Agenda item

SESIYNAU YMGYSYLLTU YSGOLION

Cofnodion:

Yn unol â'r Rhaglen Ymgysylltu ag Ysgolion y cytunwyd arni gan y Pwyllgor yn ei gyfarfod ar 30 Tachwedd 2021, cyflwynwyd adroddiad i'r Aelodau a oedd yn nodi pa mor barod oedd yr ysgolion am Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) ac am roi'r ddeddf honno ar waith.

 

Rhoddwyd trosolwg i'r Pwyllgor o'r amrywiaeth o fesurau a roddwyd ar waith gan yr Awdurdod i baratoi ar gyfer cyflwyno'r system Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY).  Yn hyn o beth, darparwyd crynodeb i'r Pwyllgor o'r gwaith ymgysylltu ag ysgolion hyd yn hyn er mwyn hwyluso'r broses o gyflwyno system addysg gwbl gynhwysol ar gyfer dysgwyr yn Sir Gaerfyrddin, a fyddai'n sicrhau bod anghenion dysgwyr yn cael eu nodi'n gynnar a'u diwallu'n gyflym, a lle mae pob dysgwr yn cael ei gefnogi i gyrraedd ei botensial.

 

Yna, cafodd y Pwyllgor gyflwyniad gan y cynrychiolwyr o'r ysgol a oedd yn canolbwyntio ar y broses o symud yr ysgol i'r system newydd. Nod y system hon oedd darparu strwythur addysgol teg a chynhwysol a sicrhau gwell canlyniadau i blant a phobl ifanc ag ADY. Roedd y pwyntiau allweddol dan sylw yn y cyflwyniad yn cynnwys y canlynol:

 

  • Roedd y system ADY yn ceisio trawsnewid y dulliau ar wahân ar gyfer anghenion addysgol arbennig er mwyn creu system unedig i gefnogi dysgwyr ag anghenion ychwanegol rhwng 0 a 25 oed.

 

  • Roedd yr egwyddorion trawsbynciol ar gyfer diwygio addysg sy'n deillio o ganllawiau a rheoliadau cenedlaethol yn galluogi cyfleoedd i newid a oedd yn ceisio darparu:

·       cydraddoldeb mynediad;

·       dysgu 'sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn' wedi'i bersonoli;

·       ffocws ar lesiant, drwy addysgu cytbwys a strwythuredig o ansawdd uchel ac asesu ystyrlon, gan symud i ffwrdd o ystadegau;

·       ethos ysgol cynhwysol i sicrhau amgylchedd dysgu diogel, cefnogol ac ysgogol;

·       diwylliant o gydweithio.

 

  • Byddai'r system ADY yn cael ei hategu gan God ADY gorfodol a fyddai'n rhoi barn, dymuniadau a theimladau dysgwyr wrth wraidd y broses o gynllunio'r cymorth sydd ei angen, a fyddai wedyn yn eu galluogi i ddysgu'n effeithiol a chyflawni eu potensial llawn.

 

  • Byddai Datganiadau Anghenion Addysgol Arbennig yn cael eu disodli gan Gynlluniau Datblygu Unigol yn raddol a fyddai'n nodi disgrifiad o ADY plentyn neu berson ifanc.

 

  • Ystyriwyd bod cysyniad addysgu cyffredinol da, yn ogystal ag ymyriadau pwrpasol, a'r angen i groesawu'r cwricwlwm a strategaethau newydd i gefnogi pob disgybl o'r pwys mwyaf i fodloni gofynion y Ddeddf.

 

  • Byddai'r Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol yn chwarae rhan strategol allweddol ym mhob ysgol.

 

Rhoddwyd sylw i nifer o arsylwadau ac ymholiadau, fel a ganlyn:

 

Mewn ymateb i ymholiad ynghylch rôl rhieni a gwarcheidwaid wrth ddatblygu Cynlluniau Datblygu Unigol, eglurodd y Cynrychiolwyr o'r Ysgol y dulliau cyfathrebu a oedd yn cael eu defnyddio i godi ymwybyddiaeth o'r system newydd.  Dywedwyd wrth y Pwyllgor bod rhieni a gwarcheidwaid yn cael eu rhoi wrth wraidd y broses, drwy gyfathrebu'n effeithiol ac yn rheolaidd â'r ysgol, er mwyn sicrhau darpariaethau ac addasiadau priodol i gefnogi anghenion plant a phobl ifanc ag ADY.  Sicrhawyd y Pwyllgor wrth nodi bod y broses yn gweithio'n dda hyd yn hyn, wrth i rieni a gwarcheidwaid chwarae rhan weithredol yn y gwaith o ddatblygu Cynlluniau Datblygu Unigol. Pwysleisiodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant fod y system newydd yn seiliedig ar ddull partneriaeth a oedd yn hyrwyddo perthynas agored ac adeiladol rhwng ysgolion a rhieni/gwarcheidwaid.  Yn hyn o beth, cyfeiriodd Rheolwr y Ddarpariaeth Anghenion Ychwanegol at y rhaglen ymgysylltu weithredol i ddarparu cymorth priodol i rieni/gwarcheidwaid.

 

Mewn ymateb i ymholiad ynghylch nifer y disgyblion â CDU, eglurodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant fod trawsnewid ADY yn rhan o gyfres o raglenni diwygio addysg yng Nghymru, lle byddai addysgu dosbarth cyfan cadarn a chyffredinol yn effeithio'n uniongyrchol ar y Ddarpariaeth Ddysgu Ychwanegol sydd ei hangen ar ddisgyblion ag ADY.

 

Gofynnwyd am eglurhad ynghylch y systemau sydd ar waith i gefnogi disgyblion mwy abl a thalentog yn yr ysgol, ynghyd â'r heriau y mae athrawon yn eu hwynebu i ddarparu rhaglenni astudio gwahaniaethol a phwrpasol i ddisgyblion.  Roedd y Cynrychiolwyr o'r Ysgol yn cydnabod yr amrywiaeth o alluoedd yn yr ysgol gan roi sicrwydd bod cymorth priodol yn cael ei ddarparu drwy raglenni a chynlluniau, i ddiwallu anghenion pob gr?p o ddysgwyr.  Yn hyn o beth, roedd y Cynrychiolwyr o'r Ysgol yn falch o roi gwybod bod cwricwlwm yr ysgol yn cael ei adolygu a'i addasu yn ôl yr angen; hefyd, roedd yr athrawon, gyda chyfraniad gwerthfawr Cynorthwywyr Addysgu, yn darparu ar gyfer anghenion disgyblion drwy addysgu cyffredinol cadarn.

 

Mewn ymateb i ymholiad ynghylch integreiddio disgyblion rhwng prif ffrwd yr ysgol a'r Ganolfan Cynhwysiant Arbenigol (Canolfan Elfed), dywedodd y Cynrychiolwyr o'r Ysgol fod Canolfan Elfed wedi derbyn gwobr genedlaethol yng Ngwobrau Addysgu Pearson i gydnabod yr ystod ragorol o adnoddau dysgu ar-lein cynhwysol ar gyfer disgyblion yn ystod pandemig coronafeirws. 

 

Gofynnwyd cwestiwn ynghylch y fformiwla ariannu ar gyfer ADY, ac a ystyriwyd bod hyn yn ddigonol i fodloni gofynion y Ddeddf.  Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant a Rheolwr y Ddarpariaeth Anghenion Ychwanegol y byddai'r dyraniad o £2m o gyllid ychwanegol ar gyfer 2022/23 yn cael ei gwblhau'n fuan, a hynny ar ôl ymgynghori ag ysgolion a chynrychiolwyr y Fforwm Cyllidebol.  Esboniwyd y byddai'r arbedion yn y dyfodol o ganlyniad i derfynu Datganiadau Anghenion Addysgol Arbennig yn cael eu bwydo'n ôl i'r system ac yn rhoi hyblygrwydd i ysgolion o ran defnyddio'r cyllid; fodd bynnag, oherwydd bod y rhaglen trawsnewid ADY yn cael ei rhoi ar waith yn raddol, cydnabuwyd na fyddid yn gweld yr arbedion am dair blynedd arall.

 

Cyfeiriwyd at y cwricwlwm cerdd ar gyfer ADY ac roedd Rheolwr y Ddarpariaeth Anghenion Ychwanegol yn falch o roi gwybod bod cyllid gan Lywodraeth Cymru wedi'i ddarparu ar gyfer ysgolion drwy'r grant Offerynnau Cerdd wedi'u Haddasu.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

Dogfennau ategol: