Agenda item

RHAGLEN GYFALAF BUM MLYNEDD (CRONFA'R CYNGOR) - 2022/23 - 2026/27

Cofnodion:

[NODER: Roedd y Cynghorydd C.A. Davies wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]

 

Bu'r Cabinet yn ystyried adroddiad a oedd yn dwyn ynghyd y cynigion diweddaraf am Raglen Gyfalaf Bum Mlynedd (Cronfa'r Cyngor) 2022/23 hyd at 2026/2027. Roedd yr adroddiad yn cymryd i ystyriaeth yr ymgynghoriad a gynhaliwyd a'r goblygiadau refeniw oedd yn deillio o'r rhaglen gyfalaf.

 

Byddai'r rhaglen newydd yn gweld buddsoddiad o £275m dros bum mlynedd. Byddai'r rhaglen yn cael ei chefnogi gan gyllid gan Lywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU, ac adnoddau'r cyngor ei hun. Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau fod y rhaglen yn cynnwys dau brosiect trawsnewidiol newydd. Y cyntaf yw hwb gwerth £19.6m yng nghanol Canol Tref Caerfyrddin a'r ail yw buddsoddiad gwerth £19m i gwblhau Llwybr Dyffryn Tywi rhwng Caerfyrddin a Llandeilo. Fel rhan o'r prosiect, byddai £366k ar gael i uwchraddio'r ddarpariaeth parcio. Byddai cyllid ychwanegol o £16m hefyd ar gael ar gyfer Parth 1 datblygiad Pentre Awel yn Llanelli, gan ddwyn cyfanswm y buddsoddiad yn y prosiect i £87m.

 

Dywedwyd wrth y Cabinet, yn ogystal â'r uchod, fod cefnogaeth barhaus i'r canlynol:

  • £2.5m ar gyfer Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl
  • £250k i wella Diogelwch ar y Ffyrdd
  • £600k ar gyfer Adnewyddu Priffyrdd yn barhaus
  • £400k ar gyfer Goleuadau Cyhoeddus
  • £3m ar gyfer Cynnal a Chadw Cyfalaf ar gyfer buddsoddi mewn ystad eiddo.

 

Byddai creu dyfarniad blynyddol newydd o £250k yn dechrau yn 2022/23 ar gyfer seilwaith draenio priffyrdd yn helpu i wneud y rhwydwaith priffyrdd yn fwy gwydn yn wyneb tywydd garw yn y dyfodol ac yn lleihau perygl llifogydd. Gwelwyd hefyd y bwriad i barhau â'r dyraniad blynyddol o £66k i Hawliau Tramwy a Chilffyrdd yn 2026/27.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau y byddai buddsoddiadau pellach yn cael eu gwneud ar draws y rhaglen:

  • Byddai'r adran addysg yn gweld bod cyllid ar gael i gwblhau'r cilfannau bysiau newydd yn Ysgol Dyffryn Taf, a dyfarniad blynyddol o £500k yn cael ei gyflwyno ar gyfer gwaith addysg cyffredinol.
  • Byddai'r adran Cymunedau'n cael Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl gyda chynnydd mewn buddsoddiad o £500k i £2.5m y flwyddyn yn 2025/26, gan ddod â chyfanswm y buddsoddiad dros y 5 mlynedd i £10.5m. O fewn y portffolio hamdden cynigiwyd cynnydd o £1m mewn cyllid i uwchraddio'r cae 3G yng Nghanolfan Hamdden Dyffryn Aman gan ddwyn cyfanswm y cyllid sydd ar gael ar gyfer y prosiect i £2m.
  • O ran adran yr Amgylchedd, cynlluniwyd £150k ar gyfer 2022/23 a 2023/24 i roi arian cyfatebol ar gyfer gwaith rheoli llifogydd a lliniaru llifogydd. £4.7m ar gyfer cerbydau sbwriel ac ailgylchu newydd, ynghyd â £1m ychwanegol o gronfeydd wrth gefn, sef cyfraniad arian cyfatebol yr awdurdod at y Strategaeth Wastraff a fyddai'n cyflwyno cynllun didoli wrth ymyl y ffordd ar gyfer casgliadau ailgylchu. 

 

Er mwyn lliniaru effaith y diffyg cymorth gan Lywodraeth Cymru yn benodol ar gyfer buddsoddi mewn priffyrdd, dywedwyd wrth y Cabinet fod y rhaglen yn cynnwys £2.4m o arian newydd a ariannwyd o gronfeydd wrth gefn y cyngor. Byddai hyn yn ychwanegol at y £600k yn y rhaglen dreigl flynyddol. Cadarnhaodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau fod £1.3m o gyllid cyfalaf cyffredinol heb ei neilltuo a oedd ar gael i'r Awdurdod yn hwyr yn y flwyddyn ariannol gyfredol 2021-22 hefyd wedi'i glustnodi ar gyfer gwelliannau i'r priffyrdd. Gyda'i gilydd, hwn oedd y buddsoddiad unigol mwyaf o £4.3m mewn seilwaith priffyrdd lleol gan y Cyngor yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

 

Rhagwelwyd y bydd £1.34m o gyllid gan Lywodraeth Cymru o 2023/24 ymlaen yn ariannu prosiectau datgarboneiddio ac felly roedd wedi'i gynnwys yn y rhaglen. Fodd bynnag, o gofio na fyddai'r cyllid hwn ar gael tan ail flwyddyn y rhaglen, cynigiwyd darparu £500k o gronfeydd wrth gefn y cyngor yn 2022/23 i roi hwb i fesurau datgarboneiddio ar draws yr ystâd adeiledig. 

 

Byddai £2.7m a ddyrannwyd ar gyfer Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu (TGCh) ar draws y rhaglen yn cael ei gynnal, gan gynnwys cyllid blynyddol o £200k i gefnogi prosiectau trawsnewidiol digidol ar draws gwasanaethau'r cyngor.

 

Fel rhan o setliad eleni, darparodd Llywodraeth Cymru ffigurau dangosol o ran cyllid cyfalaf cyffredinol hyd at 2024/25. Roedd y cyllid ar gyfer blynyddoedd pedwar a phump y rhaglen yn seiliedig ar lefel dybiedig o gymorth sy'n cyfateb i'r hyn a dderbyniwyd yn 2024/25 wrth symud ymlaen. Nodwyd bod cyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer 2022/23 £1.8m yn llai na'r hyn a dderbyniwyd yn 2021/22 a oedd yn annisgwyl. O ystyried y buddsoddiadau sylweddol ym mlynyddoedd 1 a 2 y rhaglen a'r setliad cyfalaf is gan Lywodraeth Cymru, cynigiwyd defnyddio benthyca heb gymorth, tymor byr, i atal yr hyn a fyddai fel arall yn ddiffyg cyllid ar ddechrau'r rhaglen. Byddai hyn yn cael ei ad-dalu ym mlynyddoedd 3, 4 a 5 y rhaglen.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet fod Atodiad A i'r adroddiad yn manylu ar y rhaglen lawn, a ariannwyd yn llawn am y pum mlynedd.

 

Nododd y Cabinet mai Atodiad C oedd dogfen Strategaeth Gyfalaf y cyngor, a oedd yn ofynnol gan gôd darbodus ar gyfer cyllid cyfalaf. Mae'r ddogfen hon yn manylu ar y cyd-destun tymor hir o ran y penderfyniadau ar wariant cyfalaf a buddsoddi, ac yn rhoi ystyriaeth briodol i risg a gwobrwyo, a'r effaith ar gyflawni ar ganlyniadau blaenoriaethol. 

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR:-

 

6.1

Bod y Rhaglen Gyfalaf Bum Mlynedd a'i chyllid, fel y'u nodwyd yn Atodiad A yr adroddiad, gyda 2022/23 yn gyllideb bendant a chyllidebau 2023/24 i 2026/27 yn gyllidebau amhendant/dangosol yn cael eu cymeradwyo;

6.2

Bod y rhaglen yn cael ei hadolygu, yn ôl yr arfer, oni lwyddir i gael y cyllid disgwyliedig gan gyrff allanol neu'r Cyngor Sir;

6.3

Bod y Strategaeth Gyfalaf, fel y manylir arni yn Atodiad C, yn cael ei chymeradwyo;

6.4

Bod Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol, mewn ymgynghoriad â'r Prif Weithredwr, yr Arweinydd a'r Aelod Cabinet dros Adnoddau, yn cael awdurdod dirprwyedig i wneud unrhyw addasiadau angenrheidiol o ganlyniad i setliad terfynol Llywodraeth Cymru a oedd i'w gyhoeddi ar 1 Mawrth 2022.

 

 

Dogfennau ategol: