Agenda item

CYLLIDEB Y CYFRIF REFENIW TAI (REFENIW A CYFALAF) A PHENNU RHENTI TAI AR GYFER 2022/23

Cofnodion:

[SYLWER: Roedd y Cynghorydd H.A.L. Evans wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach a gadawodd y cyfarfod tra bo ystyriaeth yn cael ei rhoi iddi]

 

Bu'r Cabinet yn ystyried adroddiad a oedd yn dwyn ynghyd y cynigion diweddaraf ar gyfer Cyllidebau Refeniw a Chyfalaf y Cyfrif Refeniw Tai am 2022/23 i 2024/25. Nodwyd bod yr adroddiad wedi cael ei ystyried a'i gymeradwyo gan y Pwyllgor Craffu – Cymunedau yn ei gyfarfod ar 31 Ionawr 2022, fel rhan o'r broses ymgynghori ynghylch y gyllideb.

 

Cafodd yr adroddiad ei baratoi gan adlewyrchu'r cynigion diweddaraf a oedd yn rhan o Gynllun Busnes y Cyfrif Refeniw Tai, sef y prif gyfrwng cynllunio ariannol ar gyfer darparu Safon Tai Sir Gaerfyrddin a Mwy (STSG+) ar gyfer y dyfodol. Nodwyd bod y buddsoddiad arfaethedig yn y cynllun busnes presennol wedi cyflawni Safon Tai Sir Gaerfyrddin erbyn 2015 (i'r cartrefi lle'r oedd tenantiaid wedi cytuno i gael y gwaith wedi'i wneud), wedi darparu'r buddsoddiad i gynnal Safon Tai Sir Gaerfyrddin a Mwy, ac wedi parhau i fuddsoddi yn y Cynllun Cyflawni ar gyfer Adfywio a Datblygu Tai.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau fod buddsoddiad cyfalaf o tua £231m wedi darparu Safon Tai Sir Gaerfyrddin i denantiaid ac, yn fwy diweddar, hyd at ddiwedd y flwyddyn ariannol hon, roedd £83m pellach wedi'i wario ar gynnal Safon Tai Sir Gaerfyrddin a Mwy ar gyfer eiddo a thenantiaid. Dros y 3 blynedd nesaf roedd disgwyl i £64m pellach gael ei wario ar gynnal a gwella'r stoc tai.

 

Roedd y gyllideb hefyd yn darparu cyllid o tua £56m dros y 3 blynedd nesaf i gynnal y Safon Tai Sir Gaerfyrddin a Mwy a £56m i gefnogi'r Rhaglen Tai Fforddiadwy.

 

Atgoffwyd y Cabinet, ers 2015, ei fod yn ofynnol i'r Awdurdod fabwysiadu Polisi Cysoni Rhent Tai Cymdeithasol Llywodraeth Cymru, a oedd yn golygu bod y cynnydd arfaethedig mewn rhent yn cael ei ragnodi gan gyfarwyddyd Llywodraeth Cymru, a thrwy hynny, ddarparu dosbarthiad mwy teg o'r rhenti ar gyfer tenantiaid y sector cymdeithasol. Er i'r polisi hwnnw ddod i ben yn 2018/19, a bod polisi interim wedi'i roi ar waith ar gyfer 2019/20, roedd Llywodraeth Cymru wedi datblygu polisi newydd i'w weithredu yn 2020/21 am gyfnod o 5 mlynedd o 2020/21, a oedd yn cynnwys rhai gofynion ychwanegol/diwygiedig, fel y nodwyd yn yr adroddiad. Roedd prif elfennau'r polisi hwnnw'n caniatáu i Awdurdodau Lleol gynyddu cyfanswm y rhent gan y Mynegai Prisiau Defnyddwyr (CPI) +1% ar gyfer pob un o'r pum mlynedd hyd at 2024/25. Roedd hefyd yn caniatáu i lefel y rhent ar gyfer tenantiaid unigol godi o hyd at £2 ychwanegol ar ben CPI+1% ar gyfer cysoni rhenti, ar yr amod na fyddai cyfanswm yr incwm rhent a gasglwyd gan y landlord cymdeithasol yn fwy na CPI+1%.

 

Dywedwyd wrth y Cabinet fod gosod y rhent o fewn polisi presennol y Llywodraeth, yn cydnabod yr angen i osod y rhent ar lefel fforddiadwy i denantiaid, gan gyflawni'r dyheadau a cheisio sicrhau bod yr ymrwymiad blaenorol i denantiaid trwy weithredu'r polisi cysoni a sefydlu lefel decach o rent i'r holl denantiaid yn anodd iawn ei gyflawni.

 

Wrth ymateb i'r holl flaenoriaethau a chydbwyso'r cynllun busnes, byddai'r cynnydd o 2.9% ar gyfartaledd mewn rhent yn cynhyrchu rhent cyfartalog o £94.26 i denantiaid.

 

Fel rhan o'r amlen cynnydd cyffredinol mewn rhent, cynigiwyd bod yr Awdurdod yn parhau â'r cynnydd rhent a osodwyd ar uchafswm o £1 ar gyfer eiddo sy'n is na'r rhent targed.

 

Bydd hyn yn cynhyrchu cynnydd o £2.66 yr wythnos mewn rhent tai cyfartalog, sy'n is na lefel cynnydd uchaf Llywodraeth Cymru a byddai'n arwain at lefel rhent a fyddai'n un o'r lefelau rhent isaf a bennwyd ar draws yr un ar ddeg o Awdurdodau yng Nghymru sy'n cadw stoc dai.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR:

 

7.1

Bod y rhent tai cyfartalog yn cael ei gynyddu yn unol â Pholisi Rhenti Tai Cymdeithasol Llywodraeth Cymru:-

a)    Bod cynnydd o 2.74% yn cael ei wneud i renti eiddo sydd ar y targed

b)   Bod eiddo lle mae'r rhent yn is na'r rhenti targed yn cynyddu gan 2.74% yn ogystal â'r cynnydd mwyaf posibl o £1.00

c)    Bod rhenti a oedd yn uwch na'r rhent targed yn cael eu rhewi hyd nes iddynt ddod yn unol â'r targed

d)   Bydd hyn yn arwain at gynnydd o 2.9% neu £2.66 yr wythnos o ran y rhent tai cyfartalog

Gan arwain felly at gynhyrchu Cynllun Busnes cynaliadwy, cynnal STSG+, darparu adnoddau ar gyfer ein Cynllun Cyflawni ar gyfer Adfywio a Datblygu Tai ac fe'i cefnogwyd gan y Tîm Strategol Tai ac Adfywio.

7.2

Gweithredu cynnydd mwyaf posibl o £1.00 ar gyfer rhenti sy'n is na'r rhenti targed, hyd nes y cyrhaeddir y rhenti targed;

7.3

Cadw rhent garejis yn £9.00 yr wythnos a sylfeini garejis yn £2.25 yr wythnos;

7.4

Rhoi'r Polisi ynghylch Taliadau am Wasanaethau ar waith er mwyn sicrhau bod y tenantiaid sy'n cael gwasanaethau penodol yn talu am y gwasanaethau hynny;

7.5

Cynyddu'r taliadau am ddefnyddio gwaith trin carthffosiaeth y Cyngor, yn unol â'r cynnydd mewn rhenti;

7.6

Cymeradwyo Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer 2022/23 (cyllidebau dangosol yw rhai 2023/24 a 2024/25), fel y nodwyd yn Atodiad A i'r adroddiad;

7.7

Cymeradwyo'r Rhaglen Gyfalaf arfaethedig a'r cyllido perthnasol ar gyfer 2022/23, a'r gwariant mynegiannol a bennwyd ar gyfer 2023/24 hyd 2024/25, fel y'u nodwyd yn Atodiad B i'r adroddiad.

 

 

Dogfennau ategol: