Agenda item

YMESTYN GORCHYMYN GWARCHOD MANNAU CYHOEDDUS (GORCHMYNION CŴN SIR GAERFYRDDIN)

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor adroddiad a gyflwynwyd gan yr Aelod Cabinet dros Ddiogelu'r Cyhoedd mewn perthynas ag ymestyn y Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus presennol a oedd yn dod i ben ddiwedd mis Mehefin am 3 blynedd arall.

 

Esboniodd yr Aelod Cabinet yn amodol ar nifer o eithriadau a chyfyngiadau, roedd y Gorchymyn Gwreiddiol yn ei gwneud yn ofynnol i bobl:

·       Godi baw eu c?n ar yr holl dir cyhoeddus yn y Sir.

·       Rhoi a chadw eu c?n ar dennyn drwy gyfarwyddyd.

·       Peidio â mynd â'u c?n ar unrhyw fannau chwarae caeedig i blant yn y Sir na gadael i'w c?n fyned i nac aros ar unrhyw fannau o'r fath.

 

Eglurodd yr Aelod Cabinet ymhellach fod cyfnod ymgynghori wedi'i dargedu ar ymestyn y Gorchymyn wedi'i gynnal gyda nifer o ymgyngoreion statudol a rhanddeiliaid perthnasol eraill, ac roedd rhestr wedi'i chynnwys yn yr adroddiad.  Fodd bynnag, roedd yn amlwg bod nifer o ymatebion wedi dod i law gan unigolion a sefydliadau nad oedd wedi'u gwahodd i ymateb. Cafwyd 43 o ymatebion gydag 85% o'r ymatebwyr hynny yn cefnogi ymestyn y Gorchymyn presennol am gyfnod o 3 blynedd.

 

Dywedwyd bod nifer o ymatebwyr wedi rhoi sylwadau / awgrymiadau i’r ymgynghoriad a bod y sylwadau a'r ymatebion yn Atodiad 8 yr adroddiad.

 

Nododd Aelodau'r Pwyllgor fod yr adroddiad hwn yn ceisio ymestyn hyd Gorchymyn 2016 a byddai angen gwneud Gorchymyn Estyn newydd, ac roedd Gorchymyn drafft wedi'i atodi i'r adroddiad yn Atodiad 2.  Dywedwyd y byddai'r Awdurdod, yn amodol ar ymgynghoriad ar wahân, yn gallu ystyried rheolaethau ac amodau ychwanegol i'w hychwanegu at y Gorchymyn presennol yn y dyfodol a bod ymarfer ymgysylltu'n cael ei gynnal ar hyn o bryd i geisio barn ehangach.

 

Holwyd ynghylch y canlynol mewn perthynas â'r adroddiad:-

 

·      Mewn ymateb i ymholiad a godwyd ynghylch Hysbysiadau Cosb Benodedig, eglurodd yr Aelod Cabinet dros Ddiogelu'r Cyhoedd fel y nodwyd yn 3.1 o'r adroddiad, ers i Orchymyn 2016 ddod i rym cafwyd  3002 o gwynion  mewn perthynas â baw c?n (hyd at 31/12/2021)  Roedd 100 o docynnau cosb benodedig wedi'u rhoi ac roedd 6 erlyniad wedi'u rhoi ar waith i droseddwyr nad oedd wedi talu'r hysbysiad cosb benodedig.  Pwysleisiwyd mai'r anhawster oedd y byddai'n rhaid i swyddog gorfodi fod yn dyst i'r digwyddiad ar adeg y drosedd er mwyn gallu cyflwyno hysbysiad cosb benodedig.

 

·      Gofynnwyd a oedd modd gorfodi'r Gorchymyn y tu allan i le caeedig ac a oedd palmentydd yn cael eu cynnwys?  Eglurodd y Pennaeth Gwasanaethau Amgylcheddol a Gwastraff fod y Gorchymyn yn cwmpasu unrhyw dir cyhoeddus ac y byddai mannau caeedig â ffens fel maes chwarae i blant yn cynnwys parth dim c?n.  Eglurwyd bod llwybrau troed yn cael eu cynnwys fel tir cyhoeddus ac felly'n dod o dan y Gorchymyn.

 

·      Gan gyfeirio at yr ymateb gan y Kennel Club fel rhan o'r ymgynghoriad, dywedwyd bod yn rhaid i ffermwyr ddarparu dogfennau i brofi eu bod yn trin eu c?n o ran llyngyr er mwyn cael yswiriant. Fodd bynnag, mynegwyd bod perchnogion c?n yn gallu cerdded eu c?n ar lwybrau cyhoeddus a chroesi tir amaethyddol gan achosi pryder o ran trosglwyddo llyngyr i wartheg a defaid.  Gofynnwyd a oedd modd cynnwys bod gan y tirfeddiannwr yr hawl i holi perchennog y ci a oedd yn trin y ci o ran llyngyr.  Roedd yr Aelod Cabinet dros Ddiogelu'r Cyhoedd wedi cydnabod yr ymholiad fel pryder a chytunodd i gynnwys y mater fel rhan o'r ymgynghoriad yn y dyfodol.  Roedd yr Aelod Cabinet yn cydnabod y pryder a byddai'n ei gynnwys yn yr ymgynghoriad.

 

·      Mewn ymateb i ymholiad, cadarnhaodd yr Aelod Cabinet dros Ddiogelu'r Cyhoedd, a gadarnhawyd gan y Pennaeth Gwasanaethau Amgylcheddol a Gwastraff, fod gan Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu y p?er i roi hysbysiadau cosb benodedig i berchnogion nad oedd yn codi baw eu c?n ac mae hyn yn ategu'r gwaith a wneir gan swyddogion gorfodi'r Cyngor.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CABINET:

 

4.1 Bod hyd Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus (Rheoli C?n) Cyngor Sir Caerfyrddin yn cael ei ymestyn am gyfnod pellach o 3 blynedd o 1 Gorffennaf 2022 ymlaen;

 

4.2 Bod y Cyngor yn gwneud Gorchymyn Estyn i weithredu'r estyniad uchod ac yn cymeradwyo Gorchymyn 2016 â geiriad addas er mwyn adlewyrchu'r ffaith fod hyd Gorchymyn 2016 wedi cael ei ymestyn.

 

 

Dogfennau ategol: