Agenda item

CYSYLLTIADAU AC ATGYFEIRIADAU I'R GWASANAETHAU PLANT

Cofnodion:

[SYLWER: Roedd V. Kenny wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach, ac arhosodd yn y cyfarfod wrth i'r Pwyllgor ei hystyried].

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am sefyllfa'r Awdurdod mewn perthynas â'r cysylltiadau a'r atgyfeiriadau, y pwysau a'r gofynion yn yr is-adran Gwasanaethau Plant.

 

Atgoffwyd yr Aelodau bod adroddiad wedi'i gyflwyno i'r Pwyllgor Craffu yn ei gyfarfod ar 8 Gorffennaf 2021 ac felly ystyriwyd ei bod yn amserol rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa bresennol o ran y cynnydd yn y llwyth gwaith yn yr is-adran; yr heriau sy'n cael eu hwynebu a'r angen posibl am adnoddau ychwanegol.

 

Roedd yr adroddiad yn manylu ar faes gorchwyl a strwythur yr is-adran Gwasanaethau Plant ac yn nodi gwybodaeth berthnasol i'r Pwyllgor mewn perthynas â'r lefelau staffio a'r prosesau a ddilynir gan y Tîm Cyfeirio Canolog, y Tîm Asesu a'r Timau Gofal Plant Tymor Hir, i ddelio ag achosion.  Hefyd, roedd yr adroddiad yn cyfeirio at y gwasanaethau ataliol a ddarperir gan yr is-adran, gan gynnwys mentrau Dechrau'n Deg a Theuluoedd yn Gyntaf a chyfeiriodd hefyd at strwythur newydd a gyflwynwyd mewn ymateb i'r cynnydd yn nifer y plant sy'n cael Addysg Ddewisol yn y Cartref.

 

Roedd yr adroddiad yn dangos cynnydd mewn cysylltiadau ers dechrau'r pandemig, er y nodwyd bod nifer yr atgyfeiriadau wedi gostwng yn ystod 2021/22 a allai fod wedi'u priodoli i'r ffaith bod y Gwasanaethau Ataliol wedi ailddechrau darparu cymorth wyneb yn wyneb wrth i'r cyfyngiadau coronafeirws gael eu llacio.

 

Rhoddwyd sylw i nifer o arsylwadau ac ymholiadau, fel a ganlyn:

 

Cyfeiriodd y Pwyllgor at yr argyfwng recriwtio cenedlaethol parhaus a chodwyd pryderon ynghylch y risgiau i'r Awdurdod yn sgil yr anawsterau i benodi gweithwyr cymdeithasol.  Rhoddodd Rheolwr y Gwasanaeth grynodeb i aelodau o'r amrywiaeth o fesurau sydd wedi'u rhoi ar waith i liniaru'r risgiau hynny, gan gynnwys adolygiad parhaus a oedd yn ceisio gwella cyflog gweithwyr cymdeithasol er mwyn sicrhau bod y gyfradd gyflog yn unol ag Awdurdodau eraill, a recriwtio gweithwyr cymdeithasol â chymwysterau addas o wledydd tramor.  Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant at yr amodau gwaith ffafriol yn yr Awdurdod, felly roedd yn braf nodi nad oedd cadw gweithwyr yn faes sy'n peri pryder.  Hefyd, cafodd y gwasanaeth o ansawdd uchel a gynhelir gan yr is-adran, sy'n gorfod delio â materion cymhleth, ei ganmol gan y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant ac aelodau'r Pwyllgor.

 

HYD Y CYFARFOD

Wrth roi ystyriaeth i'r eitem hon, tynnwyd sylw'r Pwyllgor at Reol 9 o'r Weithdrefn Gorfforaethol - Hyd Cyfarfod - ac at y ffaith bod y cyfarfod wedi bod yn mynd rhagddo ers bron i dair awr. Felly:

 

PENDERFYNWYD atal Rheol 9 o'r Weithdrefn Gorfforol er mwyn galluogi'r Pwyllgor i ystyried y materion oedd yn weddill ar yr agenda.

 

Mynegwyd pryder nad oedd pob plentyn sy'n cael Addysg Ddewisol yn y Cartref wedi cael ymweliad cartref blynyddol statudol gan yr Awdurdod.  Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant fod arian ychwanegol wedi'i ddarparu gan Lywodraeth Cymru a fyddai'n mynd i'r afael â'r cynnydd yn y galw ar yr is-adran o ganlyniad i'r cynnydd yn nifer y plant sy'n cael Addysg Ddewisol yn y Cartref ledled Cymru ers dechrau'r pandemig coronafeirws.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

Dogfennau ategol: