Agenda item

CAIS AM DRWYDDED SAFLE MC DONALD'S, HEOL DINBYCH Y PYSGOD, SANCLÊR, SIR GÂR SA33 4JW

Cofnodion:

Rhoddodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol wybodaeth i bawb oedd yn bresennol am drefn y cyfarfod, a oedd wedi’i gynnull i ystyried cais a dderbyniwyd gan McDonald’s Restaurant Limited am drwydded safle i ganiatáu:

 

Lluniaeth hwyrnos o ddydd Llun i ddydd Sul rhwng 23:00 a 05:00

Oriau Agor dydd Llun hyd at ddydd Sul 05:00-05:00.

 

Roedd y cais wedi ei roi gerbron yr Is-bwyllgor ar ôl derbyn nifer o gwynion ynghylch gweithrediad y safle o safbwynt s?n, ymddygiad gwrthgymdeithasol a throsedd ac anhrefn.

 

Nododd yr Is-bwyllgor fod y dogfennau canlynol ynghlwm wrth yr adroddiad:-

 

Atodiad A – Y Cais gwreiddiol am Adolygiad;

Atodiad B – Sylwadau'r Awdurdod Trwyddedu;

Atodiad C– Sylwadau Heddlu Dyfed-Powys;

Atodiad D – Sylwadau Iechyd yr Amgylchedd

Atodiad E – Sylwadau eraill.

 

Yn ogystal â’r uchod, cyhoeddwyd agenda atodol a’i dosbarthu i bob parti cyn y cyfarfod y diwrnod hwnnw i gynnwys y wybodaeth ganlynol yn ogystal â’r Atodiadau:-

 

1.    Sylwadau Ychwanegol gan Bobl;

2a. Sylwadau Diwygiedig Iechyd yr Amgylchedd;

2b. Llyfr Gwaith Gorchymyn Ymddygiad Gwrthgymdeithasol McDonalds;

2c. Cynllun Rheoli Sbwriel Mc Donald's;

2d. Yr Arolygiaeth Gynllunio – Penderfyniad Apêl.

 

Cyfeiriodd yr Arweinydd Trwyddedu at ei sylwadau ysgrifenedig, y manylwyd arnynt yn Atodiad B1 i’r adroddiad, a oedd yn rhoi sylw i'r cais a’i ymateb iddo gan gynnwys, mewn perthynas â’r adrannau perthnasol o’r Canllawiau Statudol a Pholisi Trwyddedu Lleol y Cyngor. Dywedodd fod yr Awdurdod Trwyddedu yn cefnogi'r cais a'r amodau, a gynigiwyd gan yr Awdurdodau Cyfrifol; Heddlu Dyfed-Powys a Gwasanaeth Iechyd yr Amgylchedd, fel y'i diwygiwyd.

 

Rhoddwyd cyfle i'r holl bartïon oedd yn bresennol holi'r Arweinydd Trwyddedu ynghylch ei sylwadau.

 

Dywedodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol wrth yr Is-bwyllgor y cytunwyd ar sylwadau gan Heddlu Dyfed Powys (Atodiad C) ac felly nad oedd cynrychiolydd yr Heddlu yn bresennol.  Yn ogystal, cytunwyd ar y sylwadau gan Ymarferydd Iechyd yr Amgylchedd (Atodiad D) ac felly nid oedd Mr Aled Morgan yn bresennol.

 

Cafodd yr Is-bwyllgor wedyn sylwadau gan bartïon â diddordeb yn gwrthwynebu’r cais am drwydded safle i ganiatáu oriau gweithredu estynedig i ddarparu ‘Lluniaeth Hwyrnos o Ddydd Llun i Ddydd Sul 23:00 – 05:00; Oriau Agor Dydd Llun i Ddydd Sul 05:00 – 05:00 ar y seiliau y manylir arnynt yn Atodiad E i'r adroddiad.

 

Derbyniwyd sylw gan y Cynghorydd Lleol P. M. Hughes yn gwrthwynebu’r cais, ac fe gyfeiriodd at ei sylwadau ysgrifenedig, fel y manylwyd arnynt yn Atodiad E1 i’r adroddiad a thynnodd sylw at y pryderon a ganlyn:-

 

  • Cynnydd mewn sbwriel ac ymddygiad gwrthgymdeithasol;
  • Potensial i fod yn llwybr i osgoi traffig ar gyfer pobl ifanc yn gyrru’n wyllt;
  • Cynnydd mewn symudiadau traffig yn arwain at gynnydd mewn s?n, llygredd aer a llygredd golau a rhagwelwyd y byddai hyn oll yn creu niwsans cyhoeddus i'r holl drigolion ac yn arbennig y rhai sy'n agos at y safle.

 

Yn ogystal, gofynnodd y Cynghorydd Hughes i'r Is-bwyllgor ohirio ei benderfyniad tan ar ôl Ymweliad Safle er mwyn gweld gosodiad y safle a'r fynedfa iddo.

 

Rhoddwyd cyfle i'r holl bartïon oedd yn bresennol holi'r Cynghorydd lleol ynghylch ei sylwadau.

 

Derbyniwyd sylwadau llafar gan y trigolion lleol canolynol yn gwrthwynebu’r cais gan gyfeirio at eu sylwadau ysgrifenedig yn Atodiad E:

 

·         Mrs Jane Jones - fel y manylir yn Atodiad E3 i'r adroddiad;

·         Mrs Wendy Hill (ar ran Mrs Shirley Taylor) - fel y manylir yn Atodiad E4 i'r adroddiad;

·         Mrs Alison Griffiths - fel y manylir yn Atodiad E9 i'r adroddiad;

·         Mrs Ann Morgan - fel y manylir yn Atodiad E16 i'r adroddiad;

·         Mr Simon Evans - fel y manylir yn Atodiad E17 i'r adroddiad;

·         Mrs Rhian Owens a Mr Gareth Owens - fel y manylir yn Atodiad E19 i'r adroddiad.

 

I grynhoi, roedd y prif feysydd pryder yn ymwneud â'r canlynol:-

 

·         Mae safle McDonald’s wedi’i amgylchynu gan eiddo preswyl a phe byddai’r cais yn cael ei ganiatáu byddai cynnydd drwy gydol y nos mewn:

§  Symudiadau Traffig

§  Llygredd S?n

§  Llygredd Golau

§  Problemau Iechyd Meddwl/amddifadedd cwsg

 

·         Pe byddai'r cais yn cael ei ganiatáu byddai'n niweidiol i lesiant y trigolion lleol.

 

·         Mae'r McDonalds agosaf sydd ar agor 24 awr ond 10 munud i ffwrdd yng Nghaerfyrddin ac mae mewn ardal amhreswyl.

 

·         Roedd y safle yn gwneud i drigolion oedrannus deimlo'n agored i niwed.

 

·         Does dim/neu ychydig iawn o gyfathrebu sydd wedi bod rhwng y datblygwyr a thrigolion lleol.

 

·         Roedd pryderon am ymddygiad gwrthgymdeithasol a’r potensial y byddai cwsmeriaid McDonald’s yn defnyddio strydoedd preifat i fwyta eu prydau.

 

·         Roedd y gwaith monitro traffig cychwynnol mewn man nad oedd yn cynnwys ardal Starbucks/Travelodge ac felly nid oedd yn adlewyrchiad realistig o'r traffig presennol o amgylch y safle dan sylw.

 

·         Byddai'r bwyd cyflym 24 awr yn cael effaith andwyol ar iechyd trigolion ac yn ychwanegu at ordewdra.

 

·         Roedd pryderon ynghylch gwallau drwy gydol yr Asesiad o'r Effaith ar S?n (D19 o'r adroddiad).

 

·         Cynnydd mewn sbwriel yn yr ardal gyfagos.

 

·         Byddai'r cais o fawr ddim/ychydig iawn o fudd i fusnesau lleol.

·         Rhoddwyd caniatâd cynllunio gwreiddiol ar sail oriau gweithredu arferol yn unig.  Byddai caniatáu'r cais hwn yn gosod cynsail i geisiadau yn y dyfodol gael statws 24/7.

 

·         Roedd pryder yngl?n â diogelwch cwsmeriaid sy'n mynychu'r safle ar droed.

 

·         Gallai gael effaith andwyol ar Sanclêr gan ei bod yn dref breswyl fechan sydd ag ychydig iawn o seilwaith.

 

·         Teledu Cylch Cyfyng – roedd pryderon mai dim yn y bwyty yr oedd teledu cylch cyfyng wedi'i osod ac nad oedd ar gael yn y maes parcio na'r ardaloedd cyfagos.

 

·         Roedd pryderon ynghylch pa ddarpariaeth fyddai mewn lle i fonitro llygredd golau/s?n.

 

·         Croesawyd a chefnogwyd Ymweliad Safle cyn i'r penderfyniad gael ei wneud.

 

Rhoddwyd cyfle i'r holl bartïon holi pob parti ynghylch y sylwadau a wnaed.

 

Rhoddwyd cyfle i Mr Charalambides, Cwnsler yr ymgeisydd ymateb i’r pwyntiau a godwyd, wedi’u crynhoi fel a ganlyn:-

 

·         Cais am oriau estynedig yn unig oedd hwn a byddai llawer o'r pwyntiau a godwyd wedi cael eu hystyried yn y materion cynllunio a ganiatawyd yn flaenorol ac felly nid oedd yn briodol i'w hystyried yn y cyfarfod hwn.

·         Roedd mesurau wedi’u rhoi ar waith i liniaru effeithiau andwyol e.e. Llyfr Gwaith Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Cynllun Rheoli Sbwriel ac ati.

 

·         Dywedwyd na fyddai Ymweliad Safle yn briodol i'r cais dan sylw a gallai annog trigolion lleol i godi materion ymhellach na fyddai'n unol â'r canllawiau trwyddedu statudol.

 

·         Byddai deiliad y fasnachfraint yn monitro golau/s?n/sbwriel drwy asesiad risg parhaus.

 

·         Cyfathrebwyd â thrigolion lleol ac esboniwyd y dulliau hynny.

 

·         Pe byddai'r cais yn cael ei wrthod, byddai'r safle yn dal ar agor o 5am i 11pm bob dydd a heb unrhyw un o amodau'r drwydded arfaethedig.

 

·         Roedd yr Heddlu wedi cynnwys mater darpariaeth teledu cylch cyfyng yn ei amodau.

 

·         Roedd y 3 Awdurdod Cyfrifol wedi cyflwyno eu sylwadau, ac nid oedd yr un ohonynt yn gwrthwynebu'r cais, yn amodol ar gadw at amodau penodol.

 

Rhoddwyd cyfle i'r holl bartïon ofyn cwestiynau i Mr Charalambides ynghylch ei sylwadau a'i ymatebion.

 

 

 

PENDEFYNODD YR IS-BWYLLGOR YN UNFRYDOL I gynnal sesiwn preifat er mwyn cael cyngor cyfreithiol yn unol â Pharagraff 16, Atodlen 12 i'r Ddeddf Llywodraeth Leol.

 

O ystyried y paragraffau perthnasol yn Natganiad Polisi Trwyddedu yr Awdurdod Trwyddedu a'r Canllawiau Statudol a gyhoeddwyd o dan adran 182 o Ddeddf Trwyddedu 2000, yn enwedig y rhai a nodwyd yn yr eitem ar yr agenda, a pharagraff 2.21, y cyfeiriwyd ato gan gwnsler ar ran yr ymgeiswyr:

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, ar ôl ystyried yr holl dystiolaeth a oedd wedi ei rhoi gerbron, fod y cais yn cael ei ganiatáu, a hynny'n unol â'r amodau trwyddedu yr oedd yr Ymgeisydd a'r Awdurdodau Cyfrifol wedi cytuno arnynt.

RHESYMAU

 

Wrth benderfynu ar y cais, yr oedd y ffeithiau canlynol yn hysbys i'r Is-bwyllgor;

 

1.    Mae'r safle ar gyrion Sanclêr yn agos at briffordd brysur.

2.    Mae'r safle a'r fynedfa i'r safle yn agos i nifer o eiddo preswyl.

3.    Mae'r safle yn rhan o ddatblygiad ehangach sydd â chaniatâd cynllunio ar gyfer mannau gwerthu bwyd eraill, a gorsaf betrol.

 

4.    Mae'r heddlu a gwasanaethau iechyd y cyhoedd wedi cyflwyno sylwadau ynghylch gosod amodau trwydded yn y safle y mae'r ymgeiswyr wedi cytuno iddynt.

 

5.    Nid oedd dim un o'r Awdurdodau Cyfrifol oedd wedi cyflwyno sylwadau wedi gwrthwynebu caniatáu'r cais mewn egwyddor.

 

6.    Pe bai'r cais yn cael ei wrthod, byddai'r safle'n dal i allu agor o 5am i 11pm bob dydd ac ni fyddai unrhyw un o amodau'r drwydded arfaethedig yn berthnasol wedyn.

 

Cydnabu'r Is-bwyllgor nad oedd y cais hwn yn ailadrodd y broses ceisiadau cynllunio. Nid oedd materion ynghylch angen ac effaith fasnachol yr safle yn ystyriaethau perthnasol o dan y Ddeddf Trwyddedu.

 

Yn unol â'r gyfraith, yr oedd yr Is-bwyllgor wedi rhoi pwys ar farn yr Awdurdodau Cyfrifol a oedd wedi cyflwyno sylwadau gan nodi nad oedd yr un ohonynt yn credu ei bod yn briodol i wrthod y cais.

 

Yr oedd yr Is-bwyllgor yn cydnabod bod yn rhaid i'w benderfyniad gael ei seilio ar dystiolaeth wirioneddol, ac nad oedd pryderon nac ofnau ynghylch yr hyn a allai ddigwydd pe caniateid trwydded, lle nad oedd tystiolaeth o'r fath i'w hategu, yn faterion y gallent eu hystyried yn briodol.

 

Roedd yr Is-bwyllgor yn gwerthfawrogi pryderon gwirioneddol y trigolion lleol ynghylch yr effaith y gallai rhoi trwydded ei chael.  Fodd bynnag, nid oedd y pryderon hynny wedi'u hategu yn y gwrandawiad gan dystiolaeth wirioneddol ystyrlon o broblemau yn y safle neu'r cyffiniau ers iddo agor.

 

Heb dystiolaeth wirioneddol yngl?n â phroblemau yn y safle ers iddo agor, teimlai'r Is-bwyllgor nad oedd ganddo unrhyw gyfiawnhad dros wyro oddi wrth farn yr Awdurdodau Cyfrifol.  Felly, roedd yn fodlon ei bod yn briodol caniatáu'r drwydded yn amodol ar yr  amodau y cytunwyd arnynt rhwng yr ymgeisydd a'r Awdurdodau Cyfrifol a bod yr amodau hynny yn ymateb cymesur i'r materion a nodwyd.

 

O ystyried y canfyddiadau uchod, teimlai'r Is-bwyllgor nad oedd unrhyw sail gyfreithiol y gallai gyfiawnhau gohirio materion er mwyn cynnal ymweliad safle.

 

 

 

 

 

 

________________________                                          __________________

Y CADEIRYDD                                               Y DYDDIAD

 

 

 

 

Dogfennau ategol: