Agenda item

DIWEDDARIAD AR PARTNERIAETH

Cofnodion:

[SYLWER: Roedd y Cynghorydd E. Schiavone wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach, ac arhosodd yn y cyfarfod wrth i'r Pwyllgor ei hystyried].

 

Derbyniodd y Pwyllgor adroddiad i'w ystyried a oedd yn nodi'r trefniadau cydweithredol ar gyfer sefydlu 'PARTNERIAETH', sef consortiwm rhanbarthol i hyrwyddo rhagoriaeth, a fyddai'n gwasanaethu'r ysgolion yn Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro ac Abertawe. 

 

Yna, cafodd y Pwyllgor gyflwyniad gan Swyddog Arweiniol PARTNERIAETH, a oedd yn manylu ar y strwythur staffio, y blaenoriaethau, y swyddogaethau a'r dulliau ariannu sydd eu hangen i gyflawni ei nodau a'i amcanion.  Tynnwyd sylw at y ffaith bod y consortiwm rhanbarthol yn seiliedig ar weledigaeth o weithio mewn partneriaeth ar ran yr Awdurdodau Lleol perthnasol ac a oedd yn cyfrannu at wella perfformiad yr ysgolion yn y consortiwm ac addysg plant a phobl ifanc.   Tynnwyd sylw'r Pwyllgor at y cynllun busnes ar gyfer 2022/23, a oedd yn dangos sut y byddai PARTNERIAETH yn cefnogi blaenoriaethau pob Awdurdod Lleol, wedi'i hwyluso gan Uwch-ymgynghorwyr Strategol penodedig, a hefyd yn cyd-fynd â blaenoriaethau cenedlaethol.

 

Rhoddwyd sylw i nifer o arsylwadau ac ymholiadau, fel a ganlyn:

 

Mynegwyd pryder mai ychydig o effaith gadarnhaol y byddai'r consortiwmrhanbarthol newydd yn ei chael ar ysgolion o bosib ac felly na fyddai'n gwella perfformiad y system 'ERW' flaenorol, yn enwedig yng ngoleuni'r strwythur staffio llai a oedd yn cyfateb i 26.8 o swyddi llawn amser. 

 

Rhoddwyd sicrwydd i'r Pwyllgor fod consortiwmPARTNERIAETH yn canolbwyntio ar ddull partneriaeth cydlynol, â dulliau cyfathrebu a monitro perfformiad cryf i fynd i'r afael ag anghenion ysgolion.  Er enghraifft, roedd rhaglen arweinyddiaeth yn cael ei datblygu yn unol â maes blaenoriaeth yr Awdurdod o ran sgiliau arwain.

 

Mewn ymateb i ymholiad, eglurodd Swyddog Arweiniol PARTNERIAETH y byddai gwaith craffu rheolaidd yn cael ei wneud i fonitro ac adolygu'rmodd y caiff nodau ac amcanion y consortiwm eu cyflawni.  Byddai pwyslais yn cael ei roi ar gydweithio fel cryfder allweddol, lle byddai'r system yn cael ei datblygu a'i strwythuro ar sail partneriaeth.

 

Cyfeiriwyd at y strwythur staffio a gofynnodd aelod a oedd angen rhagor o adnoddau i ddarparu cymorth o ansawdd tebyg i'r gwasanaeth rhagorol a ddarparwyd gan yr Ymgynghorwyr Her.  Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant fod y strwythur staffio yn cael ei ystyried yn briodol i fodloni nodau ac amcanion y consortiwm ac y byddai'n cael ei adolygu o bryd i'w gilydd yn unol â phrotocolau cynllunio olyniaeth i sicrhau bod sgiliau gweithwyr yn mynd i'r afael â'r gofynion o ran cymorth. 

 

Mewn ymateb i bryderon a godwyd ynghylch dyblygu gwaith, esboniwyd bod cyd-greu, gyda llinellau cyfathrebu clir, yn brif flaenoriaeth, a fyddai'n golygu bod modd defnyddio sgiliau a nodwyd o fewn y consortiwmi gynnig gwell darpariaeth i ysgolion.

 

Tynnodd aelod sylw at y ffaith y gallai'r gwahanol flaenoriaethau ar draws yr Awdurdodau yn y consortiwmolygu bod rhai Awdurdodau yn defnyddio mwy o adnoddau a chymorth nag eraill a holodd sut y byddai'r anghydbwysedd hwn yn cael ei unioni.  Roedd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant yn cydnabod y byddai pwysau o wahanol feysydd yn dod i'r amlwg ar wahanol adegau, ond pwysleisiwyd y byddai cyfathrebu rheolaidd a chlir yn cael ei gynnal ar lefel Cyfarwyddwr er mwyn sicrhau bod adnoddau'n cael eu defnyddio i ddiwallu anghenion y consortia, ynghyd â swyddogaeth graffu i sicrhau bod cyfran gyfartal o wasanaethau'n cael ei defnyddio ymhlith partneriaid. Tynnwyd sylw'r aelodau hefyd at y ffaith bod PARTNERIAETH yn endid llai â phrosesau rheoli cadarn i sicrhau na fyddai ceisiadau ychwanegol gan Awdurdodau allanol yn cael eu derbyn pe baent yn cael eu hystyried yn niweidiol i'r consortia.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

Dogfennau ategol: