Cofnodion:
Ar ôl cynnal prawf budd y cyhoedd, PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 5 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddid yn datgelu gwybodaeth eithriedig a fyddai'n debygol o ddatgelu pwy yw'r unigolyn dan sylw.
Yr oedd y prawf budd y cyhoedd mewn perthynas â'r mater hwn yn ymwneud ag enw'r apelydd a manylion personol eraill, sef data personol yn unol â'r diffiniad yn Adran 1 o Ddeddf Diogelu Data 1998. Nid oedd y mater a fyddai'n cael ei ystyried gan y Pwyllgor yn fater budd cyhoeddus. Byddai datgelu'r wybodaeth oedd yn yr adroddiad yn annheg ac yn groes i hawl yr apelydd i gael preifatrwydd. Felly ar ôl cloriannu'r mater, yr oedd y budd i'r cyhoedd o ran cadw cynnwys yr adroddiad yn gyfrinachol yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran datgelu'r wybodaeth.
Estynnodd y Cadeirydd groeso i'r cyfarfod i'r apelydd a chynrychiolydd undeb llafur, ynghyd â'r Swyddog Ymchwilio penodedig a'r cynrychiolydd Adnoddau Dynol, ac amlinellodd y protocol y byddid yn ei ddilyn wrth wrando ar yr apêl (dosbarthwyd copïau o'r protocol ym mhecyn yr agenda.)
Gan hynny, gwrandawodd y Pwyllgor ar dystiolaeth gan y Swyddogion Ymchwilio, a chan yr apelydd a chynrychiolydd undeb llafur. Cafodd y ddwy ochr gyfle i groesholi ynghylch y dystiolaeth a roddwyd ac i grynhoi. Ar ôl gwneud hynny, gadawodd y ddwy ochr y cyfarfod tra oedd y Pwyllgor yn ystyried y dystiolaeth a’r sylwadau a gyflwynwyd.
Ar ôl i'r Pwyllgor ystyried yr holl dystiolaeth a gyflwynwyd, ynghyd â'r sylwadau a wnaed gan yr apelydd, cynrychiolydd undeb llafur a'r Swyddogion Ymchwilio,
PENDERFYNWYD bod yr apêl yn cael ei gwrthod a bod yr apelydd yn cael ei hysbysu'n ysgrifenedig o'r rhesymau llawn dros wrthod yr apêl.
Dogfennau ategol: