Cofnodion:
Yn sgil cynnal y prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod 3 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad am ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig ynghylch materion ariannol neu faterion busnes unrhyw unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf).
Roedd y prawf budd y cyhoedd o ran y mater hwn yn ymwneud â'r ffaith fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth am hanes ariannol y talwr ardrethi unigol a/neu wybodaeth bersonol amdano. Roedd y budd i'r cyhoedd o ran cynnal yr eithriad o dan baragraff 14 o Atodlen 12A i Ddeddf 1972 yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran datgelu'r wybodaeth yn yr adroddiad gan y byddai datgelu yn golygu y byddai gwybodaeth am y busnes dan sylw yn cael ei datgelu heb gyfiawnhad, a fyddai'n achosi anfantais gystadleuol.
Bu'r Aelod o'r Cabinet yn ystyried ceisiadau am Ryddhad Caledi o dan ddarpariaethau Adran 49 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 fel y'i diwygiwyd.
PENDERFYNWYD
5.1 |
Caniatáu cais cyfeirnod 80028047-3; |
5.2 |
Gohirio ystyried cais cyfeirnod 80024124-6 er mwyn ceisio gwybodaeth ychwanegol. |
Dogfennau ategol: