Agenda item

STRATEGAETH CYLLIDEB REFENIW 2022/23 i 2024/25

Cofnodion:

Bu'r Cabinet yn ystyried adroddiad a oedd yn rhoi'r cynigion diweddaraf ar gyfer y Strategaeth Cyllideb Refeniw ar gyfer 2022/23 a'r ddwy flynedd ariannol ganlynol.

 

Roedd yr adroddiad yn crynhoi'r sefyllfa ddiweddaraf o ran y gyllideb ac yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddilysu'r gyllideb, y gwasgfeydd o ran gwariant, setliad terfynol Llywodraeth Cymru, a'r ymatebion i'r ymgynghoriad ynghylch y gyllideb.

 

Amlinellodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau nifer o ffactorau a oedd yn dylanwadu ar y gyllideb, gan gynnwys y ffaith na fyddai'r setliad terfynol gan Lywodraeth Cymru yn dod i law tan 1 Mawrth 2022. Gan ystyried cyhoeddi'r setliad terfynol yn hwyr, dywedodd fod elfennau allweddol o ragdybiaethau a dyraniadau'r gyllideb wedi'u hadolygu ac wedi rhoi rhywfaint mwy o gyfle i'r awdurdod ailedrych ar rai o gynigion gwreiddiol y gyllideb. 

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau fod manylion llawn y setliad amodol, a oedd wedi'u cynnwys yn yr adroddiad, yn nodi bod cyllid Llywodraeth Leol ar sail Cymru gyfan wedi cynyddu 9.4% ar gyfartaledd ar setliad 2021/22, ac mai dyraniad Sir Gaerfyrddin oedd 9.2% (£311.597m).

 

Er bod y setliad hwnnw wedi galluogi'r awdurdod i ddyrannu cyllid yn ei gyllideb ar gyfer nifer sylweddol o wasgfeydd chwyddiant a rhai na ellid eu hosgoi, roedd dal angen gwneud arbedion.

 

Roedd y gyllideb ddrafft gychwynnol wedi cynnwys swm wrth gefn o £3.5m mewn perthynas â chostau parhaus a refeniw masnachol a gollwyd. Cadwyd y swm hwn yn y gyllideb derfynol a phwysleisiwyd mai dyma'r risg fwyaf o hyd i'r cyllidebau wrth symud ymlaen.

 

Cyfeiriodd yr Aelod Cabinet at y setliad terfynol gan Lywodraeth Cymru, a oedd i'w gyhoeddi ar 1 Mawrth 2022, a dywedodd fod yr adroddiad yn ceisio awdurdod i Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol, ar y cyd â'r Arweinydd, y Prif Weithredwr, a'r Aelod Cabinet dros Adnoddau, wneud unrhyw addasiadau angenrheidiol i Strategaeth y Gyllideb cyn cyfarfod y Cyngor Sir ar 2 Mawrth 2022. Fodd bynnag, nodwyd bod Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol wedi gwneud rhai addasiadau i rai o'r ffigurau eraill yn yr adroddiad, fel rhan o'r drefn arferol wrth i wybodaeth gliriach fod ar gael, gyda chyfanswm y dilysiad presennol yn ychwanegu rhyw £16.2m at y gyllideb.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros adnoddau fod y gyllideb yn cynnal y cyflog tybiedig o 4% o lwfans ar gyfer y flwyddyn nesaf ar gyfer y Cyd-gyngor Cenedlaethol yn ogystal â staff addysgu, a dyma'r dilysiad mwyaf sylweddol o hyd a gynhwyswyd yn y rhagdybiaethau. Roedd hyn yn unol â disgwyliadau cyffredinol a chydnabu fod chwyddiant yn cynyddu'n llawer uwch na 5%.

 

Nodwyd bod newidiadau i rai o'r rhagdybiaethau allweddol megis cynnydd mewn prisiau ynni, a rhyddhau cyfraniad cyfalaf datblygu economaidd y llynedd yn rhoi cyfle i wneud rhai newidiadau ac amlygwyd y canlynol:

  • £50k ychwanegol i ariannu capasiti ychwanegol yn yr adain hawliau tramwy cyhoeddus,
  • £190k o gyllid ychwanegol ar gyfer costau prydau ysgol yn dilyn hysbysiad diweddar o gynnydd mewn prisiau cyflenwyr.

 

Atgoffwyd y Cabinet gan yr Aelod Cabinet dros Adnoddau, yn seiliedig ar setliad amodol y gyllideb, fod rhywfaint o gyfle i wneud newidiadau i'r strategaeth, a'i fod wedi cytuno'n flaenorol i leihau'r cynnydd yn y Dreth Gyngor ar gyfer 2022/23 i 2.50%, a thrwy hynny ddarparu swm o £1,795k i ymateb i'r ymgynghoriad ar y gyllideb. Felly, cynigodd yr arbedion canlynol:-

·         dileu'r gostyngiad arfaethedig o £15k i grantiau'r 3ydd sector,

·         dileu'r gostyngiad staffio o £95,000 i TGCh,

·         atal y cynlluniau i gyflwyno taliadau mewn rhagor o feysydd parcio

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet, wedi cynnig y newidiadau uchod, fod digon o arian ar gael i gapio'r cynnydd yn y dreth gyngor i 2.50% ar gyfer 2022/23. Byddai'r cynigion hynny, pe baent yn cael eu mabwysiadu, yn cyflwyno cyllideb deg a chytbwys i'r Cyngor.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR:-

 

5.1

Bod Strategaeth Cyllideb 2022/23 yn cael ei chymeradwyo;

5.2

Bod Treth Gyngor Band D yn 2022/23 yn cael ei gosod ar £1,396.04 (cynnydd o 2.50% ar gyfer 2022/23);

5.3

Dileu cynigion arbedion penodol fel y nodir ym mharagraff 3.2.5 o'r adroddiad ac a nodir uchod;

5.4

Bod y newidiadau i'r gyllideb fel y'u crynhoir ym mharagraff 4.1.4 o'r adroddiad gan ystyried yr ystod o ymatebion a gafwyd yn ystod y broses ymgynghori a'r pwysau ychwanegol fel y nodwyd yn yr adroddiad yn cael eu cymeradwyo;

5.5

Bod y Cynllun Ariannol Tymor Canolig amodol yn cael ei gymeradwyo yn sylfaen i gynllunio ariannol ar gyfer y blynyddoedd sydd i ddod;

5.6

Bod Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol, mewn ymgynghoriad â'r Prif Weithredwr, yr Arweinydd a'r Aelod Cabinet dros Adnoddau, yn cael awdurdod dirprwyedig i wneud unrhyw newid sy'n angenrheidiol o ganlyniad i setliad terfynol Llywodraeth Cymru a oedd i'w gyhoeddi ar 1 Mawrth 2022.

 

 

Dogfennau ategol: