatblygu gweithlu talentog ar draws Rhanbarth Bae Abertawe gan ganolbwyntio ar ddiwydiannau â galw mawr am weithwyr.

Roedd y Rhaglen Ddigidol Ranbarthol wedi ei chymeradwyo gan y llywodraeth eleni hefyd. Roedd y cynllun yn cael ei arwain gan Sir Gaerfyrddin ac amcangyfrifir ei fod yn werth £318 miliwn i'r rhanbarth yn y blynyddoedd i ddod. Roedd tair elfen i'r rhaglen, a'r disgwyl oedd y byddent i gyd o fudd i gymunedau Sir Gaerfyrddin:

  • Lleoedd sydd â seilwaith digidol: Sicrhau bod gan ddinasoedd, trefi a pharciau busnes y rhanbarth fynediad cystadleuol at gysylltedd ffibr llawn;
  • Gwledig: Gwella mynediad i fand eang yng nghymunedau gwledig y rhanbarth;
  • Rhwydweithiau Diwifr y Genhedlaeth Nesaf: Paratoi'r ffordd i'r rhanbarth elwa ar 5G ac arloesedd y 'Rhyngrwyd Pethau'

Gwledig (Mart)

Roedd Mart Caerfyrddin wedi ailagor ym mis Mawrth eleni yn dilyn gwaith adnewyddu sylweddol a chreu mwy o swyddi gwledig. Roedd amaethyddiaeth yn rhan hanfodol o ddatblygu gwledig drwy gefnogi cyflogaeth, busnesau ategol, a gwasanaethau amgylcheddol. Ffermio yw asgwrn cefn bywyd cefn gwlad ac roedd yr Arweinydd yn falch iawn bod y Cyngor wedi gallu cefnogi hyn a sicrhau dyfodol Mart Caerfyrddin.

Ffyrdd a Seilwaith

Y cyntaf o'i fath yng Nghymru, roedd hwb gwefru cyflym iawn wedi agor yn Cross Hands gan ddarparu pedwar gwefrydd cyflym 50KW ac un gwefrydd cyflym iawn 150KW. Byddai'r gwefrwyr yn darparu ffynhonnell ynni glân ac yn helpu i leihau'r defnydd o'r grid cenedlaethol. Roedd yr hwb yn ategu Strategaeth Seilwaith Cerbydau Trydan deng mlynedd y Cyngor a'i weledigaeth o ddatblygu'r seilwaith sydd ei angen i alluogi gweithwyr, preswylwyr, cymunedau, ymwelwyr, busnesau a sefydliadau eraill i ddefnyddio Cerbydau Trydan fel rhan o'u trefn ddyddiol.

Byddid yn parhau i ddatblygu a hyrwyddo rhwydwaith o bwyntiau gwefru trydan i ddiogelu rhwydwaith trafnidiaeth y sir yn y dyfodol yn ogystal â chyfrannu at darged lleihau llygredd lleol a byd-eang.

Roedd gan y Cyngor wyth mlynedd cyn cyrraedd nod 2030 sef bod yn garbon sero net, ac roedd yr Arweinydd yn credu bod penodi aelod Cabinet penodol ar gyfer Newid Hinsawdd, Datgarboneiddio a Chynaliadwyedd yn dangos yn glir y pwysigrwydd roedd y weinyddiaeth hon yn ei roi ar yr agenda benodol hon.

Tai

Eleni roedd y Cyngor wedi cymeradwyo'r Cynllun Cyflawni ar gyfer Adfywio a Datblygu Tai, a nod y cynllun oedd darparu dros 2,000 o dai newydd a fforddiadwy ychwanegol ledled y sir dros y pum mlynedd nesaf. Fodd bynnag, roedd ein gweledigaeth a'n buddsoddiad nid yn unig yn ymwneud â thai, ond â chefnogi datblygiad cymunedau cynaliadwy cryf, llefydd lle roedd pobl eisiau byw a gweithio ynddynt, a rhoi cartrefi o ansawdd da sy'n effeithlon o ran ynni ac yn fforddiadwy i bobl eu rhedeg. Barnwyd y byddai'r buddsoddiad yn cael effaith enfawr ar ysgogi'r economi, creu swyddi i bobl leol, a chefnogi adferiad y sir ar ôl y pandemig.

Roedd angen darparu'r tai iawn yn y mannau iawn, ac roedd hyn yn cynnwys darparu tai fforddiadwy i bobl ifanc a phobl oedran gweithio mewn ardaloedd gwledig a threfol, gan eu helpu i aros yn y sir, cynyddu nifer yr ymwelwyr yn nhrefi'r sir, a diogelu'r iaith Gymraeg a'r diwylliant mewn ardaloedd gwledig.
Roedd gwaith eisoes wedi dechrau ar brosiect Trawsnewid Tyisha a fyddai'n darparu cartrefi modern deiliadaeth gymysg newydd yn y gymuned.


Gofal Cymdeithasol

Byddai iechyd a llesiant pobl yn cael eu cefnogi ac roedd y timau gofal cymdeithasol yn parhau i ddarparu gwasanaeth o safon uchel o dan amgylchiadau anodd iawn. Byddai'r Cyngor yn parhau i weithio gyda'r Bwrdd Iechyd a phartneriaid lleol i wella Gofal Cymdeithasol yn barhaus ledled Sir Gaerfyrddin.

 

Addysg

Er mwyn sicrhau bod ein cymunedau yn y dyfodol yn gymunedau bywiog a'n heconomi yn y dyfodol yn economi ffyniannus, byddid yn parhau i fuddsoddi mewn darparu'r addysg orau bosibl i blant. Er mwyn cefnogi'r weledigaeth hon, roedd strategaeth ddeng mlynedd uchelgeisiol wedi cael ei lansio a oedd yn amlinellu ein gweledigaeth ar gyfer addysg y dyfodol yn Sir Gâr. Roedd y cynllun yn nodi dyheadau'r cyngor ar gyfer dysgwyr a staff am y 10 mlynedd nesaf.

Roedd y strategaeth hefyd yn cynnwys ymrwymiad i barhau i fuddsoddi mewn ysgolion fel eu bod yn addas ar gyfer dysgu ac addysgu'r 21ain ganrif, ac i gynnig addysg ddwyieithog o safon uchel.                                                                                               Hyd yn hyn, roedd Rhaglen Moderneiddio Addysg y Cyngor wedi buddsoddi dros £300 miliwn mewn ysgolion ar draws Sir Gaerfyrddin, gan gynnwys adeiladu 12 ysgol gynradd newydd, dwy ysgol uwchradd newydd, a 48 o brosiectau ailwampio a helaethu o bwys, er budd mwy na 16,000 o blant ledled y sir.                                                                                                              Roedd ysgol newydd wedi agor ym Mhump-hewl yn ddiweddar, yn dilyn buddsoddiad o £4.5 miliwn. Roedd swm tebyg wedi cael ei fuddsoddi i drawsnewid Ysgol Llangadog a £4.3m ar Ysgol Rhys Pritchard. Roedd gwaith hefyd wedi dechrau ar adeiladu ysgol gynradd newydd ym Mhen-bre gyda buddsoddiad o £8.25 miliwn.

Hamdden

Roedd y pandemig wedi rhoi sylw i iechyd a llesiant ac wedi arwain at fuddsoddi yng nghyfleusterau Hamdden y Sir.

Roedd Canolfan Hamdden Dyffryn Aman eisoes wedi elwa ar fwy na £600,000 o waith uwchraddio y tu mewn i'r adeilad, ac yn gynharach eleni roedd ymrwymiad wedi bod i ddatblygu'r cae pob tywydd 3G a chyfleusterau athletau gwell.

Roedd gwelliannau mawr wedi'u cwblhau hefyd yng Nghanolfan Hamdden Castellnewydd Emlyn, a bron blwyddyn yn ôl roedd canolfan hamdden newydd wedi agor ar hen safle Ysgol Pantycelyn yn Llanymddyfri, gan ddod â champfa o'r radd flaenaf, neuadd chwaraeon, stiwdio ddawns a chyfleusterau cymunedol i'r ardal, yn ychwanegol at y pwll nofio presennol. Dywedodd yr Arweinydd fod y weinyddiaeth hon yn benderfynol o sicrhau buddsoddiad parhaus mewn cyfleusterau hamdden ledled y sir.

Edrych ymlaen

Dywedodd yr Arweinydd fod llawer i edrych ymlaen ato. Yn gynharach eleni roedd prosiect Llwybr Beicio Dyffryn Tywi wedi derbyn £16.7 miliwn fel rhan o gronfa Ffyniant Bro newydd Llywodraeth y DU. Byddai'r prosiect yn creu llwybr cerdded a beicio 20km oddi ar y ffordd rhwng  Caerfyrddin a Llandeilo wrth ochr Afon Tywi gan fynd drwy olygfeydd godidog a heibio i gestyll, parciau gwledig ac ystadau hanesyddol yn ogystal ag atyniadau gan gynnwys Gerddi Botaneg Cenedlaethol Cymru a Gerddi Aberglasne.

I gloi, dywedodd yr Arweinydd mai cipolwg yn unig oedd ei adroddiad ar y gwaith roedd y cyngor hwn yn ei wneud mewn cynifer o feysydd i geisio gwella bywydau pobl Sir Gaerfyrddin. Fe ychwanegodd mai'r dasg yn awr oedd adeiladu ar y sylfeini cadarn hynny a gwireddu'r uchelgeisiau ar gyfer y sir hon. Roedd yn edrych ymlaen at weithio gyda'r holl aelodau dros y 5 mlynedd nesaf er mwyn gwneud hynny a diolchodd i'r aelodau.

Cafodd Arweinwyr y Gr?p Annibynnol a'r Gr?p Llafur gyfle i wneud sylwadau ar adroddiad yr Arweinydd.

 

PENDERFYNWYD nodi Adroddiad Blynyddol yr Arweinydd ar gyfer 2021/22.