Agenda item

RHYBUDD O GYNNIG A GYFLWYNWYD GAN Y CYNGHORYDD JOHN JAMES:

‘Rhybudd o Gynnig

1)    Rydym yn croesawu'r cynnydd yn y Setliad Refeniw Llywodraeth Leol a fydd yn gweld cynnydd o 9.2% yn nyraniad cyllid Cyngor Sir Caerfyrddin ar gyfer 2022/23.

 

2)    Rydym yn cytuno ag Arweinydd y Cyngor pan ddywedodd yn ddiweddar: “Rwy'n croesawu'r setliad hwn yn fawr gan Lywodraeth Cymru, mae'n un o'r setliadau gorau y mae cynghorau wedi'i weld ers amser maith. Mae'n dyst i'r ddeialog adeiladol a rheolaidd gyda gweinidogion ac Aelodau ehangach y Senedd, sydd yn sicr wedi cael ei gwerthfawrogi gan arweinwyr y cyngor.”

 

3)    Mae'r Cyngor hwn yn cefnogi penderfyniad Llywodraeth Cymru i ddiogelu gwasanaethau llywodraeth leol gymaint â phosibl er bod ei chyllideb ei hun £3bn yn is erbyn 2024/25 nag y byddai wedi bod fel arall pe bai wedi cynyddu yn unol â'r economi ers 2010/11.

 

4)    Yn anffodus, mae Llywodraeth Geidwadol y DU yn parhau i danariannu gwasanaethau cyhoeddus, yn gyffredinol, a'r rheiny yng Nghymru yn arbennig, a chytunwn fod holl Arweinwyr Grwpiau Gwleidyddol y Cyngor yn ysgrifennu ar y cyd at Ganghellor y Trysorlys yn ei annog i adfer cyllid i Lywodraeth Cymru i'r termau gwirioneddol sy'n cyfateb i'w lefel yn 2010, o leiaf.’

 

Cofnodion:

Bu'r Cyngor yn ystyried y Rhybudd o Gynnig canlynol a gyflwynwyd gan y Cynghorydd John James:-

 

‘Bod y Cyngor hwn

1)  Yn croesawu'r cynnydd yn y Setliad Refeniw Llywodraeth Leol a fydd yn gweld cynnydd o 1% yn nyraniad cyllid Cyngor Sir Caerfyrddin ar gyfer 2022/23.

2)  Yn cytuno ag Arweinydd y Cyngor pan ddywedodd yn ddiweddar: “Rwy'n croesawu'r setliad hwn yn fawr gan Lywodraeth Cymru, mae'n un o'r setliadau gorau y mae cynghorau wedi'i weld ers amser maith. Mae'n dyst i'r ddeialog adeiladol a rheolaidd gyda gweinidogion ac Aelodau ehangach y Senedd, sydd yn sicr wedi cael ei gwerthfawrogi gan arweinwyr y cyngor.”

3) Mae'r Cyngor hwn yn cefnogi penderfyniad Llywodraeth Cymru i ddiogelu gwasanaethau llywodraeth leol gymaint â phosibl er bod ei chyllideb ei hun £3bn yn is erbyn 2024/25 nag y byddai wedi bod fel arall pe bai wedi cynyddu yn unol â'r economi ers 2010/11.

4) Yn anffodus, mae Llywodraeth Geidwadol y DU yn parhau i danariannu gwasanaethau cyhoeddus, yn gyffredinol, a'r rheiny yng Nghymru yn arbennig, a chytunwn fod holl Arweinwyr Grwpiau Gwleidyddol y Cyngor yn ysgrifennu ar y cyd at Ganghellor y Trysorlys yn ei annog i adfer cyllid i Lywodraeth Cymru i'r termau gwirioneddol sy'n cyfateb i'w lefel yn 4, o leiaf.’

 

Eiliwyd y Cynnig.

 

Cynigiwyd y gwelliant canlynol [testun wedi'i danlinellu] i'r cynnig gan y Cynghorydd K. Broom a chafodd ei eilio:

 

‘Bod y Cyngor hwn

 

1)          Yn croesawu'r cynnydd yn y Setliad Refeniw Llywodraeth Leol a fydd yn gweld cynnydd o 9.2% yn nyraniad cyllid Cyngor Sir Caerfyrddin ar gyfer 2022/23.

 

2)          Yn cytuno ag Arweinydd y Cyngor pan ddywedodd yn ddiweddar: “Rwy'n croesawu'r setliad hwn yn fawr gan Lywodraeth Cymru, mae'n un o'r setliadau gorau y mae cynghorau wedi'i weld ers amser maith. Mae'n dyst i'r ddeialog adeiladol a rheolaidd gyda gweinidogion ac Aelodau ehangach y Senedd, sydd yn sicr wedi cael ei gwerthfawrogi gan arweinwyr y cyngor.”

 

3)          Yn cydnabod, yn ogystal â phwysau costau gwasanaeth mewn meysydd megis gofal cymdeithasol, fod risg sylweddol i'n sefyllfa cyllido gan fod Llywodraeth Cymru yn gofyn yn benodol i Awdurdodau Lleol ysgwyddo'r risgiau sy'n gysylltiedig â dyfarniadau cyflog yn y dyfodol, pwysau chwyddiant digynsail (megis costau nwy a thrydan y disgwylir iddynt godi 20%), costau parhaus sy'n gysylltiedig â Covid-19 a gostyngiad parhaus mewn incwm, a chyfraniadau ychwanegol gan gyflogwyr o ganlyniad i gynnydd arfaethedig Llywodraeth y DU mewn Yswiriant Gwladol o 1 Ebrill 2022. 

 

4)      Yn cefnogi penderfyniad Llywodraeth Cymru i ddiogelu gwasanaethau llywodraeth leol gymaint â phosibl er bod ei chyllideb ei hun £3bn yn is erbyn 2024/25 nag y byddai wedi bod fel arall pe bai wedi cynyddu yn unol â'r economi ers 2010/11.Fodd bynnag, rydym yn cydnabod bod setliad Llywodraeth Cymru i'r Cyngor hwn wedi lleihau'n sylweddol mewn termau real ers 2010, heb roi fawr o ystyriaeth i'r pwysau yn sgil chwyddiant cyflogau, cynnydd mewn pensiynau a phwysau gwasanaeth eraill.

 

5)    Yn anffodus, mae Llywodraeth Geidwadol y DU yn parhau i danariannu gwasanaethau cyhoeddus, yn gyffredinol, a'r rheiny yng Nghymru yn arbennig, a chytunwn fod holl Arweinwyr Grwpiau Gwleidyddol y Cyngor yn ysgrifennu ar y cyd at Ganghellor y Trysorlys yn ei annog i adfer cyllid i Lywodraeth Cymru i'r termau gwirioneddol sy'n cyfateb i'w lefel yn 2010, o leiaf.’

 

Rhoddwyd cyfle i Gynigydd ac Eilydd y Gwelliant siarad o'i blaid a rhoesant amlinelliad o'r rhesymau dros ei gyflwyno, fel y'u nodwyd yn y Gwelliant.

 

Cafodd cynigydd y Rhybudd o Gynnig yr hawl i ymateb a chyfle i siarad o blaid y Cynnig a bu iddo amlinellu'r rhesymau dros ei gyflwyno, fel y'u nodwyd yn y Cynnig. 

 

Dywedwyd wrth y Cyngor, pe bai'r Gwelliant yn cael ei dderbyn, mai dyma fyddai'r cynnig sylweddol.

 

Yn dilyn pleidleisiau,

 

PENDERFYNWYD bod y Cynnig yn cael ei gefnogi.

Dogfennau ategol: